Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Sesiwn cymorth business galw heibio

Bydd Banc Datblygu Cymru, Cyngor Sir Fynwy a Busnes Cymru yn cynnal sesiwn cymorth busnes galw heibio o 10:00 i 15:00 ar ddydd Mawrth 5 Medi.

Fel cynrychiolwyr lleol rydym yn ymroddedig i sicrhau bod y busnesau rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn sicrhau’r cyllid a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i helpu gyda chychwyn neu dyfu.

Byddwn yn eich helpu i ddarganfod mwy am gefnogaeth leol sydd ar gael ar gyfer eich busnes. Gan weithio gyda’n gilydd gallwn ddarparu cyllid i ddechrau neu ehangu busnes, gan eich cefnogi gydag arian er mwyn prynu offer newydd neu hyd yn oed brynu busnes.

P’un a ydych chi’n fusnes sy’n dechrau o’r newydd neu’n fusnes sy’n bodoli eisoes, dewch i siarad â ni am eich busnes a’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

E-bostiwch Claire Vokes at claire.vokes@bancdatblygu.cymru i archebu slot 20 munud.

Fel arall, gallwch alw Claire ar 02920 801728.

Pwy sy'n dod