Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Beth yw cynllun busnes?

Mae cynllun busnes yn ddogfen ysgrifenedig sy'n amlinellu amcanion eich busnes, y strategaethau y byddwch yn eu defnyddio i'w cyflawni, a'r adnoddau y bydd eu hangen arnoch ar hyd y ffordd. Mae'n gweithredu fel map ffordd, gan eich helpu i sefydlu'ch nodau'n glir a mesur eich cynnydd yn eu herbyn.

Pam ei bod yn bwysig cael cynllun busnes?

P'un a ydych yn fusnes newydd neu'n gwmni sefydledig, gall cynllun busnes fod yn arf hynod werthfawr. Mae darpar fuddsoddwyr a benthycwyr yn aml yn gofyn am gael gweld cynllun busnes i asesu hyfywedd eich busnes cyn gwneud penderfyniad buddsoddi.

Hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu codi arian, fodd bynnag, gall cynllun busnes fod yn adnodd mewnol defnyddiol. Drwy wneud i chi feddwl yn strategol am eich nodau, y camau i'w cyflawni, ac unrhyw heriau posibl, mae'n darparu cyfeiriad clir a sail ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus.

Er mwyn i'ch cynllun fod yn wirioneddol effeithiol, mae angen iddi fod yn ddogfen ddeinamig yr ydych yn ei hadolygu a'i diweddaru'n barhaus. Bydd diweddaru eich cynllun yn rheolaidd i adlewyrchu newidiadau yn eich busnes a'r farchnad ehangach yn sicrhau eich bod yn aros ar y trywydd iawn i gyflawni'ch amcanion.

Sut i ysgrifennu cynllun busnes

Gall cynlluniau busnes amrywio'n fawr ac nid oes strwythur 'un maint yn addas i bawb'. Fodd bynnag, mae rhai elfennau allweddol y mae cynlluniau busnes yn aml yn eu cynnwys:

  • Cyflwyniad (a elwir hefyd yn 'grynodeb gweithredol') – trosolwg yw hwn yn ei hanfod o'r hyn y mae eich busnes yn ei wneud a'r pwyntiau allweddol o adrannau eraill eich cynllun – felly mae'n gwneud synnwyr i'w ysgrifennu olaf. Dylai fod yn llawn gwybodaeth ond yn gryno (dwy dudalen ar y mwyaf).
  • Disgrifiad o'ch busnes a'ch cynhyrchion - esboniad o'ch cwmni a'i hanes, gan gynnwys y math o fusnes a strwythur cyfreithiol, a disgrifiad o'r cynnyrch neu wasanaeth a gynigiwch.
  • Marchnad a chystadleuaeth – yn cwmpasu eich marchnad darged, eu hanghenion, a sut mae eich cynnyrch neu wasanaeth yn bodloni’r anghenion hynny, gan ddefnyddio ymchwil marchnad i danategu hyn. Dylech hefyd nodi eich cystadleuwyr uniongyrchol ac anuniongyrchol a'u cryfderau a'u gwendidau.
  • Strategaeth farchnata a gwerthu – mae meysydd allweddol i’w trafod yn cynnwys lleoli, prisio, sianeli gwerthu a dulliau dosbarthu, a’r tactegau marchnata y byddwch yn eu defnyddio i hyrwyddo’ch cynnyrch.
  • Strwythur gweithredol – mae’r adran hon yn amlinellu’r holl elfennau allweddol sy’n gysylltiedig â rhedeg eich busnes, megis eich safle, cyfleusterau a phrosesau cynhyrchu, a systemau TG.
  • Perfformiad ariannol – trosolwg manwl o gyllid eich cwmni, gan gynnwys y fantolen, rhagolwg llif arian, a datganiad elw a cholled. Os ydych am godi cyllid allanol bydd angen i chi nodi faint o arian sydd ei angen arnoch, sut rydych yn bwriadu ei ddefnyddio ac ad-dalu unrhyw arian a fenthycwyd, ac unrhyw sicrwydd sydd gennych i'w gynnig i fenthycwyr.
  • Atodiad – nid yw hyn yn hanfodol, ond gall fod yn fan defnyddiol i roi unrhyw ddogfennau a gwybodaeth fanwl i gefnogi eich cynllun, megis data ymchwil marchnad neu lenyddiaeth cynnyrch.

Mae ein herthygl ar sut i ysgrifennu cynllun busnes yn ymdrin â'r adrannau hyn yn fanylach ac yn rhoi rhai awgrymiadau allweddol i'w hystyried wrth lunio eich cynllun.

 

Cwestiynau cyffredin eraill sy’n cael eu gofyn yn aml

Yn yr un modd â’r cynnwys, bydd hyd cynllun busnes yn amrywio o fusnes i fusnes ac nid oes hyd penodol. Yn y pen draw bydd yn dibynnu ar ddiben eich cynllun a'i gynulleidfa darged. Os oes angen i chi godi swm mawr o arian, mae'n debygol y bydd angen i'ch cynllun fod yn hirach ac yn fwy manwl na phe baech ond yn mynd i'w ddefnyddio fel arf mewnol.

Fodd bynnag, mae'n bwysig cyfleu manylion eich cynllun mewn ffordd sy'n cadw sylw eich darllenydd. Yn hytrach na phoeni am gyfrif tudalennau, mae'n well canolbwyntio ar ddarllenadwyedd. Ysgrifennwch a fformatiwch eich cynllun fel ei fod yn hawdd ei ddeall, gan ddefnyddio graffiau a delweddau lle bo'n berthnasol.

Mae gwefan Busnes Cymru yn cynnyws rhagor o wybodaeth am ysgrifennu cynllun busnes ac mae’n cynnwys templed y gellir ei lawrlwytho a rhestr wirio cynllun busnes.

Mae diweddaru eich cynllun busnes yn rheolaidd yn bwysig fel ei fod yn parhau i fod yn arf defnyddiol ar gyfer llywio penderfyniadau. Mae'n syniad da diweddaru eich cynllun pryd bynnag y bydd newid sylweddol yn effeithio ar eich busnes, megis newidiadau yn y farchnad, newidiadau ariannol, neu newidiadau gweithredol. Yn gyffredinol, dylech ei adolygu a'i ddiweddaru o leiaf unwaith y flwyddyn, ond efallai y gwelwch fod angen i chi ei ddiweddaru'n amlach yn dibynnu ar ba mor gyflym y mae'r amgylchedd busnes yn esblygu.

Mae cynllun parhad busnes yn ddogfen sy'n amlinellu set o weithdrefnau i'w dilyn os bydd aflonyddwch ar raddfa fawr yn digwydd, megis trychineb naturiol, problemau cadwyn gyflenwi, neu ymosodiad seiber.

Fe'i cynlluniwyd i sicrhau y gall eich busnes barhau neu ailddechrau'n gyflym ei weithrediadau hanfodol yn ystod ac ar ôl digwyddiad aflonyddgar, gan leihau amser segur a lliniaru risg.