Bombora yn cynhyrfu’r dyfroedd yn Sir Benfro

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
bombora

Mae Bombora, datblygwr technoleg ynni tonnau arloesol, wedi sicrhau cyfleuster cyfalaf gweithio saith ffigur gyda Banc Datblygu Cymru mewn symudiad a fydd yn helpu i sicrhau dyfodol y cwmni yng Nghymru.

Y llynedd, dyfarnwyd grant o £10.3m i'r cwmni gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy gyfrwng Llywodraeth Cymru. Bydd y cyfleuster cyfalaf gweithio newydd gyda'r Banc Datblygu yn helpu Bombora i reoli ei lif arian tra bydd y grant yn cael ei dderbyn dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae Bombora yn fenter ynni adnewyddadwy gwobrwyedig a sefydlwyd ym Mherth, Gorllewin Awstralia yn 2012. Ers hynny mae'r cwmni wedi sefydlu ei bencadlys Ewropeaidd yn Noc Penfro, gan ddod â buddsoddiad sylweddol i'r ardal.

Mae'r cwmni'n bwriadu defnyddio'r Ardal Prawf Ynni Morol oddi ar arfordir Sir Benfro i arddangos ei drawsnewidydd ynni tonnau 1.5-megawat (MW), sy'n eistedd ar wely'r môr yn ddiogel rhag y stormydd ar y wyneb.

Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Sam Leighton fod Bombora wedi cael ei ddenu i Gymru oherwydd nifer y bobl sydd â sgiliau ym maes ynni adnewyddadwy morol.

Dywedodd: “Mae treftadaeth ynni morol gref iawn yma yng Nghymru. Symudodd tri ohonom yma o Awstralia yma ar ddiwedd 2017, ac mae Bombora wedi creu swyddi medrus newydd, gan dyfu'r tîm i 21 o bobl.

“Rydym wedi llwyddo i gael tîm profiadol iawn mewn gweithrediadau ynni morol ac alltraeth - gan ein galluogi i godi pethau oddi ar y ddaear yn gyflym iawn.”

“Ar gyfer cwmni fel ni mae arian yn bwysig iawn, ac mae hyn yn ein cynorthwyo'n fawr i reoli ein busnes tra bod y grant yn cael ei brosesu,” meddai Mr Leighton.

Mae Bombora yn cael ei gefnogi gan ei sefydlwyr o Awstralia a'i fuddsoddwyr cynnar. Ar ddiwedd 2017 cafodd fuddsoddiad mawr gan Enzen, cwmni ynni ac amgylchedd byd-eang sydd â chanolfan yn Solihull.

Cafodd eu dyfais unigryw, o'r enw mWave, ei chreu yn 2007 a sefydlwyd ei phatent yn 2012. Mae'n system fodiwlaidd sy'n cynnwys pilenni mewn celloedd sy'n gorffwys ar wely'r môr.

Wrth i bwysau o'r tonnau fynd dros y ddyfais, caiff y pilenni eu gwthio i mewn ac mae'r aer y tu mewn i'r celloedd yn cael eu gorfodi drwy dyrbin, a chynhyrchu trydan. Mae'n system gaeedig gyda'r aer yn dychwelyd i'r celloedd cyn i'r don nesaf fynd heibio.

Oherwydd bod y ddyfais mWave yn eistedd ar wely'r môr o leiaf 10 metr o dan yr wyneb, mae'n ddiogel rhag effeithiau niweidiol stormydd a thonnau cryf.

“Un o heriau allweddol dyfeisiau ynni'r tonnau yw eich bod yn cael achosion o stormydd, ac yn y stormydd hynny, rydych chi'n cael tonnau mawr iawn a gallant fod yn ddinistriol iawn. Os ydych chi ar wely'r môr rydych chi'n cael eich diogelu rhag hynny,” meddai Mr Leighton.

Mae Bombora yn bwriadu rhoi model arddangos ar raddfa lawn o mWave ar wely'r môr am chwe mis yn ystod profion yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Unwaith y bydd y ddyfais wedi cwblhau ei phrofion yn llwyddiannus, bydd Bombora yn chwilio am gyfleoedd i werthu mWave i ddatblygwyr ffermydd tonnau masnachol.

Mae'r cwmni'n edrych i mewn i farchnadoedd tramor fel Iwerddon neu Sbaen lle mae ynni'r don yn gryfach ac yn awyddus i gynnal eu presenoldeb yng Nghymru ar gyfer cydosod ac allforio modiwlau yn y dyfodol.

Mae'r cwmni'n disgwyl recriwtio 10 aelod arall o staff erbyn diwedd y flwyddyn, rhai mewn peirianneg ac eraill mewn gwerthiant a marchnata.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru:

“Mae Bombora yn arbenigwyr ynni morol adnabyddus, gyda gweithlu cynyddol yma yng Nghymru.

“Mae'r arian hwn hefyd yn dangos ein cefnogaeth ddi-dor i'r sector hynod bwysig hwn ac i ranbarth sy'n prysur ddod yn wirioneddol flaenllaw yn y byd yn y dechnoleg a'r datblygiadau ynni morol arloesol diweddaraf.

“Wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae denu a chadw cwmnïau o'r fath yng Nghymru yn bwysicach nag erioed, ac rwy'n falch iawn o weld yr arian hwn yn helpu i gyflawni hynny.”

Dywedodd Matthew Wilde, Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae helpu cwmni byd-eang i sicrhau ei ddyfodol yng Nghymru yn gamp fawr i'r Banc Datblygu. Mae'n fuddsoddiad sylweddol sy'n cadw Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil ynni morol, gan ddarparu swyddi lleol, medrus yn Noc Penfro.”