Sut i ysgrifennu cynllun busnes

Portrait of Sophie Vellam
Swyddog Ymgyrchoedd
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Prynu busnes
Cyllid
Twf
Dechrau busnes
Mentrau tech
business plan

Pan fydd pobl yn meddwl am gynlluniau busnes, y peth cyffredin sy'n dod i feddwl pobl ydi busnesau sy'n dechrau o'r newydd yn pitshio i fuddsoddwyr neu wneud cais am fenthyciadau. Ond does ots ar ba gam twf y mae eich busnes ar y pryd, a p'un a ydych chi'n chwilio am gyllid allanol ai peidio, mae cynllun busnes - o'i wneud yn iawn - yn gallu bod yn arf pwysig wrth helpu'ch busnes i lwyddo.

Hwn i’r map sy’n dangos y ffordd ar gyfer eich busnes, mae'n nodi'r hyn yr hoffech ei gyflawni a sut rydych chi'n mynd i'w gyflawni - ac mae hynny'n eich helpu i bennu eich amcanion, canolbwyntio'ch strategaethau a blaenoriaethu. Felly mae cynllun busnes yr un mor werthfawr ar gyfer ei ddefnyddio’n fewnol ag y mae ar gyfer esbonio'ch busnes i bobl eraill.   

Yn y canllaw hwn, byddwn yn rhoi awgrymiadau hanfodol i chi ac yn mynd â chi gam wrth gam trwy'r gwahanol rannau o gynllun busnes, fel y gallwch chi ddechrau creu un sydd wirioneddol yn gweithio i'ch busnes chi.

Tri awgrym allweddol ar gyfer creu cynllun busnes

 

1) Cadwch eich cynulleidfa darged mewn cof

Mae'n debygol ar ryw adeg y bydd angen i chi roi trosolwg o'ch cwmni i bobl neu sefydliadau allanol. Yn yr achosion hyn, mae cynllun busnes yn gweithredu nid yn unig fel y ffordd orau o gyflwyno gwybodaeth ond yn aml mae'n rhywbeth sy'n rhaid ei wneud.

Gall y sawl sy'n darllen eich cynllun busnes gynnwys:

  • Banciau, buddsoddwyr ecwiti, darparwyr grant a chyllidwyr eraill
  • Unrhyw un sydd â diddordeb mewn prynu'ch busnes
  • Partneriaid posibl
  • Gweithwyr yn y dyfodol

 

Os ydych chi eisiau pitshio eich cwmni yn effeithiol, mae'n bwysig addasu'ch cynllun ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. Nid yw hyn yn golygu ei ailysgrifennu'n llwyr ar gyfer pob person sy'n ei ddarllen; byddwch am gynnwys rhai darnau o wybodaeth neu bwysleisio meysydd penodol yn seiliedig ar ddiddordebau eich cynulleidfa.

Er enghraifft, os ydych chi'n ceisio codi buddsoddiad ecwiti, yna dylai'ch cynllun ddangos potensial eich cwmni ar gyfer twf, galw'r farchnad a chryfder eich tîm rheoli. Os ydych chi'n gwneud cais am fenthyciad banc, efallai y bydd eich pwyslais yn fwy ar lif arian a diogelwch asedau, gan ddangos eich gallu i ad-dalu benthyciad.

Mae hefyd yn bwysig meddwl am yr iaith rydych chi'n ei defnyddio. Mae'n debyg na fydd gan y rhan fwyaf o ddarllenwyr yr un lefel o arbenigedd yn eich maes a beth sydd gennych chi, felly osgowch ddefnyddio gormod o jargon technegol wrth ddisgrifio'ch cynnyrch.

Os bwriedir i'ch cynllun busnes fod ar gyfer defnydd mewnol yn unig, mae'n dda ei ysgrifennu fel pe bai wedi cael ei anelu at ddarllenwyr allanol.

 

2) Meddyliwch am hyd y cyflwyniad

Un o'r cwestiynau mwyaf cyffredin sy'n cael ei holi mewn perthynas â chynllunio cynllun busnes yw 'pa mor hir ddylai fod?' Bydd yr ateb i hyn yn dibynnu eto ar bwrpas a chynulleidfa eich cynllun. Os ydych chi'n dymuno codi swm sylweddol o gyfalaf, mae'n debyg y bydd angen iddo fod yn hirach ac yn fwy manwl na fyddai petai wedi cael ei anelu ar gyfer ei ddefnyddio'n fewnol yn unig. Wedi dweud hynny, fe all cynllun sy’n rhy hir nad yw'n cyfleu eich syniad ar y cyfan olygu bod darpar gyllidwyr yn colli diddordeb.

Felly mae'n syniad da meddwl pa mor hawdd i'w ddarllen yw’r cynllun a defnyddio hyn fel mesur o ran pa mor hir ddylai fod yn hytrach na nifer y tudalennau. Canolbwyntiwch ar ysgrifennu a ffurfiwch gynllun mewn ffordd sy'n hawdd i’w dreulio tra'n dal i gyfleu'r holl fanylion angenrheidiol.

Mae cynllun sy'n cynnwys dim ond deg tudalen o hyd ond yn un sydd wedi ei gyflwyno'n wael yn llai tebygol o hoelio sylw'r darllenydd na chynllun ddwywaith cyn hired ond wedi'i gyflwyno'n dda. Cadwch eich iaith yn gryno, gwnewch yn siŵr bod y testun wedi'i osod allan yn dda gyda phenawdau a phwyntiau bwled, ac ystyriwch ddefnyddio siartiau, graffiau a delweddau lle bo'n berthnasol. Os oes angen mwy o le arnoch ar gyfer gwybodaeth ategol, fel ymchwil fanwl am y farchnad, yna gallwch ei gynnwys mewn atodiad.

 

3) Adolygwch eich cynllun

Unwaith y byddwch wedi ysgrifennu eich cynllun busnes, mae'n hanfodol ei adolygu a'i olygu'n ofalus. Dangoswch ef i’ch ffrindiau ac ymgynghorwyr arbenigol, fel eich cyfrifydd, i wneud yn siwr ei fod yn hawdd ei ddeall a bod eich holl bwyntiau'n cael eu hesbonio'n glir.

Rydych chi hefyd eisiau sicrhau bod eich cynllun yn asesiad realistig o'ch busnes, y farchnad a'ch nodau, gyda thystiolaeth ac enghreifftiau i ategu'r datganiadau a wnewch. Yn hytrach na chyflwyno gweledigaeth rhy optimistaidd, mae'n well cydnabod y risgiau a'r heriau posibl a sut y byddwch yn mynd i'r afael â nhw.

Mae bod yn realistig a chywir yn arbennig o bwysig o ran data ariannol; dylech ofalu peidio ag amcangyfrif eich rhagamcaniadau ariannol oherwydd fe all hyn effeithio'n negyddol ar eich hygrededd. Os oes angen cymorth arnoch i gael y manylion ariannol yn iawn, gallwch ddefnyddio cyfrifydd neu gael cymorth gan wasanaethau fel Busnes Cymru.

Un pwynt olaf y dylem sôn amdano cyn i ni fynd ati i amlinellu gwahanol rannau'r cynllun busnes yw, unwaith y byddwch chi wedi creu eich cynllun, cofiwch ei ddefnyddio. Er mwyn iddo fod yn offeryn mewnol effeithiol, mae angen i hon fod yn ddogfen fyw sy'n cael ei hadolygu a'i ddiweddaru'n barhaus. Bydd diweddaru'ch cynllun yn rheolaidd yn eich galluogi i gadw ar ben unrhyw newidiadau, gwneud addasiadau a sicrhau bod eich busnes yn aros ar y trywydd iawn i gwrdd â'ch nodau.

Nawr ein bod wedi trafod yr awgrymiadau allweddol hyn, mae'n bryd eich arwain trwy gydrannau nodweddiadol cynllun busnes. Er nad oes ffasiwn beth ag 'un-maint-sy'n-ffitio-pawb' o ran cynlluniau busnes, mae'r rhan fwyaf yn dilyn amlinelliad tebyg a bydd cael canllaw ar gyfer y strwythur yn eich helpu chi i gael trefn ar y cynnwys.  

1) Cyflwyniad

Mae'r cyflwyniad, a elwir yn aml yn grynodeb gweithredol, yn rhoi trosolwg clir o'r hyn y mae eich busnes yn ei wneud ac yn datgan yr hyn rydych chi'n chwilio amdano gan eich cynulleidfa darged. Yn ei hanfod mae hwn yn grynodeb o'r pwyntiau allweddol o holl rannau eraill eich cynllun, felly, yn gyffredinol mae'n gwneud synnwyr i ysgrifennu hwn olaf.

Y bennod gyntaf hon yn aml yw'r bwysicaf i lawer o fusnesau oherwydd fe all ddylanwadu ar benderfyniad eich cynulleidfa i ddarllen gweddill y cynllun ai peidio - felly os ydych chi'n bwriadu codi arian, efallai mai dyma'ch unig gyfle i fachu sylw benthyciwr neu fuddsoddwr. Felly dylech anelu at ei wneud yn addysgiadol ond yn gryno (uchafswm o ddwy dudalen), sy'n cwmpasu uchafbwyntiau eich cynllun a rhoi dealltwriaeth dda i'r darllenwr o'ch busnes heb fynd i ormod o fanylion.

2) Amlinelliad o'r busnes a'r cynhyrchion

Yn y rhan hon, byddwch yn darparu manylion allweddol am eich cwmni, yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig a'r hyn rydych chi am ei gyflawni.

Dylech ddechrau gydag eglurhad clir o'ch busnes a'i hanes, gan gynnwys:

  • Pryd wnaethoch chi ddechrau neu pryd ydych chi'n bwriadu dechrau masnachu a'r cynnydd a wnaed hyd yma
  • Y math o fusnes (e.e. gwasanaeth, manwerthu, gweithgynhyrchu) a'r diwydiant rydych chi'n gweithredu ynddo
  • Y strwythur cyfreithiol (ee unig berchenogaeth, partneriaeth, cwmni cyfyngedig) a gwybodaeth am berchnogaeth
  • Eich nodau a'ch amcanion ar gyfer y dyfodol

Wedyn gellir dilyn hyn gyda disgrifiad o'r cynnyrch neu'r gwasanaeth a ddarperir gennych:

  • Y manteision y mae'n eu cynnig a beth sy'n ei wneud yn wahanol
  • Unrhyw newidiadau neu welliannau rydych chi'n eu cynllunio
  • Unrhyw batentau neu nodau masnach sydd gennych

 

3) Beth / pwy yw eich marchnad a phwy ydych chi'n cystadlu yn eu herbyn

Nesaf fydd y disgrifiad i bwy rydych chi'n ei werthu, eu hanghenion a sut rydych chi'n eu bodloni, a phwy arall sy'n darparu cynnyrch neu wasanaeth tebyg. Dylech ddangos dealltwriaeth gadarn o'r farchnad a'ch lle ynddi, gan ddefnyddio canlyniadau unrhyw ymchwil marchnad rydych chi wedi'i gynnal i gefnogi'ch datganiadau.

Pan ddaw hi'n fater o ddadansoddi cystadleuwyr, y rheol gyntaf un yw peidiwch byth â honni nad oes gennych gystadleuaeth. Waeth pa mor unigryw yr ydych chi'n gredu yw eich cynnyrch chi, bydd yna wastad fusnesau sy'n cynnig rhywbeth tebyg, neu gystadleuwyr sy'n dod i mewn i'r farchnad yn y dyfodol. Defnyddiwch hyn fel cyfle i dynnu sylw at pam fod eich busnes a'ch cynnyrch chi'n arbennig.

Dyma rai o'r cwestiynau y bydd eisiau i chi eu hystyried:

  • Beth yw nodweddion y farchnad rydych chi'n gweithredu ynddi? Er enghraifft, maint, cyfradd twf a thueddiadau pwysig
  • Pwy yw'ch cwsmeriaid targed? Yma fe allech chi gynnwys gwybodaeth ddemograffig a nodi cymhellion eich cwsmeriaid, hynny yw pam y byddent am brynu'ch cynnyrch chi
  • Pwy yw'ch cystadleuwyr? Beth yw eu maint a'u cyfran o'r farchnad o'i gymharu â'ch un chi? Fel rhan o'ch dadansoddiad, gallwch chi nodi'r ffactorau llwyddiant pwysicaf yn eich marchnad fel pris, gwasanaeth cwsmeriaid a dibynadwyedd cynnyrch, a rhestru eich cystadleuwyr yn y meysydd hyn

 

4) Strategaeth farchnata a gwerthu

Nawr eich bod wedi nodi cydrannau eich marchnad darged, dylech ddisgrifio sut rydych yn bwriadu eu cyrraedd. Nid yw cael cynnyrch gwych ar ei ben ei hun yn ddigon; mae angen i chi hefyd allu dangos eich bod chi’n gallu ei leoli'n effeithiol yn y farchnad, cyfleu ei fuddion a'i werthu i ddarpar gwsmeriaid.

Mae'r meysydd allweddol y dylech ymdrin â hwy yn fan hyn yn cynnwys:

  • Sut ydych chi'n gosod eich cwmni a'ch cynnyrch. Pa nodweddion a manteision y mae eich cynnyrch yn eu darparu? Ydych chi'n cynnig cynnyrch pris isel neu bremiwm?
  • Eich polisi prisio. Sut y bydd yn apelio at eich cwsmeriaid? Sut mae'n cymharu â phrisio cystadleuwyr?
  • Y dulliau marchnata rydych chi'n bwriadu eu defnyddio i hyrwyddo'ch cynnyrch
  • Eich gwerthiant a'ch cynllun dosbarthu. Pa ddulliau gwerthu ydych chi'n bwriadu eu defnyddio a pha sianelau fyddwch chi'n eu defnyddio i gyrraedd eich cwsmeriaid?

 

5) Strwythur gweithredol

Mae'r rhan hon yn rhoi darlun o gapasiti eich gweithrediadau cyfredol a'ch gofynion gweithredol yn y dyfodol, yn amrywio o bethau fel eich eiddo i'ch systemau TG - yn ei hanfod yr holl brif elfennau sy'n ymwneud â rhedeg eich cwmni ar sail barhaus. Bydd y rhan hon yn son am y gweithrediadau yn benodol i'ch busnes a'ch diwydiant ond dyma rai o'r meysydd y mae'r bennod hon yn aml yn eu cynnwys:

Eiddo busnes

  • Pa eiddo sydd gennych chi neu yr ydych ei angen?
  • Beth yw eich ymrwymiadau hirdymor i'r eiddo?
  • Ydych chi'n berchen arno neu'n rhentu'r eiddo?
  • Beth yw manteision ac anfanteision eich lleoliad presennol? Sut fyddwch chi'n mynd i'r afael â phroblemau posibl? Ydych chi eisiau ehangu neu adleoli?

 

Cynhyrchu

  • Beth yw'r broses sy'n gysylltiedig â chynhyrchu eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth?
  • Beth ydych chi'n ei gynhyrchu, faint ohono ydych chi'n ei gynhyrchu a pha mor hir y mae'n ei gymryd i gynhyrchu uned?
  • Pa offer sydd gennych chi neu ei angen?
  • Beth yw gallu eich cyfleusterau cynhyrchu o'i gymharu â'r galw presennol a rhagamcanol?
  • A oes angen i chi allanoli unrhyw un o'ch prosesau?
  • Pa dechnolegau ydych chi'n eu defnyddio?
  • Pwy yw eich cyflenwyr?  

 

Systemau rheoli gwybodaeth

  • Pa fesurau sydd gennych ar waith i reoli stoc, rheoli cyfrifon ac ansawdd rheoli?
  • Pa mor dda y bydd y systemau hyn yn gallu ymdopi gydag unrhyw ehangiadau yn y dyfodol?

 

Systemau technoleg gwybodaeth (TG)

  • Pa systemau TG ydych chi'n eu defnyddio a pha mor ddibynadwy yw'r rhain?
  • Pa ddatblygiadau TG ydych chi wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol?

 

6) Perfformiad ariannol

Nid yw unrhyw gynllun busnes yn un cyfan heb y rhan ariannol. Yma, byddwch yn cyfiawnhau popeth yr ydych wedi'i ysgrifennu yn eich cynllun gyda ffigurau dibynadwy sydd wedi cael eu hymchwilio'n dda, gan nodi lle mae eich cwmni'n sefyll yn ariannol a lle rydych chi'n rhagweld y bydd o yn y dyfodol agos.

Os ydych chi'n bwriadu codi arian yn allanol yna bydd angen i chi nodi faint o gyfalaf sydd ei angen arnoch, sut rydych chi'n bwriadu defnyddio'r cyfalaf, y buddion y bydd yn ei roi i'ch cwmni, sut rydych chi'n bwriadu ad-dalu unrhyw arian a fenthycwyd, a pa ddiogelwch sydd gennych ar gael i gynnig i fenthycwyr.

Dylech o leiaf gynnwys y datganiadau ariannol a ganlyn:

  • Mantolen. Mae hon yn dangos asedau, rhwymedigaethau eich cwmni, ac ecwiti'r perchennog ar adeg benodol
  • Rhagolygon llif arian. Dylai hyn gynnwys y 12 mis cyntaf o leiaf; bydd busnesau mwy sefydledig fel arfer yn gwneud rhagamcaniadau tymor hwy
  • Datganiad elw a cholled (a elwir hefyd yn ddatganiad incwm). Mae hyn yn rhoi darlun o berfformiad masnachu eich busnes, gan restru'ch gwerthiannau a'ch treuliau

 

7. Atodiad

Nid yw'r rhan hon yn hanfodol, ond os oes gennych ddogfennau a gwybodaeth fanwl i gefnogi'ch cynllun, yna y lle gorau i roi'r rhain yw yn yr atodiad. Er enghraifft, efallai y byddwch am gynnwys data ymchwil marchnad, CVau aelodau'r tîm allweddol, dogfennau cyfreithiol neu lenyddiaeth a delweddau o'r cynnyrch.

Am gyfarwyddyd pellach ar ysgrifennu cynllun busnes, gan gynnwys templed a rhestr wirio cynllun busnes y gellir eu lawr lwytho, ewch i wefan Busnes Cymru yma.