Swyddog buddsoddi - micro fenthyciadau.

Rydym yn recriwtio i swyddog gweithredol buddsoddi ymuno â'n tîm micro-fenthyciadau yn Llanelli. Bydd y rôl hon yn cynnwys opsiwn gweithio hybrid, gan eich galluogi i weithio gartref hefyd.

Pwrpas y swydd

Mae'r swyddog buddsoddi yn gyfrifol am gyrchu a gwerthuso ceisiadau am fuddsoddiadau ar gyfer y Banciau Datblygu. Gwneir buddsoddiadau o dan delerau masnachol ac yn unol â'r meini prawf buddsoddi a osodir gan y Banc Datblygu. Gellir gwneud benthyciadau o hyd at £50,000.

 

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Dod o hyd i a gwerthuso cynigion buddsoddi. Yn nodweddiadol, fe fydd y buddsoddiadau heb eu sicrhau felly mae'r gallu i ddeall tybiaethau llif arian sylfaenol ac i asesu'r rhain yn gywir yn holl bwysig.
  • Cyflawni yn erbyn targedau buddsoddi a chynhyrchu
  • Cynnal diwydrwydd dyladwy rheoli, ariannol a masnachol trylwyr a chadarn wrth ystyried cyfleoedd buddsoddi ac asesu'r risgiau sydd ynghlwm â phob buddsoddiad
  • Trafod telerau ac amodau sy'n ymwneud â dogfennau cyfreithiol ar gyfer rhoi buddsoddiadau.
  • Paratoi adroddiadau buddsoddi ar gyfer sancsiynau credyd.
  • Sicrhau bod y dogfennau cyfreithiol yn cael eu cwblhau
  • Cyfrannu at weithrediad y Banc Datblygu fel cwmni rheoli cronfeydd proffesiynol a darparwr cyfalaf risg i fusnesau sy'n dechrau a busnesau sy’n bodoli’n barod, yn unol â thelerau cymeradwyaeth gan Gyrff y Sector Gyhoeddus a Chronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop (CDRhE)
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth dechnegol a phenodol i ddiwydiant i sicrhau arfer gorau a chydymffurfiaeth mewn gweithgarwch buddsoddi
  • Cynnal cyswllt agos â'r tîm portffolio ar ôl buddsoddi a darparu cymorth yn ôl yr angen i gynnal y berthynas gyda'r cwmni buddsoddi a hwyluso buddsoddiadau ychwanegol fel sy'n briodol
  • Lledaenu enghreifftiau o arfer gorau ar gyfer gwneud cais i'r gronfa i gyflwynwyr busnes allweddol a sicrhau bod y broses ymgeisio yn cael ei mireinio a'i gwella'n barhaus er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i gleientiaid
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau a rhwydweithiau gyda chyflwynwyr busnes allweddol a chyfryngwyr er mwyn dod o hyd i gyfleoedd buddsoddi addas
  • Cymryd rhan a chynrychioli'r Banc Datblygu, lle bo hynny'n briodol, mewn cyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau a gweithgareddau ar y cyd
  • Gweithredu o dan derfynau awdurdod dirprwyedig a Chanllawiau Gweithredol Buddsoddi.
  • Cyfrannu at farchnata / hyrwyddo'r Banc Datblygu
  • Unrhyw dasg arall y gall rheolwr y gronfa ei diffinio i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Rhywfaint o brofiad o fuddsoddi neu fenthyca i fusnesau bach a chanolig
  • Profiad blaenorol o baratoi adroddiadau credyd
  • Dealltwriaeth o brosesau a gweithdrefnau asesu risg a buddsoddi
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol cryf
  • Yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • Hyderus yn eich sgiliau gwneud penderfyniadau eich hun
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau
  • Llygad graff am fanylion
  • Profiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol
  • Rhwydwaith sefydledig o gyflwynwyr yn y maes busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Dymunol 

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl y sector gyhoeddus mewn cyllid BBaCH
  • Dealltwriaeth o'r amgylchedd busnes rhanbarthol
  • Yn gallu siaradwr Cymraeg (ar gyfer y swyddi yng Nghymru)
  • Trwydded yrru
  • Sgiliau TG

Ymgeisiwch

I wneud cais am y rôl hon, dilynwch y ddolen yma

Dyddiad cau: Ionawr 13