Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Oneplanet Adventure

Dechreuwch ar eich cais heddiw!

Yemgeisio nawr

 

"Roedd y Banc Datblygu yn allweddol wrth wneud y fargen ar gyfer pryniant yr eiddo ddigwydd. Roeddent yn hyderus yn ein cynllun, ac yn ei dro rhoddodd hynny fwy o hyder i ni."

Jim Gaffney, perchennog

Gwyliwch y fideo llawn 

Dechreuodd Jim ac Ian Oneplanet Adventure yn 2005 i droi eu brwdfrydedd dros feicio mynydd yn fusnes masnachol, gan gynnig rhentu beiciau, gweithdai a hyfforddiant ar y safle.

Mae Oneplanet Adventure, sydd yng nghanol y Goedwig 650 hectar Coed Llandegla, yn croesawu 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn i ddefnyddio ei 91km o lwybrau beicio mynydd, cerdded a rhedeg.

Caniataodd cyd-fuddsoddiad chwe ffigur gennym ni a HSBC i Oneplanet Adventure brynu'r ganolfan ymwelwyr a'r meysydd parcio a oedd gynt yn eiddo i Gomisiynwyr Eglwysi Lloegr.

Bydd y pryniant yn galluogi'r busnes i ehangu a buddsoddi mewn llwybrau newydd a fydd yn denu hyd yn oed mwy o ymwelwyr i'r ganolfan a'r rhanbarth.