Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Clare Sullivan

Ymunais â Banc Datblygu Cymru ym mis Ionawr 2019. Rwy'n gweithio o'n swyddfeydd yng ngorllewin Cymru yn Llanelli, ac rwy'n rhan o'r tîm buddsoddiadau newydd.

Mae gen i dros 15 mlynedd o brofiad yn y sector bancio. Am dros 8 mlynedd yn fy rôl flaenorol gyda HSBC, roeddwn yn rheolwr perthynas masnachol yng ngorllewin Cymru - yn gweithio gyda busnesau bach i ganolig ar draws amrywiaeth eang o sectorau, gydag incwm blynyddol o hyd at £10miliwn a chyfleusterau benthyca hyd at £5miliwn.

Mae chwarae rhan ym myd cwmnïau lleol a'u gweld yn tyfu ac yn ffynnu yn werth chweil, ac mae'n rhywbeth rydw i'n teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch. Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu perthynas i lawr yng ngorllewin Cymru gyda gweithwyr proffesiynol a pherchnogion busnes fel ei gilydd.