Rheolwr gweithrediadau TGCh (rheoli gwasanaethau)

Rydym yn recriwtio ar gyfer rheolwr gweithrediadau TGCh (rheoli gwasanaethau) yn seiliedig yng Nghaerdydd.

Diben y swydd

Bydd y Rheolwr Gweithrediadau TGCh (Rheoli Gwasanaethau) yn gweithredu fel un o ddau ddirprwy i’r Cyfarwyddwr TGCh, a fydd gyda’i gilydd yn helpu i lunio strategaeth TGCh y Banc ar gyfer y dyfodol. Bydd yn gyfrifol am reoli nifer o ddarparwyr gwasanaethau technolegol strategol, sy’n wasanaethau a ddarperir drwy gontractau allanol yn bennaf, ac am reoli tîm mewnol bach. Mewn cydweithrediad â’r Rheolwr Gweithrediadau TGCh (Technoleg), bydd deiliad y swydd yn rheoli’r broses o barhau i ddarparu gwasanaethau TGCh, yn cysylltu â chydweithwyr eraill o’r busnes er mwyn sicrhau bod gwasanaethau TGCh yn cefnogi anghenion y busnes ac yn cofnodi ei berfformiad ar bortffolio gwasanaeth TGCh y Banc.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr TGCh a’r tîm TGCh ehangach ar bennu, dylunio, datblygu a gweithredu’r strategaeth TGCh
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau effeithiol gyda darparwyr gwasanaethau TGCh er mwyn parhau i allu darparu gwasanaethau, perfformio, a chael elw o fuddsoddiad
  • Gweithio’n agos gyda chydweithwyr eraill yn y busnes er mwyn sicrhau bod gwasanaethau TGCh yn parhau i fodloni gofynion y busnes
  • Creu diwylliant o wella gwasanaethau’n barhaus, yn arbennig ym maes effeithlonrwydd prosesau, dogfennau, rheoli risg, cadw at fethodoleg rheoli prosiectau trylwyr a threfniadau llywodraethu a chydymffurfio parhaus
  • Rheoli, hyfforddi a mentora tîm o arbenigwyr technegol TGCh
  • Bod yn gyfrifol am lunio gwybodaeth reoli sy’n ymwneud â TGCh er mwyn gallu cofnodi perfformiad adrannau yn erbyn cytundebau lefel gwasanaeth, dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt a chadw o fewn y gyllideb
  • Unrhyw dasgau eraill a bennwyd gan y Cyfarwyddwr TGCh er mwyn gallu bodloni anghenion gweithredol

Gwybodaeth, sgiliau, gallu a phrofiad

Hanfodol

  • Profiad o arwain/rheoli timau TGCh amlddisgyblaethol a phrofiad o ddarparu gwasanaethau allanol a mewnol
  • Sgiliau rhyngbersonol llafar a sgiliau dylanwadu rhagorol
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig o’r radd flaenaf er mwyn gallu darparu gwasanaethau i amrywiaeth o gynulleidfaoedd
  • Dealltwriaeth gyffredinol o wasanaeth cwmwl Microsoft Azure, ac amgylchedd cwmwl hybrid
  • Dealltwriaeth gyffredinol o egwyddorion Parhad Busnes ac Adfer ar ôl Argyfwng
  • Dealltwriaeth gyffredinol o ystyriaethau ac arferion gorau mewn perthynas â rhwydweithio a diogelwch
  • Dealltwriaeth gyffredinol o Reoli Gwasanaethau’r Llyfrgell Seilwaith Technoleg Gwybodaeth (ITIL) ac o fethodoleg rheoli prosiect ‘rhaeadr/ystwyth’, a meddu ar gymwysterau achrededig cyfatebol
  • Tystiolaeth o allu i gyflawni prosiectau TGCh cymhleth gan gadw at yr amserlen a’r gyllideb
  • Y gallu i arddangos ystod eang o brofiadau technegol ac achrediadau technegol perthnasol cyfatebol
  • Profiad o hyfforddi a mentora aelodau o’r tîm
  • Y gallu i ddatrys problemau a dadansoddi sefyllfa neu broblem, gan lwyddo i gyfleu’r sefyllfa bresennol, canfod gofynion ar gyfer y dyfodol a gallu darparu atebion ymarferol, o ansawdd uchel
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith o dan bwysau ac agwedd benderfynol er mwyn cwblhau tasgau i safon uchel ac yn llwyddiannus
  • Agwedd hyblyg tuag at oriau gwaith

Dymunol

  • Wedi eich addysgu i lefel gradd
  • Dealltwriaeth o TOGAF (Fframwaith Pensaernïaeth Grŵp Agored) a Saernïaeth Prosesau Busnes
  • Dealltwriaeth o elfennau allweddol arferion gorau a dulliau llywodraethu’r broses o reoli data
  • Profiad o fentrau Trawsnewid Digidol
  • Deall y broses o ddadansoddi busnes a rheoli newid
  • Profiad o fframweithiau caffael y Llywodraeth a llunio contract/manyleb
  • Profiad o weithio mewn cwmni gwasanaethau ariannol neu broffesiynol

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru