Pwyllgor Enwebiadau

Cylch Gorchwyl
Grŵp Banc Datblygu Cymru ("y Grŵp")
Pwyllgor Enwebiadau

Cyfansoddiad
    

  • 1.    Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr Banc Datblygu Cymru ccc ("y bwrdd") drwy hyn yn penderfynu sefydlu Pwyllgor y Bwrdd a elwir yn Bwyllgor Enwebiadau Grŵp Banc Datblygu Cymru.

 

Aelodaeth a phresenoldeb
    

  • 2.    Bydd y Pwyllgor yn cynnwys holl gyfarwyddwyr anweithredol Banc Datblygu Cymru ccc.
  • 3.    Dim ond aelodau o'r pwyllgor sydd â'r hawl i fynychu cyfarfodydd pwyllgor, ond efallai y bydd unigolion eraill yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfod neu ran o'r cyfarfod fel y bo'n briodol.
  • 4.    Dylai Cadeirydd y Pwyllgor fod naill ai Cadeirydd y Bwrdd neu yn ei absenoldeb cyfarwyddwr anweithredol yn ail. Wrth ystyried penodi Cadeirydd y Bwrdd bydd yr Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol yn cadeirio'r Pwyllgor.
  • 5.    Gall y Pwyllgor ffurfio is-bwyllgorau fel sy'n ofynnol o bryd i'w gilydd i reoli enwebiadau penodol a lle bo'n briodol, gellir cyfethol aelodau i eistedd ar baneli cyfweld.
  • 6.    Bydd Ysgrifennydd y Cwmni neu ei enwebai yn gweithredu fel Ysgrifennydd y Pwyllgor.

 

  • Amlder cyfarfodydd a chworwm

 

  • 7.    Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ar yr adegau y bydd yn ofynnol ar Gadeirydd y Pwyllgor. Lle bo'n bosib, dylid trefnu bod cyfarfodydd yn cyd-fynd â chyfarfodydd y Bwrdd fel bod presenoldeb ar ei orau.
  • 8.    Gall cyfarfod o'r Pwyllgor gael ei alw gan unrhyw aelod o'r Pwyllgor neu gan Ysgrifennydd y Cwmni neu ar gyfarwyddyd y Bwrdd.
  • 9.    Bydd gan y Pwyllgor gworwm o dri.
  • 10.    Rhaid anfon rhybudd o bob cyfarfod o'r Pwyllgor, gan gadarnhau'r lleoliad, yr amser a'r dyddiad ynghyd ag eitemau ar yr agenda sydd i'w trafod, i bob aelod o'r Pwyllgor heb fod yn llai na 5 niwrnod cyn dyddiad y cyfarfod.
  • 11.    Bydd cyfarfodydd a thrafodion y Pwyllgor yn cael eu rheoleiddio yn unol â darpariaethau Erthyglau Cymdeithas y Cwmni.
  • 12.    Bydd Cadeirydd y Pwyllgor yn mynychu'r CCB i ymateb i unrhyw gwestiynau ar weithgareddau'r Pwyllgor.
  • 13.    Mae'r Pwyllgor yn gorff ymgynghorol heb unrhyw bwerau heblaw'r rhai a gyfeirir atynt yn benodol isod.

    
    

Dyletswyddau    
    

  • 14.    Bydd y Pwyllgor yn:
  • Cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn i adolygu strwythur, maint a chyfansoddiad y Bwrdd a gwneud argymhellion i'r Bwrdd;
  • Sefydlu'r meini prawf ar gyfer nodi ac enwebu ymgeiswyr ar gyfer cymeradwyaeth y Bwrdd, i lenwi swyddi gwag y Bwrdd pan fyddant yn codi yn ogystal â rhoi cynlluniau ar gyfer olyniaeth yn eu lle, yn enwedig y Prif Weithredwr a'r Tîm Rheoli Gweithredol;
  • Sefydlu'r broses recriwtio ar gyfer swyddi Cyfarwyddwyr Gweithredol, Anweithredol, Cadeirydd a'r Prif Weithredwr yn unol â'r Trefniadau Rheoli a gytunir arnynt o bryd i'w gilydd rhwng y Cwmni a Gweinidogion Cymru sy'n gweithredu trwy Lywodraeth Cymru;
  • Gwneud argymhellion i'r Bwrdd ar ailbenodi'r Cadeirydd a'r Cyfarwyddwyr Anweithredol pan mae'n bryd i'w tymor penodi ddod i ben;
  • Gwneud argymhellion i'r Bwrdd am barhad (neu beidio) gwasanaeth unrhyw gyfarwyddwr sydd wedi cyrraedd 70 oed;
  • Cynorthwyo Cadeirydd y Bwrdd yn ôl yr angen gydag adolygiadau perfformiad blynyddol y bwrdd; ac
  • Adolygu digonolrwydd ei Gylch Gorchwyl yn gyfnodol ac argymell unrhyw newidiadau i'r Bwrdd.
  • 15.    Bydd gan y Pwyllgor y pŵer i gyflogi gwasanaethau cynghorwyr o'r fath fel y mae'n barnu bod hynny'n angenrheidiol i gyflawni ei gyfrifoldebau. Dylid caffael cyngor o'r fath trwy Ysgrifennydd y Cwmni.