Swyddog Buddsoddi

Rydym am benodi Swyddog Buddsoddi Micro Fenthyciadau a fydd yn seiliedig yng Nghymru.

Pwrpas y swydd

Mae'r swyddog buddsoddi yn gyfrifol am gyrchu ac arfarnu ceisiadau am fuddsoddiadau yn y Banciau Datblygu. Gwneir buddsoddiadau o dan delerau masnachol ac yn unol â'r meini prawf buddsoddi a osodwyd gan y Banc Datblygu. Gellir rhoi benthyciadau o hyd at £50,000.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Dod o hyd i gynigion buddsoddi a'u gwerthuso. Yn nodweddiadol, bydd buddsoddiadau’n ansicredig felly mae’r gallu i ddeall tybiaethau llif arian sylfaenol ac asesu’r rhain yn briodol yn holl bwysig.

  • Cyflawni yn erbyn targedau buddsoddiad ac elw

  • Cynnal rheolaeth drylwyr a chadarn, a diwydrwydd dyladwy ariannol a masnachol wrth ystyried cyfleoedd buddsoddi ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â phob buddsoddiad

  • Negodi telerau ac amodau yn ymwneud â dogfennaeth gyfreithiol ar gyfer gosod buddsoddiadau.

  • Paratoi adroddiadau buddsoddi ar gyfer sancsiwn credyd.

  • Sicrhau bod dogfennau cyfreithiol yn cael eu cwblhau.

  • Cyfrannu at weithrediad y Banc Datblygu fel cwmni rheoli cronfa proffesiynol a darparwr cyfalaf risg i fusnesau newydd a busnesau sy’n bodoli eisoes, yn unol â’r telerau cymeradwyo gan gyrff y Sector Cyhoeddus a Chronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).

  • Cynnal a datblygu gwybodaeth dechnegol a phenodol i ddiwydiant er mwyn sicrhau arfer gorau a chydymffurfiaeth mewn gweithgarwch buddsoddi

  • Cydgysylltu'n agos â'r tîm portffolio ar ôl buddsoddi a rhoi cymorth yn ôl yr angen i gynnal y berthynas â'r cwmni y buddsoddir ynddo a hwyluso buddsoddiadau ychwanegol fel y bo'n briodol.

  • Lledaenu enghreifftiau o arfer gorau ar gyfer gwneud cais i’r gronfa i’r rhai sy’n cyflwyno busnes allweddol a sicrhau bod y broses ymgeisio yn cael ei mireinio a’i gwella’n barhaus er mwyn darparu’r gwasanaeth cleient gorau posibl

  • Datblygu a chynnal cysylltiadau a rhwydweithiau gyda chyflwynwyr busnes allweddol a chyfryngwyr er mwyn dod o hyd i gyfleoedd buddsoddi addas

  • Cymryd rhan a chynrychioli’r Banc Datblygu, lle bo’n briodol, mewn cyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau a gweithgareddau grŵp ar y cyd

  • Gweithredu o dan derfynau awdurdod dirprwyedig a Chanllawiau Gweithredol Buddsoddi.

  • Cyfrannu at farchnata / hyrwyddo'r Banc Datblygu.

  • Ystyried ac ymwybyddiaeth o Ddyletswydd Defnyddwyr yr AYA bob amser i sicrhau ein bod yn darparu canlyniadau da i'n cwsmeriaid trwy weithredu'n ddidwyll, gan osgoi niwed rhagweladwy ac i alluogi a chefnogi ein cwsmeriaid i ddilyn eu hamcanion ariannol.

  • Sicrhau bod ein cwsmeriaid sy'n agored i niwed yn cael eu trin yn deg a bod ein cynnyrch a'n gwasanaethau yn bodloni anghenion cwsmeriaid sy'n agored i niwed yn ein marchnad darged.

  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan reolwr y gronfa i gwrdd ag anghenion gweithredol yr adran

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad 

Hanfodol

  • Peth profiad o fuddsoddi neu fenthyca i BBaChau

  • Profiad blaenorol o baratoi adroddiadau credyd

  • Dealltwriaeth o brosesau a gweithdrefnau asesu risg a buddsoddi

  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol cryf

  • Gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm

  • Hyderus yn eich sgiliau gwneud penderfyniadau eich hun

  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau 

  • Llygad graff am fanylion

  • Profiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol

  • Rhwydwaith sefydledig o gyflwynwyr gyda gofod BBaCh Cymreig.

Dymunol

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl y sector cyhoeddus mewn cyllid BBaChau

  • Dealltwriaeth o'r amgylchedd busnes rhanbarthol

  • Yn gallu siarad Cymraeg (ar gyfer rolau sy’n seiliedig yng Nghymru)

  • Trwydded Yrru

  • Llythrennog mewn TG gan gynnwys defnyddio Word, Excel, PowerPoint, Sage Winforecast

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, dilynwch y ddolen yma os gwelwch yn dda