Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Swyddog buddsoddi cynorthwyol CST (SBC)

Rydyn ni'n recriwtio Swyddog buddsoddi cynorthwyol CST a fydd yn seiliedig yng Nghymru.

Pwrpas y swydd

Rôl SBC yw darparu cefnogaeth gyda thrafodion o'r dechrau i'r diwedd ar gyfer y Tîm BMT ehangach. Gan weithio'n agos ochr yn ochr â Swyddogion Buddsoddi, rhoddir cyfle i'r SBC arwain ar rai agweddau o drafodion BMT. Bydd y rôl yn cynnwys monitro asedau portffolio Cronfa Sbarduno Technoleg a thasgau cysylltiedig.

Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau rhyngbersonol datblygedig, gyda diddordeb amlwg mewn buddsoddi mewn technoleg, llygad graff am fanylion a dull gweithredu ymarferol rhagweithiol.

Byddem yn disgwyl i'r ymgeisydd ddatblygu'n Swyddog Buddsoddi o fewn uchafswm o 36 mis

Prif ddyletswyddau a Chyfrifoldebau (yn annibynnol a / neu dan oruchwyliaeth)

  • Wrth weithio i'r Gronfa Sbarduno Technoleg ac fel rhan o'r tîm Buddsoddiadau Menter Technoleg ehangach: Bydd gofyn i chi ddarparu cymorth gyda thrafodion ar gyfer Swyddogion Buddsoddi yn y tîm Mentrau Technoleg gan gynnwys cynorthwyo wrth asesu a chwblhau cyfleoedd buddsoddi newydd, gan gynnwys cynnal gwerthusiadau cychwynnol, cynhyrchu papurau buddsoddi, diwydrwydd dyladwy ac asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig ag agweddau ar bob buddsoddiad. Bydd hyn yn cynnwys cynnal diwydrwydd dyladwy rheolaethol, ariannol a masnachol wrth ystyried cyfleoedd buddsoddi. Gall hyn gynnwys arwain rhai agweddau ar y broses fargen gan weithio'n agos ochr yn ochr â'r Swyddogion Buddsoddi.
  • Cymryd rhan wrth drafod telerau masnachol a'u trosi i gyfarwyddiadau cyfreithiol.
  • Cysylltu â darparwyr diwydrwydd dyladwy allanol, cwmpasu aseiniadau gwaith a thrafod gwerth gorau am arian i gleientiaid.
  • Bod yn bendant wrth wneud penderfyniadau, cymryd cyfrifoldeb a bod yn barod i gael sgyrsiau a allai fod yn anodd gyda chleientiaid newydd a phresennol.
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth am y diwydiant a deall arfer gorau ym maes gweithgaredd buddsoddi.
  • Lledaenu enghreifftiau o arfer gorau ar gyfer gwneud cais i Gronfeydd BMT i gyflwynwyr busnes allweddol a sicrhau bod y broses ymgeisio yn cael ei mireinio a'i gwella'n barhaus i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i gleientiaid.
  • Dod o hyd i gyfleoedd buddsoddi BMT yn weithredol trwy gynnal cyswllt a rhwydweithiau gyda chyflwynwyr a chyfryngwyr busnes allweddol.
  • Cyfrannu at farchnata / hyrwyddo Banc Datblygu Cymru.

Buddsoddiad

  • Mynychu cyfarfodydd gyda chleientiaid a chyfryngwyr i hyrwyddo buddsoddiadau CBT llwyddiannus.
  • Yn gyfrifol am sgrinio ceisiadau yn ystod y camau cychwynnol. Ymgymryd ag ymchwil er mwyn gwneud asesiad ac ymateb yn ffurfiol i gleientiaid wrthod neu ofyn am wybodaeth bellach os oes angen.
  • Cynorthwyo gyda pharatoi papurau cryno ac adroddiadau sancsiwn a chyflwyno achosion buddsoddi i'w sancsiynu.
  • Adeiladu modelau ariannol a chynorthwyo gyda dadansoddiadau ariannol ar gyfer cyfleoedd buddsoddi newydd a phresennol.
  • Bod yn bendant wrth wneud penderfyniadau, cymryd cyfrifoldeb a bod yn barod i gael sgyrsiau a allai fod yn anodd gyda darpar gleientiaid newydd.
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth am y diwydiant a deall arfer gorau mewn gweithgaredd buddsoddi.

Rheoli portffolio

  • Cymryd cyfrifoldeb am reoli portffolio o fuddsoddiadau Cronfa Sbarduno Technoleg.
  • Cynnal cyswllt rheolaidd, cymesur â busnesau cleientiaid yn y portffolio i sicrhau dealltwriaeth gyfoes o'u hamgylchiadau a meithrin perthnasoedd cynhyrchiol â'r rheolwyr. Strategaethau cyswllt i'w teilwra i amgylchiadau'r busnes dan sylw.
  • Gwneud y mwyaf o goladu data DPA cywir gan fusnesau portffolio yn amserol, gan gynnwys ysgrifennu adroddiadau yn dilyn cyfarfodydd cleientiaid.

Cymorth ychwanegol

  • Dylunio a chynhyrchu adroddiadau i gynorthwyo dadansoddiad portffolio.
  • Goruchwylio cwblhau'r broses o dynnu buddsoddiad i lawr ar eich trafodion penodol, gan weithredu fel pwynt cymeradwyo cychwynnol o safbwynt ansawdd.
  • Darparu hyfforddiant ac arweiniad i'r Dadansoddydd Cymorth Buddsoddi Mentrau Technoleg.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Swyddogion Buddsoddi, Rheolwyr Cronfeydd, neu Gyfarwyddwyr Cronfeydd i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran.
     

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Yn meddu ar hunan gymhelliant â'r gallu i gymryd agwedd ragweithiol a gweithio'n effeithlon heb lawer o oruchwyliaeth.
  • Yn gyffyrddus wrth ymdrin â gwaith sy'n sensitif i gleientiaid sy'n hanfodol i amser.
  • Canolbwyntio ar ganlyniadau. Y gallu i flaenoriaethu a threfnu llwyth gwaith ac i weithio'n effeithiol o dan bwysau a chyrraedd targedau.
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol da. Y gallu i addasu eich dull gweithredu er mwyn meithrin perthnasoedd gwaith cynhyrchiol.
  • Sgiliau datrys problemau.
  • Sgiliau trefnu a gweinyddol cryf.
  • Llygad graff am fanylion.
  • Yn ymrwymedig i ddatblygu gwybodaeth ac arbenigedd mewn buddsoddi cyfalaf menter.
  • Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno rhagorol a gradd uchel o gymhwysedd gyda chynhyrchion safonol MS Office fel Word, PowerPoint ac Excel yn benodol.
  • Sgiliau ymchwil cryf, gyda'r gallu i gymathu, hidlo a chadw llawer o wybodaeth yn gyflym.
  • Yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Gradd wyddonol uwch a / neu gymhwyster proffesiynol.

Dymunol

  • Profiad o fuddsoddi cyfalaf menter blaenorol.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o amgylchedd buddsoddi technoleg cam cynnar.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl y sector cyhoeddus ym maes cyllid busnesau bach a chanolig.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r amgylchedd Busnes yng Nghymru.
  • Siaradwr Cymraeg.

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru

Dyddiad cau

24 Ebrill 2020