Mae ein siarter cwsmeriaid yn nodi beth yw ein haddewidion i chi a lefel y gwasanaeth y gallwch ei ddisgwyl gennym. Rydym yn deall nad yw pethau bob amser yn mynd fel y'i bwriadwyd ac rydym yn gwneud ein gorau i ddatrys eich materion cyn gynted â phosibl. Rydym yn mynd ati i annog adborth (da a drwg) ac yn ei ddefnyddio i wella ein gwasanaeth cwsmeriaid.
Os hoffech roi adborth inni, cliciwch fan hyn. Os nad ydych yn fodlon, byddwn yn cysylltu â chi i drafod pam ac i weld a allwn ddatrys y mater â chi.
Os, ar ôl hyn, eich bod yn dal i fod yn anhapus gyda'n gwasanaeth, gallwch godi cwyn ffurfiol.
Sut i wneud cwyn
Os oes gennych broblem ac yr hoffech wneud cwyn ffurfiol yn ei chylch, ysgrifennwch at ein Cyfarwyddwr Buddsoddi Grŵp, Mike Owen yn:
Banc Datblygu Cymru
1 Capital Quarter
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ
Fel arall, gallwch anfon e-bost at gwyb@bancdatblygu.cymru gyda’r pwnc: Cwyn.
Rhowch eich manylion cyswllt i ni os gwelwch yn dda, a sut yr hoffech i ni gysylltu â chi. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl am eich cwyn i'n helpu i ymdrin â'r mater yn gyflym.
Sut y byddwn yn ymdrin â'ch cwyn
Erbyn diwedd diwrnod busnes 2 |
|
Erbyn diwedd diwrnod busnes 4 |
|
Erbyn diwedd diwrnod busnes 10 |
|
Rheolau'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol
Ein nod yw cyfleu penderfyniadau i chi cyn pen 10 diwrnod gwaith ond mewn amgylchiadau eithriadol gall gymryd mwy o amser inni nag yr hoffem i ddatrys eich cwyn.
O fewn 40 diwrnod busnes byddwn yn darparu i chi:
a) ‘Ymateb terfynol’ yn ysgrifenedig naill ai i gynnal y gŵyn, gwrthod y gŵyn neu yn cynnig unioni'r cam a wnaed i chi; neu
b) Anfonir ymateb ysgrifenedig i chi yn egluro pam nad ydym wedi gallu dod i benderfyniad ac o fewn pa amserlenni yr ydym yn disgwyl datrys eich cwyn.
Yn y ddau achos byddwn yn dweud wrthych a fyddwch yn gallu cyfeirio'ch cwyn at yr Ombwdsmon Ariannol a'r amserlenni i chi wneud hyn.