Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Rydyn ni am recriwtio Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Pwrpas y swydd

Rydyn ni’n fanc datblygu sy’n rhoi potensial Cymru wrth galon ein penderfyniadau. Rydyn ni’n ariannu busnesau sydd am wneud cyfraniad ariannol, cymdeithasol, moesegol ac amgylcheddol at ein cymunedau a’r byd ehangach. Mynd ati bob dydd i sbarduno posibiliadau a gwireddu dyheadau.

Bydd y rheolwr ymgysylltu â rhanddeiliaid yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno strategaethau i feithrin ein hygrededd, ein perthnasedd a’n dylanwad gyda rhanddeiliaid. Mae llwyddiant yn y rôl hon yn dibynnu ar sicrhau bod gan gynulleidfaoedd gwleidyddol allweddol a chynulleidfaoedd dylanwadol eraill ddealltwriaeth dda o’n pwrpas, ein nod a’n heffaith. Rydyn ni eisiau i’n rhanddeiliaid deimlo’n wybodus am y ffordd rydyn ni’n cyflawni ein cynllun corfforaethol a chael llais yn hynny, gan ddeall sut mae ein gweithgarwch yn cynorthwyo’r dinasyddion neu’r grwpiau maen nhw’n eu cynrychioli.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Datblygu a gweithredu cynllun strategol ar gyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • Mapio grwpiau rhanddeiliaid yn ôl dylanwad a buddiant, a datblygu negeseuon cyfathrebu priodol sydd wedi’u targedu
  • Paratoi briffiau gwleidyddol a pholisi ar gyfer uwch gydweithwyr
  • Datblygu a darparu rhaglen o ddigwyddiadau ymgysylltu (cyfarfodydd, gweminarau ac ati)
  • Cyfrifoldeb rheolwr llinell, gan roi hyfforddiant ac arweiniad pan fydd angen
  • Sicrhau’r gwerth gorau posibl am arian, canfod cyfleoedd i siarad ar ran y Prif Swyddog Gweithredol ac aelodau’r uwch dîm rheoli a’r tîm arwain buddsoddiadau
  • Arwain ar ymchwil cynulleidfaoedd, gan gynnwys ymwybyddiaeth o frand a’i sentiment
  • Gweithio gyda’r tîm cyfathrebu i baratoi safbwyntiau i’w harddel a negeseuon allweddol ar faterion polisi a phynciau’r dydd
  • Gweithio gyda’r busnes ehangach i greu cymaint o gyfleoedd â phosibl ar gyfer llais rhanddeiliaid, gan sicrhau atebolrwydd a bod yn agored
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Cyfarwyddwr Cyfathrebu er mwyn bodloni anghenion gweithredol y sefydliad.

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad

Hanfodol 

  • Cefndir cryf ym maes ymgysylltu â rhanddeiliaid neu faterion cyhoeddus
  • Gwybodaeth am ddatblygiad economaidd ac economi Cymru
  • Sgiliau rhyngbersonol cryf, gallu dylanwadu ar lefel uwch
  • Sgiliau cyfathrebu cadarn, gan gynnwys ysgrifennu a phrawfddarllen
  • Gallu deall a dehongli gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau, gan gynnwys polisi’r llywodraeth, materion cyfoes a gwleidyddiaeth
  • Profiad o reoli digwyddiadau a rhwydweithio
  • Gallu cymell eich hun a dangos blaengaredd, a gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm
  • Gallu blaenoriaethu a threfnu gwaith o dan bwysau

Dymunol

  • Gwybodaeth am Grŵp Banc Datblygu Cymru
  • Byddai bod yn siaradwr Cymraeg neu’n ddysgwr yn fantais amlwg

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru

Dyddiad cau: Ionawr 13