Rydyn ni am recriwtio Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol a fydd yn seiliedig yn yng Nghaerdydd
Pwrpas y swydd
Mae'r tîm Buddsoddiadau newydd yn gyfrifol am fuddsoddi mwyafrif y buddsoddiadau a wneir yng Nghymru. Ei fandad yw targedu busnes newydd yn unig, sydd wedyn yn cael ei drosglwyddo i un o'r timau portffolio i'w reoli. Mae canfod, gwerthuso a chwblhau ystod eang o drafodion, o £50,000 i £3,000,000, yn hanfodol i'w weithrediad ac i amcanion ehangach grŵp BDC.
Bydd angen i ddeilydd y swydd feithrin perthynas waith agos yn fewnol a chyda chyflwynwyr busnes allanol a darparwyr gwasanaeth i gynyddu eu gwybodaeth am y farchnad a'u gallu i ddarparu gwerth ychwanegol i ddarpar gleientiaid. Bydd dealltwriaeth gynhwysfawr o ofynion a blaenoriaethau cwsmeriaid yn allweddol i sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ac y bodlonir meini prawf buddsoddi Banc Datblygu Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn meddu ar allu rhyngbersonol a datrys problemau datblygedig. Mae sgiliau technegol bancio cryf, sylw i fanylion a dull rhagweithiol, ymarferol hefyd yn rhagofynion hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Byddem yn disgwyl i'r ymgeisydd ddatblygu'n Swyddog Buddsoddi llawn ymhen 3 blynedd ar y mwyaf.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
- Cyfrannu at darged ariannol y tîm Buddsoddiadau newydd, gan chwarae rôl allweddol wrth ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid amserol a rhagorol.
- Nodi cyfleoedd am gyllid, cynnal dadansoddiad ariannol a gwneud penderfyniadau masnachol cadarn drwy adroddiadau sancsiwn manwl ar gyfer y rheolwr / rheolwr llinell / y gronfa.
- Deall ac asesu rhagdybiaethau llif arian sylfaenol a rhoi sylwadau ar y risgiau sy'n gysylltiedig â'r rhain ac awgrymu a dehongli dadansoddiadau sensitifrwydd priodol.
- Cymryd cyfrifoldeb dros greu cyfamodau a gosod terfynau. Cysylltu'n agos â thimau portffolio fel y bo'n briodol
- Gwerthuso cynigion buddsoddi fel y bo'n briodol gan y rheolwr llinell / rheolwr y gronfa. Gwneir buddsoddiadau o dan delerau masnachol ac yn unol â'r meini prawf a nodir yn y Canllawiau Gweithredu Buddsoddi perthnasol.
- Gweithio gyda Swyddogion Buddsoddi yn y Tîm Buddsoddiadau Newydd i gynorthwyo gyda’r gwaith o asesu a chwblhau diwydrwydd dyladwy ac asesu risgiau sy'n gysylltiedig ag agweddau ar bob buddsoddiad. Bydd hyn yn cynnwys cynnal arferion diwydrwydd dyladwy rheoli, ariannol a masnachol trylwyr a chadarn wrth ystyried cyfleoedd buddsoddi.
- Paratoi adroddiadau sancsiwn ar gyfer sancsiynu credyd a chyflwyno'r canfyddiadau i'r Pwyllgor Buddsoddi.
- Deall a bod yn rhan o drafod telerau masnachol yn llawn a'u trosi i gyfarwyddiadau cyfreithiol.
- Cysylltu â darparwyr diwydrwydd dyladwy allanol, cwmpasu tasgau gwaith a thrafod gwerth gorau am arian i gwsmeriaid.
- Cymryd cyfrifoldeb dros gwblhau cytundebau fel y bo'n briodol, gan sicrhau bod safonau gwasanaeth cwsmeriaid yn cael eu cyflawni tra'n gweithredu yn fasnachol i gefnogi'r cwsmer trwy sefyllfaoedd anodd gan sicrhau adborth amserol i bartïon priodol a llofnodi pob amod cynsail (AC).
- Bod yn bendant wrth wneud penderfyniadau, cymryd cyfrifoldeb personol a bod yn barod i gael sgyrsiau anodd gyda chleientiaid.
- Cysylltu â'r timau o fewn y sefydliad ehangach, ymdrin â, a chymryd cyfrifoldeb dros, agweddau cyfreithiol / diogelwch.
- Cynnal a datblygu gwybodaeth am y diwydiant a deall arfer gorau mewn gweithgarwch buddsoddi.
- Cymryd rhan a, lle bo'n briodol, cynrychioli buddsoddiadau'r Banc Datblygu mewn cyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau a gweithgareddau grŵp ar y cyd.
- Cyfrannu at farchnata / hyrwyddo'r Banc Datblygu.
- Datblygu a gwella enw da'r Banciau Datblygu fel darparwr buddsoddi proffesiynol.
- Unrhyw dasg fel y'i diffinnir gan Reolwr y Gronfa i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran.
Gwybodaeth, galluoedd, sgiliau a phrofiad
Hanfodol
- Yn meddu ar hunan-gymhelliant a'r gallu i gymryd agwedd ragweithiol a gweithio'n effeithlon heb oruchwyliaeth. Cyfforddus wrth ymdrin â gwaith sensitif i gleientiaid sy'n gritigol o ran amser.
- Dealltwriaeth o wybodaeth a dadansoddi ariannol
- Yn gallu canolbwyntio ar ganlyniadau.
- Chwaraewr tîm cryf
- Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau a chwrdd â thargedau. Yn meddu ar yr awydd ac ymagwedd benderfynol tuag at gwblhau gwaith hyd safon uchel yn gyson.
- Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol da. Sgiliau datrys problemau cryf.
- Profiad blaenorol o baratoi adroddiadau credyd
- Dealltwriaeth o asesiadau risg a phrosesau buddsoddi
- Hyderus yn eich gallu i wneud penderfyniadau
- Y gallu i asesu cynigion buddsoddi a chynnal diwydrwydd dyladwy
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau rhagorol.
- Profiad o weithio mewn rôl rheoli perthynas mewn banc neu amgylchedd ariannol tebyg ac yn arbennig profiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol.
- Yn llythrennog mewn TG / PC ac yn meddu ar y gallu i ddefnyddio pecynnau Microsoft Office.
- Cymhwyster proffesiynol perthnasol neu brofiad perthnasol mewn diwydiant bancio neu gyfrifeg.
Dymunol
- Profiad ym meysydd bancio / cyllid
- Profiad o fuddsoddi / benthyca arian i fusnesau bach a chanolig
- Dealltwriaeth o rôl y sector cyhoeddus mewn cyllid BBaCh
- Dealltwriaeth o amgylchedd busnes rhanbarthol
- Siaradwr Cymraeg
- Trwydded yrru
- Sgiliau TG, gan gynnwys defnyddio Word, Excel, Powerpoint, Sage Winforecast
Ymgeisiwch
I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru