Seminar FfBB Gwneud Treth yn Ddigidol (GTD)

Mae Gwneud Treth yn Ddigidol (GTD) yn rhan allweddol o gynlluniau'r llywodraeth i wneud y system dreth yn effeithlon, yn effeithiol ac yn haws i unigolion a busnesau gael eu treth yn iawn

Mae'r seminar hon sy'n rhad ac am ddim yn rhan o sioe deithiol Ffederasiwn Busnesau Bach (FfBB) ar hyd a lled y wlad sy'n cynnwys popeth y mae angen i fusnesau bach wybod ynghylch cyflwyno GTD. Bydd y seminar yn rhoi eglurhad ar y newidiadau sydd i ddod a'r camau y mae angen i'ch busnes eu cymryd - gan gynnwys y rheolau newydd ar gyfer ffeilio o dan Gwneud Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW a sut i gwrdd â'ch rhwymedigaethau cyfreithiol i gydymffurfio â chofnodi digidol drwy gyfrwng y meddalwedd GTD.

Bydd Heather Abrahams, swyddog buddsoddi o'n tîm micro-fenthyciadau, ar gael yn y digwyddiad i drafod y ffyrdd y gall arian cyllido helpu eich busnes i ymdrin â'r newidiadau hyn.

Mae’r agenda fel a ganlyn:

• Cyflwyniad a chroeso - 5 munud

• David Marples o Abbey Tax - 40 munud
Beth yw GTD?

- Pryd y mae'n rhaid i mi ddechrau ffeilio fy natganiadau treth?

- Oes angen i mi gofrestru ar gyfer GTD?

- A yw'n berthnasol i mi?

- Sut ydw i'n cydymffurfio?

- Beth mae FfBB yn ei gynnig i'w aelodau o ran cymorth gyda GTD


• Holi &Ateb – 30-60 mun

 

Canfyddwch fwy am y digwyddiad a chofrestru'ch lle yn fan hyn.

 

Pwy sy'n dod