Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Polisi Llywodraeth Cymru

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”) yn ymwneud â nodi'r fframwaith ar gyfer gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru trwy bum ffordd o weithio'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd y Gweinidog ar gyfer saith nod llesiant integredig ar gyfer Cymru lewyrchus, gydnerth a chyfrifol yn fyd-eang o gymunedau iachach, mwy cyfartal a chydlynol o fewn diwylliant ffyniannus sy'n gwneud y gorau o'r saith nod llesiant. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am y Ddeddf yn fan hyn.

Sut rydyn ni'n ei gefnogi

Mae gan Fanc Datblygu Cymru gyfrifoldeb i gefnogi egwyddorion y Ddeddf a helpu i gyflawni amcanion llesiant y Gweinidog. Mae Banc Datblygu Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyllid yn y tymor hir er mwyn atal methiant y farchnad, gan ddefnyddio dull integredig a chydweithredol, sy'n cynnwys pobl o bob demograffeg ar gyfer twf cynaliadwy yng Nghymru. O fewn pob cronfa neu fenter newydd a gynigir, byddwn yn manylu ar yr allbynnau a fydd yn gwella canlyniadau o fewn y saith nod llesiant integredig, sut yr ymgorfforir yr egwyddor datblygu cynaliadwy a lle mae allbynnau'n cefnogi amcanion llesiant a dangosyddion cenedlaethol y Gweinidog.

Rhaglen Lywodraethu 2021-2026

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn gosod yr uchelgais i Gymru, gan ymgorffori’r Cytundeb Cydweithredu, dros Senedd bresennol Cymru i fynd i’r afael â heriau byd-eang a gwella bywydau pobl ledled Cymru. O fewn ei flaenoriaethau strategol mae'r meysydd effaith fel economi cryfach a gwyrddach yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd. Ceir rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Lywodraethu yma.

Sut rydym yn ei gefnogi

Fel sefydliad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ymddiried yn benodol i gyflawni offerynnau ariannol, mae gan Fanc Datblygu Cymru gyfarwyddeb i gefnogi’r Rhaglen Lywodraethu. Wrth i’r banc datblygu gynyddu ei gwmpas, bydd yn darparu offerynnau ariannol ledled Cymru i gefnogi adeiladu economi gryfach a gwyrddach yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd. O fewn hyn byddwn yn cefnogi amcanion y Llywodraeth o gynyddu arian ecwiti menter a darparu cyfalaf amyneddgar, cefnogi perchnogaeth gweithwyr tra hefyd yn cefnogi gwerthoedd cymunedol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Ar draws ein cronfeydd a’n gwasanaethau ein nod yw cefnogi amcanion economaidd ehangach Llywodraeth Cymru y manylir arnynt yn Symud Economi Cymru Ymlaen a’i nodau sero net, fel y nodir yn Gweithio gyda’n gilydd i gyrraedd Sero Net: cynllun Cymru gyfan.