Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Rheolwr Gweithrediadau TGCh (Rheoli Gwasanaethau)

Rydym yn recriwtio ar gyfer Rheolwr Gweithrediadau TGCh sydd wedi'i leoli y tu allan i Gaerdydd. Cyflog Cystadleuol

Pwrpas y Swydd

Bydd y Rheolwr Gweithrediadau TGCh (Rheoli Gwasanaethau) yn gweithredu fel un o ddau ddirprwy i’r Cyfarwyddwr TGCh, a fydd, gyda’i gilydd, yn helpu i lunio strategaeth TGCh y Banc yn y dyfodol. Mae’r cyfrifoldebau’n cynnwys rheoli nifer o ddarparwyr gwasanaethau technolegol strategol, mewn model darparu allanol yn bennaf, yn ogystal â thîm mewnol bach. Ar y cyd â’r Rheolwr Gweithrediadau TGCh (Technoleg), bydd deiliad y swydd yn rheoli’r gwaith parhaus o ddarparu Gwasanaethau TGCh, gan gysylltu â chydweithwyr yn y busnes ehangach i sicrhau bod gwasanaethau TGCh yn cefnogi anghenion y busnes ac yn adrodd ar berfformiad portffolio gwasanaeth TGCh y Banc.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr TGCh a’r tîm TGCh ehangach ar fanyleb, dyluniad, datblygiad a gweithrediad parhaus y strategaeth TGCh
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau effeithiol gyda darparwyr gwasanaethau TGCh i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu, yn ogystal â pherfformiad ac elw ar fuddsoddiad
  • Gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y busnes ehangach i sicrhau bod gwasanaethau TGCh yn parhau i fodloni gofynion y busnes
  • Hybu diwylliant o wella gwasanaethau yn barhaus, yn benodol ym meysydd effeithlonrwydd prosesau, dogfennu, rheoli risg, glynu wrth fethodolegau rheoli prosiect trylwyr a llywodraethu a chydymffurfio parhaus
  • Rheoli, hyfforddi a mentora tîm o arbenigwyr TGCh technegol
  • Bod yn gyfrifol am gynhyrchu gwybodaeth reoli sy’n ymwneud â TGCh er mwyn adrodd ar berfformiad adrannol yn erbyn Cytundebau Lefel Gwasanaeth a Dangosyddion Perfformiad Allweddol y cytunwyd arnynt a chadw at y gyllideb
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Cyfarwyddwr TGCh i gwrdd ag anghenion gweithredol

Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad

Hanfodol

  • Arweinydd / rheolwr profedig timau TGCh amlddisgyblaethol sydd â phrofiad o ddarparu gwasanaethau TGCh mewnol ac allanol
  • Profiad eang o reoli contractau allanol yn effeithiol i Gytundeb Lefel Gwasanaeth (SLA)
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol o ran cyfathrebu ar lafar a dylanwadu
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig o safon uchel iawn i ddelio ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd
  • Dealltwriaeth eang o wasanaethau cwmwl Microsoft Azure ac amgylcheddau cwmwl hybrid
  • Dealltwriaeth eang o egwyddorion Parhad Busnes ac Adfer ar ôl Trychineb a'r fframweithiau arferion gorau
  • Dealltwriaeth eang o dechnoleg gyfredol sy’n ymwneud â rhwydweithio, telegyfathrebu a storio
  • Dealltwriaeth eang o ddiogelwch TGCh
  • Dealltwriaeth eang o ddulliau rheoli prosiectau rhaeadr/ystwyth a Rheoli Gwasanaeth ITIL, gyda chymwysterau achrededig cyfatebol
  • Gallu amlwg i gyflawni prosiectau TGCh cymhleth yn brydlon ac o fewn y gyllideb
  • Profiad technegol eang amlwg, gydag achrediadau technegol perthnasol cyfatebol
  • Datrys problemau gyda’r gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd neu faterion, cofnodi cyflyrau proses cyfredol, nodi gofynion ar gyfer y dyfodol a chynnig atebion o ansawdd uchel
  • Gallu blaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau a phenderfyniad i gwblhau tasgau i safon uchel gyda llwyddiant mesuradwy
  • Agwedd hyblyg at oriau gweithio

Dymunol 

  • Addysg at lefel gradd
  • Profiad o fframweithiau caffael y Llywodraeth a dylunio contractau/manylebau
  • Dealltwriaeth a phrofiad o reoli risg a phrosesau rheoli newid
  • Dealltwriaeth o elfennau allweddol arferion gorau a llywodraethu ym maes rheoli data
  • Profiad o Drawsnewid Digidol a mentrau
  • Profiad o fewn cwmnïau gwasanaethau ariannol neu broffesiynol

Cynnig

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru

Dyddiad cau - Gorffennaf 25