Swyddog datblygu eiddo

Rydym yn recriwtio ar gyfer swyddog datblygu eiddo sydd wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru, Gorllewin Cymru neu Dde Cymru. Cyflog yn amrywio o £45,000 - £53,000 yn dibynnu ar brofiad.

Pwrpas y swydd

Mae'r Swyddog Datblygu Eiddo yn gyfrifol am ffynonellu, gwerthuso a darparu buddsoddiadau datblygu eiddo o dan Gronfeydd Datblygu Eiddo Banc Datblygu Cymru. Gwneir buddsoddiadau dan delerau masnachol ac yn unol â'r meini prawf buddsoddi a osodir gan y Banc Datblygu.
 


 

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Ffynonnellu a gwerthuso cynigion ar gyfer bargeinion datblygu eiddo.
  • Rheoli bargeinion datblygu eiddo o'r cychwyn cyntaf trwodd i'r cyfnod ad-dalu.
  • Cyflawni yn erbyn targedau buddsoddi a phortffolio.
  • Cynnal diwydrwydd dyladwy rheoli, ariannol a masnachol trylwyr a chadarn wrth ystyried cyfleoedd datblygu eiddo ac asesu'r risgiau sydd ynghlwm i bob buddsoddiad.
  • Trafod strwythurau bargeinion yn effeithiol gyda chwsmeriaid a'u cynghorwyr ill dau; gan gynnwys sicrwydd, prisio, cyfamodau, gwarantau, cynsail amodau, gofynion monitro a rhwymedigaethau ad-dalu.
  • Paratoi papurau crynhoi ac adroddiadau sancsiwn a chyflwyno cynigion ar gyfer sancsiwn.
  • Sicrhau bod y dogfennau cyfreithiol a'r gofynion rheoleiddiol yn cael eu cwblhau.
  • Cynnal cyswllt rheolaidd a chymesur â busnesau cwsmeriaid er mwyn sicrhau dealltwriaeth gyfoes o'r prosiectau perthnasol a meithrin perthynas gynhyrchiol â rheolaeth. Dylai'r strategaethau cyswllt gael eu teilwra i amgylchiadau'r fargen dan sylw.
  • Gwneud y gorau o gasglu data DPA manwl gywir gan fusnesau portffolio yn amserol.
  • Bod yn bendant wrth wneud penderfyniadau, cymryd cyfrifoldeb a bod yn barod i gael sgwrs anodd gyda chleientiaid.
  • Cyfrannu at weithrediad y Banc Datblygu fel cwmni rheoli cronfa proffesiynol.
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth dechnegol a phenodol i ddiwydiant i sicrhau arfer gorau a chydymffurfiaeth mewn gweithgarwch buddsoddi.    
  • Lledaenu enghreifftiau o arfer gorau ar gyfer gwneud cais i'r Cronfeydd Datblygu Eiddo ymysg cyflwynwyr busnes allweddol a sicrhau bod y broses ymgeisio yn cael ei mireinio a'i gwella'n barhaus i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i gleientiaid.
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau a rhwydweithiau gyda chyflwynwyr busnes allweddol a chyfryngwyr i ddod o hyd i gyfleoedd datblygu eiddo addas.
  • Cyfranogi a chynrychioli Banc Datblygu, lle bo'n briodol, mewn cyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau a gweithgareddau ar y cyd.
  • Gweithredu o dan y Canllawiau Gweithredol Buddsoddi.
  • Cyfrannu at farchnata / hyrwyddo'r Banc Datblygu.
  • Ymgymryd ag unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan Reolwr y Gronfa i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran.

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Yn meddu ar hunan-gymhelliant gyda'r gallu i gymryd ymagwedd ragweithiol a'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Profiad o fuddsoddi ym maes datblygu eiddo.
  • Profiad o baratoi adroddiadau credyd.
  • Dealltwriaeth o brosesau a gweithdrefnau asesu risg a buddsoddi.
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol cryf.
  • Hyderus yn eich sgiliau gwneud penderfyniadau eich hun.
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau.
  • Sylw i fanylion.
  • Profiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol, adroddiadau prisio ac astudiaethau dichonolrwydd.
  • Yn llythrennog mewn TG gan gynnwys defnyddio Word, Excel, PowerPoint ac Outlook.
  • Profiad o weithio yn y diwydiant bancio.
  • Trwydded yrru.


Dymunol  

  • Rhwydwaith o gyflwynwyr sefydledig o fewn sector eiddo Cymru.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl y sector cyhoeddus mewn cyllid BBaCh.
  • Dealltwriaeth o'r amgylchedd busnes rhanbarthol.
  • Yn gallu siaradwr Cymraeg.

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru