Rheolwr Data TGCh

Rydym yn recriwtio ar gyfer Rheolwr Data TGCh sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd

Pwrpas y Swydd

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli’r gwaith o roi strategaeth ddata Banc Datblygu Cymru ar waith a bydd yn aelod allweddol o dîm ehangach y prosiect sy'n ceisio gwreiddio gwelliant parhaus cyfeiriad strategol Banc Datblygu Cymru yn y maes hollbwysig hwn.

Nod y strategaeth ddata yw sbarduno gwelliannau ymarferol ac arloesi parhaus yn y ffordd y caiff data ei storio, ei ddosbarthu, ei ddiogelu a'i ddefnyddio er mwyn cyflawni gweledigaeth y Banc o gael ‘un ffynhonnell o wirionedd’ o ran data, a dod yn sefydliad sy'n cael ei yrru gan ddata yn y pen draw.

Bydd y gallu a’r empathi i ddatblygu perthynas waith effeithiol â chydweithwyr, sy’n rhanddeiliaid mewnol yn y broses newid i bob pwrpas, yn hanfodol er mwyn llwyddo yn y rôl – yn ogystal â dealltwriaeth gyffredinol o sut y gellid defnyddio technolegau presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg i sicrhau newid a’r canlyniadau gofynnol ar gyfer rheoli data yn y sefydliad.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Gweithio gyda'r Rheolwr Gweithrediadau TGCh – Technoleg, y tîm TGCh a rhanddeiliaid allweddol o’r busnes ehangach i roi’r strategaeth ddata ar waith
  • Mynd ati’n rhagweithiol i reoli’r gwaith o fabwysiadu egwyddorion pensaernïaeth data er mwyn sicrhau 'un ffynhonnell o wirionedd' ar gyfer data
  • Hybu'r defnydd o dechnolegau cwmwl sy'n bodoli eisoes a rhai sy'n dod i'r amlwg, er mwyn rheoli data Banc Datblygu Cymru yn effeithiol ac effeithlon
  • Gweithio'n agos gyda'r adran Risg a Chydymffurfiaeth i sicrhau bod data’n cael ei nodi, ei ddosbarthu a'i ddiogelu yn unol â'r safonau data priodol, gan ysgogi diwylliant o welliant parhaus yn sgil hynny
  • Sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau ar gyfer rheoli data wedi’u diffinio’n glir
  • Bod yn hyrwyddwr o ran ansawdd data. Alinio a blaenoriaethu ansawdd data ar gyfer prosiectau strategol, dangos gwelliannau i ansawdd data drwy amryw o ddangosyddion perfformiad allweddol a hyrwyddo ansawdd data ar draws y sefydliad
  • Gweithio gyda’r tîm Gwella Prosesau Busnes i optimeiddio prosesau allweddol ar gyfer ansawdd data, gan fanteisio ar arbenigedd cyflenwyr trydydd parti lle bo angen
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Rheolwr Gweithrediadau TGCh – Technoleg i ddiwallu anghenion gweithredol y busnes.

Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad

Hanfodol

  • Profiad amlwg o weithredu a rheoli arferion gorau o ran rheoli data, fel fframwaith DAMA
  • Dealltwriaeth eang o brif elfennau llywodraethiant ac ansawdd data
  • Profiad/dealltwriaeth amlwg o sut y gellir defnyddio technoleg i gefnogi arferion rheoli data
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol o ran dylanwadu a chyfathrebu ar lafar
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig o safon uchel iawn ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd
  • Profiad technegol amlwg a phrofiad o reoli prosiectau, gydag achrediadau technegol perthnasol cyfatebol
  • Datrys problemau gyda’r gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd neu faterion, cofnodi cyflyrau prosesau cyfredol, nodi gofynion ar gyfer y dyfodol a chynnig atebion o ansawdd uchel
  • Gallu blaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau a bod yn benderfynol er mwyn cwblhau tasgau i safon uchel gyda llwyddiant mesuradwy
  • Agwedd hyblyg at oriau gweithio

Dymunol

  • Addysg at lefel gradd
  • Dealltwriaeth o Fframwaith Pensaernïaeth y Grŵp Agored (TOGAF) neu debyg
  • Profiad o gyflawni mentrau Trawsnewid Digidol
  • Dealltwriaeth a phrofiad o brosesau rheoli newid
  • Dealltwriaeth o dechnegau dadansoddi busnes
  • Profiad o brosesau a chwmnïau gwasanaethau ariannol neu broffesiynol

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru

Dyddiad cau - Awst 5ed