Cyfraddau llog

Rydym yn cynnig ystod o gyfraddau llog wedi'u teilwra i'r math o fenthyciad rydych chi'n mynd amdano a ffactorau allweddol am eich busnes.

Cyfraddau llog fesul cynnyrch

Rydym yn cynnig gwahanol gyfraddau llog a ffioedd ar gyfer pob un o'n gwahanol gynhyrchion. Mae'r ystod o gyfraddau a ffioedd ar gael isod:

Math o Fenthyciadystod cyfradd llog*Ffioedd
Benthyciadau Rheoleiddiedig DCD*6.75% - 11.75%Dim ffi trefnu
Micro Fenthyciadau (hyd at £100k)6.75% - 11.75%Dim ffi trefnu
Benthyciadau £100k – £10m6.3% - 12.5%Ffi drefnu o 1% – 2%
Benthyciadau Datblygu Eiddo6.25% - 10.25%Ffioedd trefnu ac ymadael o 2% – 4%


Benthyciadau busnes

Sut rydym yn penderfynu pa gyfradd llog a ffioedd i'w codi

Caiff pob cais a dderbyniwn ei ystyried yn unigol. Bydd y gyfradd llog a godwn yn seiliedig ar y ffactorau canlynol:

  • Credydgarwch eich busnes, a aseswn gan ddefnyddio asiantaeth cyfeirio credyd
  • Diogelwch / sicrwydd sydd ar gael
  • Perfformiad ariannol diweddar eich busnes
  • Y tymor y mae'r benthyciad yn cael ei gymryd drosto
  • Beth mae'r benthyciad yn cael ei ddefnyddio i'w ariannu

Mae ein benthyciadau busnes yn cynnwys:

  • Benthyciadau a reoleiddir gan DCD hyd at £25,000 a ddarperir i fasnachwyr unigol a phartneriaethau. Mae cyfraddau llog yn amrywio o 6.75% i 11.75%**, gyda chyfradd gyfartalog o 11.32%.***
  • Micro fenthyciadau hyd at £100,000 (ac eithrio'r benthyciadau DCD y cyfeirir atynt uchod). Mae cyfraddau llog yn amrywio o 6.75% i 11.75%**, gyda chyfradd gyfartalog o 10.57%.***
  • Benthyciadau rhwng £100,000 a £10,000,000. Mae cyfraddau llog yn amrywio o 6.3% i 12.50%*, gyda chyfradd gyfartalog o 8.50%.***

Mae micro fenthyciadau yn cynnig cyfraddau llog sefydlog am hyd at 10 mlynedd; ar gyfer benthyciadau uwchlaw £100,000, mae cyfraddau wedi'u gosod am hyd at 5 mlynedd.

Ffioedd

Nid ydym yn codi ffioedd trefnu ar fenthyciadau rheoleiddiedig a micro-fenthyciadau DCD.

Ar fenthyciadau dros £100,000, mae ffioedd trefnu rhwng 1% a 2% o'r benthyciad.

Benthyciadau datblygu eiddo

Sut rydym yn penderfynu pa gyfradd llog a ffioedd i'w codi

Caiff pob cais a dderbyniwn ei ystyried yn unigol. Bydd y gyfradd llog a'r ffioedd a godwn yn seiliedig ar y ffactorau canlynol:

  • Eich profiad a'ch gallu i gyflawni fel datblygwr a'ch tîm proffesiynol cyfagos, gan gynnwys y prif gontractwr
  • Eich ymrwymiad ariannol i'r prosiect
  • Cymhareb y benthyciad i'r Gwerth Datblygu Gros
  • Perfformiad ariannol eich busnes
  • Maint a chymhlethdod eich prosiect
  • Y galw tebygol am eich unedau gorffenedig


Mae cyfraddau llog yn amrywio o 6.25% i 10.25%**, gyda chyfradd gyfartalog o 7.82%.***

Ffioedd

Cyfanswm y ffioedd yn amrywio o 2% i 4%.

*Mae benthyciadau a reoleiddir gan y DCD yn cyfeirio at fenthyciadau neu gytundebau credyd a reoleiddir gan Ddeddf Credyd Defnyddwyr (DCD) 1974 y DU. 
**Cyfraddau wedi'u cyfrifo o ganllawiau prisio blynyddol a ddiweddarwyd ddiwethaf ym mis Mai 2026. 
***Cyfrifir y gyfradd llog gyfartalog gan ddefnyddio cyfartaledd pwysol o fenthyciadau a wnaed rhwng 1af Ebrill 2025 a 31ain Mawrth 2026.

 

Cyfraddau gostyngedig

Mae ein Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn cynnig pecyn ariannu â chymhellion i gefnogi busnesau sy'n symud tuag at gynaliadwyedd a lleihau eu hallyriadau carbon. Mae hyn yn cynnwys cyfraddau llog sefydlog disgownt ar fenthyciadau busnes gwyrdd ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni a gosodiadau gwres carbon isel.

Drwy’r cronfeydd cyllid datblygu eiddo rydyn ni’n eu rheoli mae gennym ni Gymhelliant Datblygu Gwyrdd sy’n cynnig gostyngiad o hyd at 2% mewn ffioedd benthyciadau*** i ddatblygwyr preswyl sy’n gallu bodloni safonau gwyrdd allweddol ar gyfer prosiectau adeiladu newydd. 

***Er enghraifft, os cyfrifwyd cyfanswm eich ffioedd trefnu ac ymadael ar 3.5%, a’ch bod chi’n gymwys ar gyfer y Cymhelliant Datblygu Gwyrdd mwyaf, gellid lleihau cyfanswm eich ffioedd 2%, gan eu gostwng i 1.5%