Swyddog y wasg

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio swyddog y wasg a fydd yn seiliedig yn Wrecsam neu yn Nghaerdydd. Cyflog yn amrywio o £30,000 - £35,000 yn dibynnu ar brofiad.

Pwrpas y swydd

Hyrwyddo Banc Datblygu Cymru a chynyddu ymgysylltiad â’r cyfryngau a rhanddeiliaid a sicrhau sylw wedi'i dargedu ar draws cyfryngau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a sector-benodol. Nodi a datblygu straeon, gan ddefnyddio'ch sgiliau ysgrifennu copi ac adrodd straeon er mwyn ysgrifennu cynnwys deniadol ar gyfer ystod o allbynnau ar sianeli digidol ac wedi’u hargraffu (wedi'u hennill a'u perchnogi) sy'n cefnogi ein cynlluniau cyfathrebu strategol a gweithredol.

Datblygu perthnasoedd dylanwadol, yn fewnol ac yn allanol, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a chysylltiadau cyfryngau i gynyddu eu dealltwriaeth o'r Banc Datblygu a sylw i’n cynnwys cyhoeddedig.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Byddwch yn cyflwyno gweithgareddau cyfryngau strategol a gweithredol, gan ymchwilio a datblygu onglau diddorol ar gyfer straeon sy'n cynyddu proffil ac yn gwella ymwybyddiaeth o'r Banc Datblygu. Gan weithio ar y cyd â chydweithwyr a phartneriaid byddwch yn drafftio ystod o gynnwys gan gynnwys datganiadau iar gyfer y cyfryngau, nodweddion, datganiadau, arweinyddiaeth meddwl, astudiaethau achos a chynnwys hysbysebu i gyfleu negeseuon allweddol.  

  • Ymchwilio, datblygu ac ysgrifennu ystod o gynnwys i gyflwyno cyfathrebiadau wedi'u targedu sydd a wnelo ein negeseuon allweddol, trwy ddatganiadau i’r cyfryngau, atodiadau, datganiadau, arweinyddiaeth meddwl, astudiaethau achos a chynnwys amserol arall yn unol â chynllun cyfathrebu'r Grŵp.
  • Datblygu perthnasoedd gwaith rhagweithiol gyda'r cyfryngau ledled Cymru i fynd ati i chwilio am gyfleoedd golygyddol i werthu straeon a sicrhau cyfweliadau i lefarwyr allweddol; cynyddu ymgysylltiad gydag allfeydd allweddol
  • Rheoli ac ymateb i ymholiadau gan y cyfryngau yn brydlon a chynnal cysylltiadau amddiffynnol â'r cyfryngau a disgwyliadau newyddiadurwyr
  • Rheoli'r matrics negeseuon grŵp a sicrhau bod negeseuon brand cydlynol yn cael eu cyflwyno a naws y llais ar draws pob cyfathrebiad
  • Datblygu perthnasoedd â chydweithwyr a rhanddeiliaid i gydweithio ar ddyfeisio cynnwys
  • Monitro ac adrodd ar ein sylw yn y cyfryngau, mesur a dadansoddi effeithiolrwydd gweithgareddau cysylltiadau â'r cyfryngau
  • Rheoli contractau gyda darparwyr dosbarthu cyfryngau a monitro'r cyfryngau
  • Datblygu a rheoli perthnasoedd gydag asiantaethau a chyflenwyr trydydd parti eraill
  • Dirprwyo ar gyfer ac ymgymryd ag unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Rheolwr Cyfathrebu i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Profiad sylweddol o gysylltiadau a pherthynas â'r cyfryngau a gafwyd yn gweithio fel newyddiadurwr neu fel swyddog y wasg / cyfathrebu
  • Dealltwriaeth dda o'r dirwedd gyfryngol a gwleidyddol yng Nghymru a gwasanaethau ariannol / busnes
  • Gwybodaeth a phrofiad o ddarparu ymgyrchoedd marchnata integredig ar gyfer cynulleidfaoedd B2B
  • Sgiliau ysgrifennu copi gwych
  • Sgiliau gwrando, ysgrifenedig a chyfathrebu llafar rhagorol
  • Lefel uchel o gywirdeb a sylw i fanylion gyda gwir ymdeimlad o frys
  • Deall fframweithiau cyfreithiol a rheoliadol priodol
  • Profiad o ddefnyddio offer adrodd i fesur effeithiolrwydd ymgyrchu a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Profiad amlwg o gynllunio a chydlynu prosiectau
  • Cydweithiwr tîm gwirioneddol sy'n cymell, yn ymgysylltu ac yn cefnogi eraill sydd yn meddu ar sgiliau datrys problemau, dylanwadu a thrafod cryf
  • Dull methodolegol a threfnus o reoli llwyth gwaith amrywiol
  • Profiad o ddefnyddio gwahanol gymwysiadau / pecynnau swyddfa TG / MS, CRM, a systemau rheoli cynnwys

Dymunol

  • Siaradwr Cymraeg rhugl
  • Dealltwriaeth dda o rôl ‘Banc Datblygu Cymru’ yn economi, diwydiant a masnach Cymru yn ogystal ag anghenion buddsoddi busnesau bach a chanolig
  • Profiad o ddatblygu cynnwys marchnata dwyieithog, yn enwedig defnyddio'r Gymraeg
  • Profiad o gyfathrebu polisi a strategol a gafwyd mewn llywodraeth neu sefydliad tebyg
  • Cymhwyster marchnata neu gyfathrebu cydnabyddedig (diploma CIM / CIPR yn ddelfrydol), profiad cyfatebol neu a fydd yn barod i astudio am gymhwyster marchnata perthnasol
  • Trwydded yrru lawn

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru

Dyddiad cau

30 Medi 2021