Sgamiau digidol a chamddefnyddio brand

Rydym wedi clywed yn ddiweddar am achosion lle mae unigolion wedi targedu cwsmeriaid a chysylltiadau Banc Datblygu Cymru trwy negeseuon WhatsApp ac e-byst. Yn ogystal, cafwyd adroddiadau am unigolion yn dynwared uwch swyddogion a staff Banc Datblygu Cymru.

Byddwch yn ymwybodol bod y gweithgareddau hyn yn dwyllodrus, ac rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio ag ymgysylltu â nhw. Nid yw Banc Datblygu Cymru byth yn cynnal cyfathrebiadau busnes trwy WhatsApp o dan unrhyw amgylchiadau.

Os ydych yn amau eich bod wedi cael eich targedu gan sgam neu dwyll, rydym yn eich annog i adrodd am y digwyddiad i’r awdurdodau yn eich gwlad neu ranbarth. Yn y DU, cysylltwch â ActionFraud a'r AYA. Efallai y gallant eich cynorthwyo i adnabod y troseddwyr ac adennill unrhyw arian a gollwyd. Yn ogystal, rydym yn argymell cysylltu â'ch banc neu ddarparwr cerdyn i holi am adennill yr arian sy'n gysylltiedig â'r trafodion.

Os byddwch yn derbyn e-bost neu neges WhatsApp gennym ni sy'n ymddangos yn amheus, peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni, agor atodiadau, nac ymateb iddo. Yn lle hynny, rhowch wybod i ni trwy lenwi ein ffurflen gyswllt. Dylech gynnwys cymaint o fanylion â phosibl, gan gynnwys cyfeiriad e-bost llawn yr anfonwr, unrhyw rifau ffôn cysylltiedig, URLau gwefannau neu enwau parth y gofynnwyd amdanynt, ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall yr ydych yn ei hystyried yn ddefnyddiol.