Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cymhorthfa Galw Heibio Cyllid ar gyfer twf - Hengoed

Ydych chi'n chwilio am arian i gefnogi eich anghenion busnes?

 

Ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru rydym yn cynnal cymhorthfa galw heibio ‘Cyllid ar gyfer twf’ rhwng 08:30 - 15:00 ar y dyddiad canlynol:

6 Mawrth 2020

Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen

Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7FN

 

Fel cynrychiolwyr lleol rydym yn ymroddedig i sicrhau bod y busnesau rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn sicrhau'r cyllid a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i helpu gyda chostau cychwynnol neu i dyfu eich busnes presennol.

 

Yn y sesiwn, gallwch ganfod mwy am y cymorth lleol sydd ar gael i'ch busnes gan y sefydliadau uchod. Gan weithio gyda'n gilydd gallwn ddarparu cyllid i ddechrau neu i ehangu busnes, gan eich cefnogi gydag arian er mwyn prynu offer newydd neu hyd yn oed brynu busnes.

 

P'un a ydych chi'n fusnes cychwynnol neu'n fusnes sy'n bodoli eisoes, dewch i siarad â ni am eich busnes a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

 

E-bostiwch claire.vokes@developmentbank.wales i archebu slot 30 mun.

Neu fel arall ffoniwch hi ar 02920 801728.

Pwy sy'n dod

Claire-Vokes
Uwch Swyddog Buddsoddi