Swyddog Gweithredol Sefyllfaoedd Arbennig

Rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddog Gweithredol Sefyllfaoedd Arbennig sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd neu Wrecsam gan deithio ledled Cymru

Pwrpas y swydd

Mynd ati’n rhagweithiol i reoli portffolio personol o fuddsoddiadau ecwiti llai y nodwyd eu bod mewn perygl. Mynd ati’n gyflym i sefydlu perthynas gynhyrchiol gyda thimau rheoli; datblygu a sicrhau bod cynlluniau newid cyfeiriad cynhwysfawr a chadarn yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol er mwyn adfer perfformiad boddhaol a sicrhau’r elw mwyaf posibl ar fuddsoddiadau ecwiti llai. Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y buddsoddiadau hynny, gan geisio datrys achosion lle bo hynny’n bosibl.

Paratoi ceisiadau ar gyfer unrhyw fuddsoddiadau dilynol, boed hynny drwy ecwiti, dyled neu gymorth mesanîn neu unrhyw gyfuniad o’r rhain.

Cefnogi cydweithwyr Banc Datblygu Cymru mewn achosion newid cyfeiriad ecwiti mwy cymhleth a phrosiectau eraill.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Cyfrannu at gynlluniau gweithredu priodol i sicrhau’r elw mwyaf posibl i Fanc Datblygu Cymru o bortffolios buddsoddi TVI a PDT, gan gynnwys arwain cynlluniau newid cyfeiriad, strategaethau ymadael, neu gamau adfer lle bo hynny’n briodol.
  • Meithrin a chynnal perthnasau gwaith agos gyda chwmnïau portffolio ecwiti ac ymgymryd â gweithgareddau monitro uniongyrchol. Bydd cyswllt o’r fath yn cael ei deilwra i ddiwallu anghenion pob cleient a bydd yn cynnwys mynychu cyfarfodydd bwrdd a rheoli Cyfarwyddwyr Anweithredol, Rheolwyr Dros Dro ac arbenigwyr Newid Cyfeiriad lle bo hynny’n briodol.
  • Datblygu cynlluniau strategol priodol gyda chytundeb y Rheolwr Sefyllfaoedd Arbennig a Chyfarwyddwr/Cyfarwyddwyr Buddsoddi priodol i sicrhau’r elw mwyaf posibl i Grŵp y Banc Datblygu.
  • Lle bo’n briodol, cytuno/negodi’r cynlluniau strategol hynny gyda bwrdd/ rhanddeiliaid allweddol y cwmni sy’n buddsoddi, gan ddefnyddio buddsoddiad/hawliau cyfranddalwyr y Banc Datblygu, dulliau ysgogi ariannol eraill neu sgiliau dylanwadu yn ôl yr angen.
  • Cynnal cyswllt parhaus â busnesau cleientiaid / aelodau’r bwrdd i sicrhau dealltwriaeth gyfredol o fusnesau sy’n gleientiaid a meithrin perthnasoedd cryf â’u rheolwyr/byrddau rheoli. Bydd cyswllt o’r fath yn cael ei deilwra i ddiwallu anghenion pob cleient a gall gynnwys mynychu cyfarfodydd bwrdd.
  • Llunio a chynnal dogfennau cywir ar gyfer holl weithgareddau’r cwmnïau cleient.
  • Asesu a monitro gwybodaeth berthnasol gan gynnwys gwybodaeth ariannol i baratoi adroddiadau angenrheidiol ar berfformiad cwmnïau portffolio. 
  • Datblygu a gwella enw da Banc Datblygu Cymru fel darparwr buddsoddiadau proffesiynol.
  • Sicrhau bod unrhyw ryngweithio â chyrff ac aelodau mewnol ac allanol yn cyd-fynd â’r safonau uchaf o ran gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn sicrhau adborth amserol i bartïon priodol.
  • Unrhyw dasg arall y gallai’r Rheolwr Sefyllfaoedd Arbennig ei dyrannu i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran, gan sicrhau y cynhelir ymddiriedaeth a hyder buddsoddwyr y Cwmni bob amser.

Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad

Hanfodol 

  • Gallu cymell eich hun, gweithredu’n rhagweithiol a gweithio’n effeithiol heb oruchwyliaeth. Yn gyfforddus yn delio â gwaith sensitif i gleientiaid lle mae amser yn hollbwysig.
  • Canolbwyntio ar ganlyniadau.
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd ariannol neu amgylchedd rhifog tebyg ac, yn benodol, ymwybyddiaeth neu brofiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol
  • Profiad o fuddsoddi ecwiti heb ei restru neu reoli cyfranddaliadau sy’n cael eu dal yn uniongyrchol mewn busnesau bach a chanolig.
  • Meddwl yn ddadansoddol a sylwi ar fanylion a hefyd yn gallu cymryd golwg fwy strategol a thymor hwy.   
  • Gallu blaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau a chwrdd ag amserlenni.
  • Sgiliau negodi a dylanwadu cryf.
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac ar bapur.
  • Yn gadarn ac yn benderfynol, gan ddatblygu sgiliau datrys problemau.
  • Gallu llunio cynigion buddsoddi cytbwys.
  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol neu brofiad perthnasol yn y diwydiant.
  • Yn hyddysg ym maes TG/cyfrifiaduron ac yn gallu defnyddio Pecynnau Microsoft Office
  • Trwydded Yrru.

Dymunol 

  • Dealltwriaeth o Grŵp Banc Datblygu Cymru a’i weithgareddau
  • Profiad o gynllunio busnes, cyngor strategol a phrosiectau cyllid corfforaethol (buddsoddiadau, caffaeliadau, gwaredu), gan weithio ar y cyd â byrddau cwmnïau.
  • Rhywfaint o brofiad o drafodion ad-drefnu ariannol mewn perthynas â busnesau bach a chanolig sy’n tangyflawni, dan straen neu mewn trallod.
  • Profiad o ddatblygu, sicrhau ymrwymiad a sicrhau bod cynlluniau newid cyfeiriad yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol mewn busnesau sy’n buddsoddi.
  • Gwybodaeth gyfreithiol ac ariannol dechnegol gan gynnwys dealltwriaeth fras o gyfraith cwmnïau, cyfraith ansolfedd, technegau ac arferion newid cyfeiriad busnes a gweithdrefnau'r bwrdd.
  • Ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â busnesau bach a chanolig yng Nghymru
  • Siaradwr Cymraeg

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i ein tudalen recriwtio