Help, Cwestiynau a Ofynnir yn Aml a Geirfa

Isod fe welwch atebion i'r cwestiynau a ofynnir amlaf i ni am wneud cais am gyllid gennym.

Cyffredinol

Mae Banc Datblygu Cymru yn is-gwmni o Lywodraeth Cymru a sefydlwyd i gefnogi economi Cymru trwy ei gwneud hi'n haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a thyfu.

Mae gennym swyddfeydd ar hyd a lled Cymru yng Nghaerdydd, Llanelli, Y Drenewydd, Llanelwy a Wrecsam.

 

 

Rydyn ni yma i helpu busnesau sy'n seiliedig yng Nghymru neu'n barod i adleoli. Mae hyn yn cynnwys:

  • BBaChau (newydd a sefydledig)
  • Busnesau nad ydynt yn fusnesau bach a chanolig (busnesau cyfalaf canolig)
  • Datblygwyr eiddo
  • Mentrau technoleg (newydd, cyfnod cynnar a sefydledig)

Dim ond busnesau y gallwn ni eu cefnogi ac nid ydym yn cynnig cyfrifon personol na chyfrifon cynilo i unigolion.

Rydym yn cynnig benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti ar gyfer busnesau. Oherwydd ein hyblygrwydd, gallwn ddarparu cymysgedd o fenthyciadau ac ecwiti gyda'i gilydd, gan gynnwys mesanîn, hybrid / cyfuniad o fenthyciadau a chyllid ecwiti.

Na, dim ond benthyciadau masnachol a buddsoddiadau rydym ni'n eu cynnig. Fodd bynnag, gall ein cyllid weithio ochr yn ochr â grantiau i'ch helpu i gael y lefel gywir o arian sydd ei angen arnoch.

I ddarganfod mwy am grantiau, ewch i weld https://businesswales.gov.wales/businessfinance/cy

Gall Banc Datblygu Cymru gynnig benthyciadau sy'n amrywio o £1,000 - £5 miliwn fesul rownd i fusnesau. Gallwn hefyd gynnig buddsoddiad ecwiti o £50,000 hyd at £5 miliwn fesul rownd.

Rydym bob amser yn anelu at gadw ein cyfraddau llog yn gystadleuol. Gall ein hystod o gyfraddau llog blynyddol amrywio o 4% i 12% ac maent yn sefydlog ar gyfer cyfnod ein benthyciad. Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen cyfraddau llog.

Gyda benthyciadau, gallwn dderbyn sicrwydd llawn, rhannol neu ddim. Gall y sicrwydd naill ai ddod o asedau yn y busnes neu warantau personol.

Gall lefel y sicrwydd a roddir ddylanwadu ar gyfradd llog y benthyciad.

 

Gwneud cais am fuddsoddiad

Mae'n rhaid i'ch busnes fod yn seiliedig yng Nghymru neu'n barod i adleoli. Bydd angen darparu cynllun busnes ac ariannol cyn y gallwch chi dderbyn unrhyw gyllid. Edrychwch a yw eich busnes chi'n gymwys trwy ddefnyddio ein gwirydd cymhwyster ar-lein.

 

Yn wahanol i fenthycwyr eraill, gallwn helpu busnes ar draws sectorau, gan gynnwys:

  • Gwasanaethau busnes
  • Peirianneg, electroneg ac opteg
  • Bwyd a diod
  • Gofal Iechyd
  • Diwydiannol a gweithgynhyrchu
  • TGCh, meddalwedd a gwasanaethau
  • Hamdden
  • Gwyddorau bywyd
  • Cyfryngau ac adloniant
  • Technoleg feddygol
  • Gwasanaethau proffesiynol
  • Eiddo
  • Adnewyddadwy
  • Manwerthu

Mae gennym hefyd dîm arbenigol ar gyfer buddsoddiadau mentrau technoleg sy'n gweithio gyda chwmnïau technoleg ifanc sy'n eu cefnogi o'u cyfnodau ymchwil a datblygu i fasnacheiddio llawn a thu hwnt.

Sylwch os gwelwch yn dda fod rhai sectorau yn cael eu hystyried fel rhai sydd â chyfyngiadau ac yn eithriedig rhag cael unrhyw gymorth.

  • Cynhyrchu arfau a bwledi
  • Gamblo
  • Tybaco
  • Gweithgareddau sy'n achosi effaith amgylcheddol
  • Gweithgareddau sy'n foesegol neu'n foesol ddadleuol
     

Y peth cyntaf i'w wneud cyn gwneud cais am fuddsoddiad yw gwirio a yw eich busnes yn gymwys i gael buddsoddiad. Ar ôl i hyn gael ei sefydlu, gallwch wneud cais ar-lein. Os ydych yn fenter technoleg, yn prynu busnes neu'n ddatblygwr eiddo, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni yn gyntaf i drafod eich cais.

Bydd gwneud cais ar-lein gyda'r holl ddogfennau sy'n ofynnol yn helpu i gyflymu'r gwaith o brosesu eich cais. Gallwch arbed y cynnydd a wnewch gyda'ch cais a bydd hynny yn caniatáu i chi ddychwelyd ato yn nes ymlaen os bydd angen ichi wneud hynny. Fodd bynnag, os yw hwn yn broblem, gallwch gyflwyno dim ond y ffurflen gais ar-lein ac anfon y dogfennau angenrheidiol atom yn nes ymlaen.

Fodd bynnag, os ydych yn gwneud cais am fenthyciad eiddo, mae'r dogfennau canlynol yn orfodol:

  • Cyfrifon cwmni (gan gynnwys cwmnïau cysylltiedig)
  • Crynodeb o'r prosiect yn manylu; eich cyfraniad ariannol, cyfraniadau ariannol eraill, caniatâd (au) cynllunio, yr amserlen adeiladu arfaethedig a'r gwerth y gobeithir ei gyflawni yn sgil gwerthiant y datblygiad
  • Dadansoddiad manwl o gostau'r datblygiad
  • Manylion cyn-gwerthu y prosiect, sy'n dangos ad-daliadau'r benthyciad.

Mae hyn yn dibynnu ar ba mor fuan y byddwn yn derbyn yr holl ddogfennau angenrheidiol a maint a chymhlethdod y cyllid sydd ei angen arnoch.

Yn bendant. Mae ein timau portffolio yn gweithio gyda'n cwsmeriaid i helpu i ddarparu cyllid dilynol pan fo angen. Mae hyn yn golygu y gallai cwmni sicrhau sawl rownd o gyllid oddi wrthym dros gyfnod o amser.

Dim ond i fusnesau sydd wedi'u lleoli yn, neu'n barod i adleoli i Gymru y gallwn ddarparu cyllid. Os yw'ch cwmni'n bwriadu agor busnes yng Nghymru, ond mae eich prif swyddfa mewn gwlad arall, efallai y byddwn yn gallu eich helpu yr un fath yn union - yn dibynnu ar nifer o feini prawf busnes.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni a bydd un o'n swyddogion buddsoddi yn cysylltu â chi.

Nid yw ein cefnogaeth yn dod i ben ar ôl i chi gael eich cyllid! Byddwch yn cael swyddog portffolio pwrpasol a fydd yno i ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych , a meithrin perthynas â chi i helpu eich busnes i dyfu. Byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau enw eich gweithiwr portffolio, a gallwch edrych ar y tîm yn fan hyn.

Gallwch gael hwn gan eich swyddog portffolio. Os na allwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt, cysylltwch â ni a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â'r person cywir.

Gallwch. Cysylltwch â'ch swyddog portffolio a all egluro beth sydd angen i chi ei wneud.

Os ydych yn poeni am wneud ad-daliadau, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Bydd eich swyddog portffolio yn gallu trafod opsiynau gyda chi a pho gynharaf y gwnewch hyn, y cynharaf y gallwn helpu.

Mae gennym rwydwaith gwych o gynghorwyr busnes gan gynnwys Busnes Cymru. Cysylltwch â'ch swyddog portffolio a all eich rhoi mewn cysylltiad.

Prynu neu werthu busnes

Ar gyfartaledd, dylai'r broses gymryd rhwng tri a chwe mis yn gyffredinol - yn dibynnu ar gymhlethdod y fargen.

Mewn sawl achos, mae'r prynwyr yn cyfrannu buddsoddiad bach tuag at y costau gyda'r gweddill yn cael ei godi gan fenthycwyr neu fuddsoddwyr. Gellir ystyried benthyciadau, ecwiti a mecanweithiau ‘ennill allan’ i gyd.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am ariannu cytundeb, cysylltwch â ni a gallwn gysylltu gydag un o'n harbenigwyr.

Mae'n debyg y bydd y mwyafrif o'r cyllid yn cael ei godi'n allanol felly mae'n dibynnu ar allu'r busnes yn y dyfodol i ad-dalu ei gyllid yn hytrach na'r swm y mae'r tîm rheoli yn ei ymroddi ar y dechrau.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am ariannu gwerthiant, cysylltwch â ni a gallwn gysylltu gydag un o'n harbenigwyr.

Mae'n bosibl dod â thîm rheoli allanol i mewn i weithio ochr yn ochr â'r tîm presennol (gweler trafodiad y rheolwyr yn prynu i mewn pan fo’r cwmni yn cael ei brynu gan y rheolwyr). Gwneir hyn orau mewn ymgynghoriad â'r tîm presennol, gan nad yw strwythur rheoli sy'n cael ei 'ymwthio' yn gweithio yn aml iawn.

Ydych chi wedi gofyn iddynt? Rydym wedi cwblhau sawl achos pan fo'r Rheolwyr yn Prynu'r Cwmni a hyder ac uchelgais y tīm rheoli wedi cynyddu wrth i'r trafodiad fynd rhagddo.

Bydd hyn yn amrywio o un cyllidwr-i-gyllidwr arall, ond o dan amgylchiadau o'r fath, rydych chi'n ymgymryd â chyd-gyfranddeiliad felly mae'n bwysig bod yr holl fuddiannau yn cael eu hunioni. Mae buddsoddwyr yn disgwyl ymadael â buddsoddiad gydag elw yn ystod y tymor canolig, felly bydd angen i ni wybod beth yw eich barn am y llwybr ymadael tebygol ar y dechrau.

Fel y prynwr, disgwylir i chi lunio cynllun busnes cydlynol yn esbonio sut y byddwch yn rhedeg y busnes a chreu arian parod i ad-dalu'r arian. 

Bydd y cynllun yn cynnwys model ariannol integredig sy'n dangos rhagolygon llif arian dros ddwy i dair blynedd a fydd wedyn yn cael ei brofi gan yr ariannwr. Hon yw'r ddogfen y bydd unrhyw benderfyniad benthyca / buddsoddi yn cael ei seilio arni felly mae'n bwysig eich bod yn ei chael yn iawn. Yn aml, mae defnyddio gwasanaethau ymgynghorydd arbenigol / cyllid corfforaethol i gynorthwyo gyda hyn yn syniad da.

Yn syml, eich cyfrifoldeb chi yw cyflawni yr hyn sy'n y cynllun busnes (neu wneud yn well). Mae cyllidwyr yn deall y gall digwyddiadau annisgwyl achosi newid cyfeiriad, felly, y neges yw y dylai chi roi gwybod i'ch cyllidwyr os oes yna unrhyw amrywiant posibl yn debygol o ddigwydd cyn gynted â phosibl a darparu manylion ynghylch sut yr ydych yn bwriadu mynd i'r afael ag unrhyw heriau sydd i ddod.

Mentrau technoleg

Ydym, rydym yn gallu cynnig cyllid sbarduno (ecwiti) ar gyfer busnesau technoleg newydd sy'n dechrau, deilliannau o'r brifysgol a chwmnïau sy'n gyfoethog mewn ED i'w helpu i fasnachu eu cynhyrchion a'u technolegau a dod â nhw i'r farchnad.

Mae ecwiti rhwng £50,000 a £2 filiwn ac fe'i cynlluniwyd i gefnogi'r cwmni hyd nes ei fod naill ai'n cynhyrchu refeniw ei hun neu'n gallu codi buddsoddiad pellach.

Rydym yn buddsoddi ar draws ystod o sectorau technoleg, gan gynnwys:

  • Ynni a'r amgylchedd
  • Electroneg a pheirianneg
  • TGCh, meddalwedd a gwasanaethau
  • Gwyddorau bywyd
  • Technoleg feddygol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ystod eang o sectorau, ond mae'n rhaid eich bod mewn sefyllfa lle mae eich technoleg a'ch Eiddo Deallusol yn gryf. Os nad yw sector eich busnes chi wedi’i gynnwys yma, gallwch gysylltu â ni a siarad gydag aelod o'n tîm mentrau technoleg i gael arweiniad
 

Yn nodweddiadol, gallwn fuddsoddi £50,000 - £2 filiwn dros gyfnod o gerrig milltir mewn rhan-daliadau sy'n golygu ein bod yn rhyddhau'r cyllid ar gyfnodau yn unol ag amserlen benodol pan fydd eich busnes yn cyrraedd nodau penodol.

Ydym ac nac ydym. Mae ein cyllid sbarduno yn bendant ar gyfer ecwiti yn unig, ond ar gyfer busnesau mwy sefydledig ac ar gyfer rowndiau dilynol, gallwn ddarparu benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti.
 

Geirfa

Dyma rai ymadroddion a thermau y gallech ddod ar eu traws ar y wefan hon.

Term

Ystyr

Bwrdd Bwrdd cyfarwyddwyr yw corff llywodraethu cwmni.
Cynllun busnes Datganiad o nodau busnes cyraeddadwy a chynllun ar gyfer eu cyrraedd.
Llif arian Y swm o arian a drosglwyddir i mewn ac allan o fusnes dros gyfnod penodol o amser.
Cyd-fuddsoddwr Rhywun sy'n cyd-ariannu benthyciad neu fuddsoddiad ecwiti.
Rhagamcaniad ariannol Faint o arian y bydd cwmni yn ei wneud o fewn cyfnod amser penodol.
Buddsoddwr Person (neu fudiad) sy'n rhoi arian i mewn i gynllun ariannol.
Llog Canran y benthyciad i'w ad-dalu - yn ychwanegol at y benthyciad gwreiddiol.
Buddsoddiad Y broses o fuddsoddi arian er mwyn cael elw.
Hylifedd Argaeledd asedau hylif i farchnad neu gwmni - fel arian parod.
Colled Swm o arian a gollir gan fusnes neu sefydliad.
Rheolwr / tîm rheoli Y bobl sy'n rhedeg cwmni o ddydd i ddydd.
Elw Enillion ariannol - y gwahaniaeth rhwng y swm a enillir a'r swm a wariwyd.
Trosoliad Sector Breifat (TSB) Trosoliad sector breifat. Swm yr arian o'r sector breifat sydd wedi ei gyd-fuddsoddi mewn prosiect. 
BBaCh Mentrau / Busnesau bach i ganolig. Cwmni sydd â llai na 250 o staff.
Rhanddeilydd Person, busnes neu sefydliad sydd â diddordeb mewn busnes, neu'r rheini sy'n cael eu heffeithio gan weithgareddau busnes.