Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cynllun Benthyciadau Busnes Cofid-19 Cymru

Mae Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Benthyciad Busnes £100m Cymru i gefnogi busnesau a effeithiwyd arnynt gan yr achosion o Cofid-19.

Bydd y Cynllun ar gael gan Fanc Datblygu Cymru am gyfnod cyfyngedig. Y bwriad yw darparu cefnogaeth i fusnesau sy'n profi anawsterau llif arian o ganlyniad i'r pandemig.

Bydd y cynllun benthyciadau yn gweithio ochr yn ochr â'r Cynllun Ymyrryd ar Fusnes ar draws y DU, cynigion cymorth eraill Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan ddarparu opsiynau mwy hanfodol i fusnesau Cymru.

Nodweddion allweddol

  • Benthyciadau rhwng £5,000 a £250,000, - mae uchafswm lefelau benthyca yn berthnasol
  • Gwyliau ad-dalu cyfalaf a llog o 12 mis
  • Dim trefniant na ffioedd monitro
  • Llog 2% sefydlog am 6 blynedd (gan gynnwys y gwyliau 12 mis)
  • Benthyca wedi'i warantu'n rhannol yn dibynnu ar faint y benthyciad, gweler isod am fanylion

Darllenwch y wybodaeth isod yn ofalus cyn gwneud cais

Pob BBaCh yng Nghymru sydd wedi bod yn masnachu ers 2 flynedd neu fwy, gan gynnwys unig fasnachwyr, partneriaethau, cwmnïau cyfyngedig yn ogystal â mentrau cymdeithasol.

Rydym yn argymell eich bod yn ymchwilio i bob llwybr cymorth arall cyn gwneud cais am fenthyciad oherwydd gallai rhai o'r mesurau eraill fod yn fwy addas ar gyfer eich amgylchiadau chi.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ffynonellau cymorth eraill yn:

Busnes Cymru

Llywodraeth y DU

FSB Cymru

I wneud cais mae'n rhaid i chi ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein a chael y dogfennau a ganlyn yn barod:

Ar gyfer benthyciadau rhwng £5,000 - £25,000 (Masnachwyr unigol, Partneriaethau, Arall)

  • Datganiad o Asedau a Rhwymedigaethau
  • Datganiadau banc 3 mis blaenorol 

Ar gyfer benthyciadau rhwng £5,000 - £25,000 (Cwmni Cyfyngedig)

  • Datganiadau banc 3 mis blaenorol 

 

Ar gyfer benthyciadau rhwng £25,000 - £100,000 (pob busnes)

  • Datganiadau banc 3 mis blaenorol 

Ar gyfer benthyciadau dros £100,000 hyd at £250,000 (pob busnes)

  • Datganiadau banc 3 mis blaenorol
  • Cyfrifon hanesyddol (2 flynedd)
  • Templed rhagolwg llif arian wedi'i gwblhau - lawr lwythwch y templed
  • Gwybodaeth Reoli gyfoes (gan gynnwys Elw & Cholled, Mantolen) 

Mae'r holl ddogfennau ategol yn orfodol, helpwch ni i brosesu ceisiadau cyn gynted â phosibl trwy ddilyn y gofynion hyn.

Ni fydd ceisiadau heb y ddogfennaeth gywir yn cael eu symud ymlaen.  

Er mwyn sicrhau bod cymaint o fusnesau yn gallu cael mynediad at y gronfa â phosibl, rydym yn cyfyngu ar y swm y gall busnes unigol wneud cais amdano yn y ffordd ganlynol:

Yr uchafswm benthyciad y gallwch wneud cais amdano yw'r mwyaf o'r rhain;

  • £10,000 y gweithiwr cyfwerth â llawn amser (cyfrifir cyfwerth â llawn amser ar 37 awr yr wythnos)

Neu

  • 25% o'ch trosiant y llynedd

Fel buddsoddwr cyfrifol, byddwn hefyd yn ystyried eich gallu i wasanaethu'r benthyciad. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar eich proffidioldeb hanesyddol i brofi bod y benthyciad yn fforddiadwy, pan fydd busnes yn dychwelyd i normal ar ôl y coronafirws.

 

Mae'r gronfa wedi'i chreu i roi'r hylifedd sydd ei angen ar BBaCh i fasnachu trwy'r cyfnod hwn o ymyrraeth ar fusnes, felly ni ddylid defnyddio'r benthyciad i ad-dalu benthyciad sy'n bodoli'n barod.

Dim ond unwaith y gall busnes wneud cais i'r cynllun, mae hyn yn cynnwys Grwpiau ffurfiol ac anffurfiol o gwmnïau.

Mae Grwpiau Ffurfiol yn ddau gwmni neu fwy sy'n rhannu perthynas cwmni daliannol neu is-gwmni.

Gall Grwpiau Anffurfiol, at ddibenion y cynllun hwn, fod yn fusnesau sy'n rhannu perchnogaeth gyffredin, yn gweithredu mewn marchnadoedd tebyg neu â sylfaen debyg o gwsmeriaid.

Rydym yn rhagweld y bydd yna alw mawr iawn am y cynllun hwn a bydd hynny'n cael effaith ar ein hamserlenni cyflawni arferol. Gallwn eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i brosesu ceisiadau cyn gynted â phosibl. Pan gyflwynir eich cais gyda'r holl ddogfennau ategol, byddwn yn rhoi amcan i chi o'r amserlen ar gyfer gwneud penderfyniad a byddwn yn rhoi diweddariad i chi drwy gydol y broses.

Bydd y diogelwch a gymerir yn warant bersonol o 20% hyd uchafswm o £25,000 ar gyfer pob buddsoddiad, ac ar gyfer symiau dros £100,000, bydd dyledeb hefyd yn berthnasol.

Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau am ein cynhyrchion eraill a gallwn gynnig gwyliau ad-dalu hyblyg ar fenthyciadau newyddDylech fod yn ymwybodol,  oherwydd nifer y ceisiadau yr ydym yn ymdrin â hwy, y gall benthyciadau gymryd mwy o amser i'w prosesu nag arfer.

Na, nid yw Banc Datblygu Cymru yn fenthyciwr cyfranogol ar gyfer y cynllun hwn. Mae mwy o wybodaeth am y cynllun hwn ar gael ar  Wefan Banc Busnes Prydain.

Diweddariad pwysig

Oherwydd y nifer digynsail o geisiadau, rydym bellach wedi tanysgrifio'n llawn ar gyfer Cynllun Benthyciad Busnes Cofid-19 Cymru. 

Dylai busnesau sy'n chwilio am fenthyciad ystyried y Cynllun Benthyciad Ymyrryd ar Fusnes Coronafirws ar gael i BBaCh drwy dros 40 o fenthycwyr achrededig yn y DU.

Ewch i weld Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth am gefnogaeth ar gyfer busnesau.