Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Swyddog Datblygu Portffolio/Uwch Swyddog Monitro Portffolio

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio Swyddog Datblygu Portffolio/Uwch Swyddog Monitro Portffolio a fydd yn seiliedig yn Llanelli neu yn Nghaerdydd. 

Pwrpas y swydd

Mae'r Swyddog Datblygu Portffolio/Uwch Swyddog Monitro Portffolio yn gweithredu fel Rheolwr Buddsoddi'r Banc Datblygu ar gyfer portffolio o fuddsoddiadau ecwiti a, thrwy ddarparu cyngor ac arweiniad cyffredinol, mae'n gyfrifol am yrru gwerth cyfranddaliwr a sicrhau'r enillion mwyaf ar fuddsoddiadau ecwiti portffolio.

Prif gyfrifoldeb y Swyddog Datblygu Portffolio fydd datblygu dealltwriaeth fanwl o gleientiaid portffolio, a chynnal perthynas waith agos â nhw. Yn ogystal, bydd y Swyddog Datblygu Portffolio yn gyfrifol am werthuso ceisiadau am unrhyw fuddsoddiadau dilynol, p'un ai trwy gymorth ecwiti, dyled neu mesanîn neu unrhyw gyfuniad o'r rhain.

Mae'r Swyddog Datblygu Portffolio yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau creu gwerth er mwyn gwella gwerth a pharatoi'r cwmni mewnfuddsoddi ar gyfer cael ei werthu / ymadael y Banc Datblygu a rheoli'r broses ymadael ar ran y Banc Datblygu fel cyfranddaliwr.

Mae'r Swyddog Datblygu Portffolio hefyd yn gyfrifol am nodi a gwerthuso cyfleoedd buddsoddi ecwiti newydd i'r Banc Datblygu ymysg cwsmeriaid presennol.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Cymryd cyfrifoldeb am reoli buddsoddiadau ecwiti, gan gynnwys sicrhau cydymffurfiad â'r holl ddogfennau buddsoddi, e.e. cytundebau cyfranddalwyr, Erthyglau Cymdeithasu a chyfamodau benthyca.
  • Datblygu cynlluniau creu gwerth strategol priodol gyda chytundeb y Rheolwr Datblygu Portffolio a'r Cyfarwyddwr Portffolio i sicrhau'r enillion mwyaf posibl ar gyfer Grŵp y Banc Datblygu.
  • Lle bo’n briodol, cytuno / trafod y cynlluniau strategol hynny gyda bwrdd y cwmni buddsoddi / rhanddeiliaid allweddol, gan ddefnyddio hawliau buddsoddi / cyfranddaliwr y Banc Datblygu, trosoliadau ariannol eraill neu sgiliau dylanwadu yn ôl yr angen.
  • Cynnal cyswllt arferol â busnesau cleientiaid / aelodau bwrdd i sicrhau dealltwriaeth gyfoes o fusnesau cleientiaid a meithrin perthnasoedd cryf â rheolwyr / byrddau. Dylai cyswllt o'r fath gael ei deilwra i weddu i anghenion pob cleient a bydd yn cynnwys o leiaf presenoldeb mewn cyfarfodydd bwrdd.
  • Adeiladu perthnasoedd gwaith agos yn fewnol a gyda chyflwynwyr busnes allanol a darparwyr gwasanaeth i gynyddu gwybodaeth am y farchnad a'r gallu i ddarparu gwerth ychwanegol i gleientiaid portffolio.
  • Lle bo hynny'n briodol, nodi a darparu cefnogaeth strategol a gweithredol uniongyrchol neu drydydd parti i wella gwerth busnes cleientiaid
  • Monitro ac asesu gwybodaeth berthnasol gan gynnwys gwybodaeth ariannol i baratoi adroddiadau angenrheidiol ar berfformiad cwmnïau portffolio. Gwneud argymhellion cytbwys i'r uwch reolwyr neu'r pwyllgor buddsoddi lle mae angen rowndiau buddsoddi ychwanegol. Rheoli'r rowndiau buddsoddi ychwanegol hynny, gan gynnwys dogfennaeth gyfreithiol ac unrhyw ddiwydrwydd dyladwy angenrheidiol.
  • Cynhyrchu rhagolygon rheolaidd o'r prisiadau / enillion disgwyliedig ar gyfer rheoli gwybodaeth (RhG) fewnol y Banc Datblygu.
  • Cynorthwyo'r cwmni buddsoddi i baratoi ar gyfer gwerthu / ymadawiad y Banc Datblygu. Rheoli'r broses ymadael ar ran y Banc Datblygu.
  • Datblygu a gwella enw da'r Banc Datblygu fel darparwr buddsoddi proffesiynol.
  • Sicrhau bod yr holl ryngweithio â chyrff ac aelodau mewnol ac allanol yn cael ei gynnal yn unol â'r safonau uchaf o wasanaeth i gwsmeriaid er mwyn sicrhau adborth amserol i bartïon priodol.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Rheolwr Datblygu Portffolio i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran, gan sicrhau bod ymddiriedaeth a hyder buddsoddwyr y Cwmni yn cael eu cynnal bob amser.
  • Byddai disgwyl i Uwch Swyddog Portffolio weithredu’n fwy annibynnol a chael mwy o effaith yn y meysydd uchod.
  • Byddai disgwyl i Uwch Swyddog Portffolio arwain ar rai o’r meysydd uchod.

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Unigolyn llawn cymhelliant yn meddu ar y gallu i gymryd agwedd ragweithiol a gweithio'n effeithlon heb oruchwyliaeth. Yn gyffyrddus wrth ymdrin â gwaith sy'n sensitif i gleientiaid sy'n hanfodol i amser.
  • Canolbwyntio ar ganlyniadau
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau a chyrraedd targedau.
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol da. Sgiliau datrys problemau cryf.
  • Dealltwriaeth o gyfraith cwmnïau a gweithdrefnau bwrdd
  • Y gallu i asesu cynigion buddsoddi a llunio cynigion buddsoddi cytbwys
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd ariannol neu rifol tebyg ac yn benodol ymwybyddiaeth neu brofiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol
  • Profiad o gynllunio busnes, cyngor strategol a phrosiectau cyllid corfforaethol (buddsoddiadau, caffaeliadau, gwarediadau), gan weithio ar y cyd â byrddau cwmnïau.
  • Yn llythrennog wrth ddefnyddio TG / PC gyda'r gallu i ddefnyddio Pecynnau Microsoft Office
  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol neu o leiaf bum mlynedd o brofiad perthnasol yn y diwydiant
  • Trwydded Yrru
  • Bydd y rôl yn ddibynnol ar brofiad yr ymgeisydd

Dymunol 

  • Siaradwr Cymraeg
  • Ymwybyddiaeth o faterion BBaCh yng Nghymru

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i ein tudalen recriwtio