Swyddog Gweithredol Cynorthwyol Sicrhau Ansawdd

Rydym yn chwilio am Swyddog Gweithredol Sicrhau Ansawdd Cynorthwyol sydd wedi’i leoli naill ai yn Wrecsam neu yng Nghaerdydd. Mae hwn yn gontract cyfnod penodol

Pwrpas y swydd

Mae’r tîm Sicrhau Ansawdd yn chwarae rhan allweddol yn fframwaith rheoli risg Banc Datblygu Cymru, gan gyfrannu at hygrededd ac enw da’r Grŵp fel rheolwr cronfeydd effeithiol a phroffesiynol.

Mae’r swydd yn cynnwys gwneud gwaith monitro cydymffurfiaeth yn uniongyrchol, tynnu sylw at feysydd nad ydynt yn cydymffurfio, neu feysydd gwan a bregus, a chyfrannu at y gwaith o gynllunio a gweithredu newid a rheolaethau gweithdrefnol er mwyn sicrhau’r effeithlonrwydd gorau posibl wrth weithredu o fewn goddefiannau risg y Grŵp mewn perthynas â’r canlynol:

  • Samplu ffeiliau Buddsoddi, Portffolio a Gwasanaethau Eiddo;
  • Cynorthwyo gydag adolygiadau thematig a gweithgareddau dwys;
  • Cydlynu gweithdrefnau buddsoddi a thempledi dogfennau;
  • Dilysu ac adrodd ar ddata effaith.

Fel ceidwad arferion gorau o ran gweithdrefnau buddsoddi a data effaith, bydd deiliad y swydd yn darparu arweiniad ad hoc i gydweithwyr ar bob lefel ar draws ochr fuddsoddi’r busnes.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau bod meysydd o wendid o fewn y Gweithdrefnau Buddsoddi a gweithgarwch samplu yn cael eu nodi, ac yn helpu i weithredu gwelliannau a rheolaethau i brosesau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Cynnal adolygiadau ansoddol cyn ac ar ôl buddsoddi o ffeiliau buddsoddi’r Grŵp i sicrhau cydymffurfiaeth â Chanllawiau Gweithredu Mewnol, gweithdrefnau buddsoddi a Pholisi'r Grŵp, gan gadw cofnodion cywir o weithgarwch samplo ffeiliau.
  • Nodi a datrys achosion lle nodir diffygion neu anghysondebau ar ffeiliau Buddsoddi a rhoi gwybod am ganlyniadau gweithgarwch samplo ffeiliau i’r staff Buddsoddi perthnasol a’r Uwch Swyddog Sicrhau Ansawdd.
  • Sicrhau bod y gweithdrefnau buddsoddi dal yn addas i’r diben drwy nodi’r meysydd bregus / aneffeithlon a gweithio’n agos gyda’r Swyddogion Gweithredol Sicrhau Ansawdd i ddyfeisio a chyflwyno gweithdrefnau newydd a gwelliannau.
  • Cynorthwyo gydag unrhyw adolygiadau thematig a gweithgarwch samplo dwys.
  • I ddarparu adborth ar effeithiolrwydd y gweithdrefnau samplu ffeiliau ac i argymell a chyflwyno gwelliannau trwy gysylltu â'r Uwch Swyddog Sicrhau Ansawdd.
  • Dilysu’r holl ddata effaith sy’n ymwneud â gweithgarwch buddsoddi a darparu adborth i dimau buddsoddi.
  • I gynorthwyo gyda chymodi dogfennau diogelwch yn gorfforol i gefnogi'r Uwch Swyddog Sicrhau Ansawdd a'r Rheolwr Chydymffurfiaeth mewn perthynas â thystiolaethu cydymffurfiaeth CASS.
  • Darparu cefnogaeth drwy gyfeirio staff buddsoddi at bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau a gyhoeddir yn fewnol.
  • Cefnogi’r gwaith o reoli a chynnal a chadw templedi buddsoddi craidd (ac eithrio rhai cyfreithiol) a gweithdrefnau gweithredu buddsoddi yn ganolog.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan yr Uwch Swyddog Sicrhau Ansawdd a'r Rheolwr Chydymffurfiaeth i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran.

Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad

Hanfodol 

  • Gallu cymell eich hun, gyda’r gallu i weithredu’n rhagweithiol a gweithio’n effeithiol heb oruchwyliaeth.
  • Cymhelliant a phenderfyniad i gwblhau gwaith yn gywir, yn gyson ac i safon uchel.
  • Meddwl rhesymegol a chwilfrydig a llygad am fanylion. Y gallu i feddwl yn greadigol a chyflwyno datrysiadau arloesol i broblemau a nodwyd.
  • Y gallu i gadw gwybodaeth fanwl ac arddangos barn eang, er mwyn deall goblygiadau newid trefniadol ar draws y busnes.
  • Dealltwriaeth eang o reoli risg yn y sector ariannol a'r gallu i'w gymhwyso i’r Grŵp.
  • Gwerthfawrogiad o’r manteision i’r Grŵp o gael polisïau a gweithdrefnau o ansawdd uchel i fod yn sail i weithgareddau buddsoddi.
  • Y gallu i reoli a threfnu gwaith o dan bwysau a chwrdd â therfynau amser.
  • Sgiliau rhyngbersonol cadarn a’r gallu i gyfathrebu a dylanwadu’n effeithiol, gan herio am ragor o wybodaeth lle bo angen, gyda staff o bob lefel ar draws y Grŵp.
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd ariannol / rhifyddol neu amgylchedd archwilio / wedi’i reoleiddio.
  • Yn hyddysg ym maes TG / cyfrifiaduron ac yn gallu defnyddio pecynnau Microsoft Office

Dymunol 

  • Dealltwriaeth o’r rhwymedigaethau ar fusnesau gwasanaethau ariannol o ran cydymffurfio â rheoliadau.
  • Dealltwriaeth eang o ddyled, mesanîn a buddsoddiadau ecwiti.
  • Y gallu i siarad Cymraeg. rhesymegol

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i ein tudalen recriwtio