Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Gwobrau Busnes Bae Abertawe 2020

Rydym yn noddi'r wobr Busnes Teulu yng Ngwobrau Busnes Bae Abertawe 2020.

Mae'r gwobrau hyn yn dathlu'r ystod amrywiol o fusnesau yn Abertawe, Nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Mae'r categori gwobr Busnes Teulu yn cydnabod busnesau sydd yn perfformio ac sydd â'r potensial o berfformio'n rhagorol, a sefydlwyd ac sy'n dal i gael eu rhedeg gan deulu, ac sydd wedi bod yn gweithredu am o leiaf bum mlynedd.

Mae busnesau teuluol yn gwneud cyfraniad enfawr i'r economi genedlaethol ac i gyflogaeth, ac yn chwarae rhan gymdeithasol werthfawr mewn cymunedau lleol. Gallwn roi'r gefnogaeth ariannol sydd ei hangen ar fusnesau teuluol yn y rhanbarth i dyfu a ffynnu.

Canfyddwch fwy am y digwyddiad ac archebwch eich tocynnau yn fan hyn.

Pwy sy'n dod

Claire-Sullivan
Rheolwr Rhanbarthol