Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Telerau ac Amodau Safonol - Cartrefi Gwyrdd Cymru

1. Diben

1.1 Mae Cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru (y “Cynllun”) yn gynllun lle mae DBW Investments (11) Limited (“DBW”) yn cefnogi gosod, mewn eiddo domestig sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, fathau penodol o fesurau gwella effeithlonrwydd ynni a systemau gwresogi carbon isel (sef y ‘Mesurau Cymwys’ a ddisgrifir yn Atodiad B i’r telerau ac amodau hyn).

1.2 Bydd benthyciadau o dan y Cynllun yn cael eu cynnig i berchnogion eiddo cymwys fel benthyciad anwarantedig (y “Benthyciad Swm Sefydlog”), y mae'n rhaid i'r derbynnydd/derbynyddion eu defnyddio i dalu am osod y Mesurau Cymwys yn yr Eiddo.

1.3 Rydych yn cydnabod eich bod yn benthyca arian at ddiben gosod Mesurau Cymwys yn eich Eiddo ac yn ymrwymo i wneud yr holl daliadau gofynnol i ni drwy ddebyd uniongyrchol, yn llawn ac ar amser, heb leihau’r taliadau am unrhyw reswm o gwbl, gan gynnwys, heb gyfyngiad, gosod yn erbyn neu ddidyniad.

2. Ymgymeriadau

2.1 Rhaid i chi beidio â bod yn fusnes na gwneud cais ar ran busnes ac ni ddylai eich Eiddo gael ei restru fel ased busnes.

2.2 Rhaid i chi:-

(a) fod yn berchen ar yr Eiddo neu'n berchen ar yr eiddo ar y cyd fel person naturiol a rhaid mai dyma'ch unig breswylfa breifat;

(b) fod wedi cyfarwyddo Cydlynydd Ôl-osod a fydd yn darparu cymorth o'r dechrau i'r diwedd drwy gydol y broses o ddewis a gosod y Mesurau Cymwys yn yr Eiddo. Rhaid i'r Cydlynydd Ôl-osod fod wedi'i gofrestru â chynllun “TrustMark” Llywodraeth y DU;

(c) darparu'r holl ddogfennaeth sy'n ofynnol gan y Cynllun o bryd i'w gilydd;

(d) sicrhau bod y gosodwr yr ydych yn contractio ag ef i gyflenwi a gosod y Mesurau Cymwys yn eich Eiddo wedi'i gofrestru gyda Trustmark a rhaid iddo barhau'n gofrestredig nes bod y gwaith gosod wedi'i gwblhau;

(e) sicrhau bod y gwaith a’r nwyddau a ddarperir ar gyfer gosod y Mesurau Cymwys wedi’u gwarantu’n briodol ac, os oes angen, trefnu a chynnal yswiriant ar gyfer eich Mesurau Cymwys gydag yswiriwr cyfrifol, rhag risgiau priodol i’r graddau sy’n ofynnol;

(f) bod y person a fydd yn berchen ar yr Eiddo ar yr adeg y byddwn yn talu Cyfanswm Swm y Benthyciad i chi ac ar ôl cwblhau gosod y Mesurau Cymwys, chi fydd y person sy'n berchen ar y Mesurau Cymwys hynny;

(g) Cael unrhyw ganiatâd cynllunio neu unrhyw ganiatâd neu drwydded arall sydd eu hangen a chynnal a chydymffurfio â'r holl drwyddedau, caniatâd a chyfreithiau angenrheidiol;

(h) os gofynnir am hynny, darparu tystiolaeth bod Cyfanswm y Benthyciad wedi'i ddefnyddio at y diben a nodir yn y cytundeb hwn;

(i) cydnabod y gefnogaeth a roddir gennym ym mhob math o gyhoeddusrwydd sy'n ymwneud â'r Benthyciad Swm Sefydlog. Mae cyhoeddusrwydd at y dibenion hyn yn cynnwys cyhoeddiadau, datganiadau i'r wasg, cyfweliadau â'r cyfryngau a lansiadau swyddogol, a chysylltu â ni i drafod y gofyniad cyhoeddusrwydd hwn;

(j) cydweithredu â ni neu Lywodraeth Cymru at ddibenion cyhoeddusrwydd a/neu astudiaethau achos; a

(k) darparu gwybodaeth o'r fath i ni am y Mesurau Cymwys sydd wedi'u gosod ag y bydd ei hangen arnom o bryd i'w gilydd.

2.3 Nid yw'n ofynnol i ni fonitro eich defnydd o'r Benthyciad Swm Sefydlog.

3. Datganiadau a Gwarantau

Wrth benderfynu rhoi Cyfanswm y Benthyciad i chi, mae DBW wedi dibynnu ar fod rhai pethau’n wir, gan gynnwys y pethau yr ydych yn eu cadarnhau yn y Paragraff 3 hwn. Rydych yn cadarnhau, ac am gyhyd ag y bydd y benthyciad yn ddyledus:

(a) eich Eiddo yw eich prif breswylfa ac ni chaiff ei ddefnyddio fel cartref gwyliau nac ail gartref;

(b) bod yr holl wybodaeth ffeithiol a ddarparwyd gennych chi i ni mewn cysylltiad â’r Cynllun yn wir ar ei ddyddiad ac nid oedd yn gadael unrhyw beth pwysig allan;

(c) nad oes unrhyw newid wedi digwydd ers i chi ddarparu gwybodaeth i ni sy'n gwneud y wybodaeth honno'n anwir neu'n gamarweiniol a bod yr holl ddatganiadau cred a barn a roddwyd gennych chi i ni wedi'u gwneud yn ddidwyll ar ôl ymholi'n ofalus ac yn parhau'n ddilys; a

(d) nid oes unrhyw ddigwyddiad a gynhwysir ym mharagraff 4 isod wedi digwydd nad yw wedi'i gywiro neu yr ydym wedi cydsynio iddo.

4. Diffyg talu

4.1 Os bydd digwyddiad a ddisgrifir yn y paragraff hwn yn digwydd (a elwir yn “Ddigwyddiad Diffyg Talu”) ac nad yw wedi’i hepgor gennym yn ysgrifenedig, bydd gennym yr hawl ar ôl i’r hysbysiad priodol ysgrifenedig i chi ddod i ben i fynnu ad-daliad (ar unwaith neu fel arall fel y gallem ofyn amdano) o’r Benthyciad Swm Sefydlog ynghyd â symiau eraill sy’n daladwy o dan y cytundeb hwn.

4.2 Mae'r canlynol yn Ddigwyddiadau Diffyg Talu:-

(a) os byddwch yn methu â thalu pan fydd yn ddyledus unrhyw swm sy’n daladwy gennych o dan y cytundeb hwn;

(b) os byddwch yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth arall yn y cytundeb hwn;

(c) os daw i'r amlwg bod unrhyw gadarnhad ym mharagraff 3 uchod yn anwir neu'n anghywir mewn unrhyw ffordd bwysig;

(d) rydych yn mynd yn fethdalwr neu’n stopio neu’n atal talu eich dyledion neu os ydych (neu y tybir yr ydych) yn methu â thalu’ch dyledion wrth iddynt ddod yn ddyledus neu'n cynnig neu'n ymrwymo i unrhyw gytundeb neu gyfamod er budd eich credydwyr yn gyffredinol; (f) caiff gorchymyn methdaliad ei wneud yn eich erbyn;

(g) rydych yn marw neu’n dod yn analluog i reoli a gweinyddu eich eiddo a’ch materion personol oherwydd diffyg galluedd (o fewn ystyr Deddf Galluedd Meddyliol 2005);

(h) bod unrhyw ran o’r cytundeb hwn, neu unrhyw ddogfen gysylltiedig yn dod (neu yr honnir ei bod) yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy mewn unrhyw fodd; neu

(i) unrhyw amgylchiad neu ddigwyddiad arall a all, yn ein barn resymol ni, gael effaith andwyol pwysig arnoch chi neu ar eich gallu i gyflawni eich rhwymedigaethau o dan y cytundeb hwn, a/neu unrhyw ddogfen gysylltiedig.

5. Methu â gwneud eich Ad-daliadau Misol

5.1 Os byddwch yn methu â gwneud eich Ad-daliadau Misol ar amser, mae’n Ddigwyddiad o Ddiffyg Talu yn unol â pharagraff 4 uchod a bydd llog yn ddyledus ar unrhyw daliad a fethwyd ar gyfradd o 2.5% uwchlaw Cyfradd Sylfaenol Banc Lloegr yn ddyddiol o’r dyddiad y methir gwneud yn taliad. Os bydd hynny'n digwydd, mae'n bosibl y byddwn yn ailgyfrif eich taliadau, yn ymestyn Tymor eich Cytundeb Benthyciad a/neu'n parhau i gasglu'r Ad-daliadau Misol nes bod eich benthyciad wedi'i ad-dalu'n llawn. Mae hefyd yn golygu y gall un o’r canlynol fod yn berthnasol:

(a) gallem hysbysu asiantaethau gwirio credyd am eich achos o dorri amodau;

(b) gallech ei chael yn anodd cael credyd yn y dyfodol;

(c) gallem ddod â’r cytundeb hwn i ben a gofyn i chi ad-dalu’r balans llawn sy’n weddill, gan gynnwys unrhyw log sydd wedi cronni. Byddwn yn rhoi rhybudd ymlaen llaw i chi cyn i ni wneud hyn a chyfle rhesymol i chi ddiweddaru eich cyfrif; a/neu

(d) gallem ddwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn a allai arwain at warantu’r ddyled yn erbyn unrhyw eiddo yr ydych yn berchen arno a/neu ddeiseb ar gyfer eich methdaliad.

6. Aseinio ac Awdurdod i Ddatgelu Gwybodaeth

6.1 Ni chewch aseinio na throsglwyddo unrhyw un o'ch hawliau neu rwymedigaethau o dan y cytundeb hwn, nac unrhyw ddogfen gysylltiedig.

6.2 Rydych yn cadarnhau y gallwn aseinio ein holl hawliau neu unrhyw ran ohonynt o dan y cytundeb hwn, neu unrhyw ddogfen gysylltiedig a gallwn ddatgelu ar sail gyfrinachol i unrhyw aseinai neu drosglwyddai gwirioneddol neu bosibl unrhyw hawliau o’r fath, unrhyw wybodaeth amdanoch yr ydym yn ei hystyried yn briodol.

6.3 Rydych yn cadarnhau y gallwn, tra bo Cyfanswm Swm y Benthyciad yn ddyledus, fynd at unrhyw berson i gael unrhyw wybodaeth am eich Eiddo a'r asedau gosodedig o bryd i'w gilydd. Byddwch yn awdurdodi unrhyw berson o'r fath i ddatgelu i ni unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnom.

6.4 Rydych yn cadarnhau y gallwn ddatgelu i Lywodraeth Cymru ac unrhyw is-gwmnïau o’r sefydliad hwnnw unrhyw wybodaeth a gawsom o ganlyniad i ddarparu’r Benthyciad Swm Sefydlog.

7. Cyffredinol

7.1 Os byddwn yn dewis peidio ag arfer unrhyw hawl yn eich erbyn ar unwaith, gallwn wneud hynny’n ddiweddarach o hyd, oni bai ein bod wedi cytuno’n benodol yn ysgrifenedig na fyddwn yn gwneud hynny.

7.2 Os yw unrhyw ran o'r cytundeb hwn nad yw'n ddilys neu'n orfodadwy, ni fydd hynny'n effeithio ar unrhyw ran arall.

7.3 Mae’n bosibl y byddwn yn anfon unrhyw hysbysiad o dan y cytundeb hwn atoch i’ch cyfeiriad a nodir ar dudalen 1 o’r cytundeb hwn neu’r cyfeiriad a oedd yn hysbys i ni ddiwethaf. Rhaid i chi ddweud wrthym cyn gynted â phosibl os byddwch yn newid eich cyfeiriad. Mae pob hysbysiad neu gyfathrebiad arall i ni o dan y cytundeb hwn i’w roi i ni drwy’r modd a nodir yn yr adran Setliad Cynnar ar dudalen 2 o’r cytundeb hwn neu i gyfeiriad arall y byddwn yn ei hysbysu i chi o bryd i’w gilydd.

7.4 Os byddwn yn penderfynu llacio amodau’r cytundeb hwn dros dro,

ni fyddwn yn cael ein rhwystro rhag gorfodi ein hawliau yn eich erbyn

yn llawn ar unrhyw adeg.

7.5 Bydd y cytundeb hwn yn cael ei lywodraethu a'i ddehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.

8. Dehongliad

8.1 Mae unrhyw gyfeiriad yn y cytundeb hwn at:

(a) chi at y Benthyciwr(wyr) a lle mae mwy nag un benthyciwr, gallem ryddhau unrhyw un neu fwy ohonoch o’ch rhwymedigaethau o dan y cytundeb hwn neu wneud unrhyw drefniant arall gyda chi. Ni fydd rhyddhau o'r fath neu drefniadau eraill yn effeithio ar rwymedigaethau'r benthycwyr sy'n weddill. Bydd pob un ohonoch yn gyfrifol ar wahân am gyflawni eich rhwymedigaethau eich hun a rhai eich cyd-lofnodwyr o dan y cytundeb hwn;

(b) ni yw at DBW Investments (11) Limited;

(c) dogfennau cysylltiedig yw unrhyw ddogfen yr ymrwymir iddi gan unrhyw berson o dan neu yn unol â darpariaethau’r cytundeb hwn; a

(d) bydd unrhyw ddeddfwriaeth yn cynnwys yr holl ddiwygiadau, amnewidiadau ac ailddeddfiadau sydd mewn grym o bryd i'w gilydd.

8.2 Dehonglir unrhyw gyfeiriad at y cytundeb hwn neu unrhyw ddogfen arall y cyfeirir ati ynddo fel cyfeiriadau at y dogfennau hynny sydd mewn grym o bryd i’w gilydd ac fel y’i diwygir, ategir, ailddatganir, amnewidir neu a newyddir o bryd i’w gilydd.

 

 

Telerau ac Amodau

Diffiniadau

Mae gan y geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Telerau ac Amodau hyn yr ystyron a roddir iddynt yn Atodiad A y Telerau ac Amodau hyn.

Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Telerau ac Amodau hyn atoch ‘chi’ neu ‘eich’ yn golygu perchennog/perchnogion yr eiddo (a chwsmer(iaid) gosodwr penodol) sy’n dymuno elwa o grant a delir o dan y Cynllun. 

Cyflwyniad

1. Cynllun benthyciadau yw Cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru; caiff ei ategu gan gyllid grant am Fesurau Cymwys penodol y darperir cymorth drwyddo ar gyfer gosod, mewn eiddo domestig yng Nghymru, fathau penodol o fesurau gwella effeithlonrwydd ynni a systemau gwresogi carbon isel (y rhain yw’r ‘Mesurau Cymwys’ a ddisgrifir yn Atodiad B y Telerau ac Amodau hyn). 

2. Caiff y Grant Gosod ei gynnig i berchnogion eiddo cymwys i dalu tuag at gost gosod y Mesurau Cymwys yn yr Eiddo fel y’u diffinnir yn y Llythyr grant gosod.  Pan gaiff Grant Gosod ei hawlio’n llwyddiannus yn unol â gofynion y Telerau ac Amodau hyn, bydd perchennog yr eiddo yn cael y Swm Grant perthnasol drwy fod taliad yn cael eu gwneud iddynt, ar ôl gosod yn llwyddiannus y Mesur Cymwys a gynhwysir yn y Llythyr grant gosod hwnnw.   

3. Rhaid i geisiadau am daliadau o dan y Llythyr grant gosod gael eu cyflwyno gyda'r holl ddatganiadau a'r wybodaeth ategol ofynnol cyn i Gyfnod Dilysrwydd y Grant ddod i ben fel y disgrifir yn Amodau 27 a 28 isod.

4. Mae’r Telerau ac Amodau hyn yn berthnasol i’r rheini sy’n derbyn Llythyr grant gosod. 

5. Ariennir y Cynllun gan Weinidogion Cymru, a Banc Datblygu Cymru sy’n ei weinyddu ar eu rhan.   Mae hyn yn golygu, fel y disgrifir yn fanylach isod, fod yn rhaid i berchnogion eiddo cymwys wneud cais i Fanc Datblygu Cymru am Lythyr grant gosod gyda chymorth Cydlynydd Ôl-osod. 

 

Newidiadau i’r Cynllun ac i’r Telerau ac Amodau hyn

6. Mae dyfarnu’r Llythyr Cynnig Grant Gosod yn ddewisol. Nid oes dim sicrwydd y bydd unrhyw symiau penodol o Grant Gosod ar gael dan y Cynllun am unrhyw gyfnod penodol o amser. Gallai unrhyw un o’r pethau canlynol ddigwydd ar unrhyw adeg:-

a. gall y Cynllun gael ei atal neu ei gau, sy’n golygu na fydd rhagor o Lythyrau grant gosod yn cael eu cyhoeddi, naill ai dros dro neu’n barhaol, ond heb effeithio ar eich hawl i hawlio o dan unrhyw Lythyr grant gosod a gyhoeddwyd cyn i’r cynllun gael ei atal neu ei gau fel hyn, ac os nad yw wedi cael ei ganslo fel arall yn unol â’r Telerau ac Amodau hyn. Gallai hyn hefyd olygu bod unrhyw gais rydych chi eisoes wedi’i wneud i Fanc Datblygu Cymru bryd hynny wedyn yn cael ei roi o’r neilltu neu ei wrthod;

b. ar gyfer ceisiadau am Lythyrau grant gosod, gellir newid y symiau grant sydd ar gael ar gyfer Mesurau Cymwys penodol ar unrhyw adeg cyn cyhoeddi’r Llythyr grant gosod;

c. ar gyfer ceisiadau am Lythyrau grant gosod newydd, gallai’r gofynion cymhwystra sy’n weithredol dan y Cynllun gael eu newid ar unrhyw adeg cyn cyhoeddi’r Llythyr grant gosod. Gallai hyn gynnwys newidiadau i’r mathau o fesurau sy’n cyfrif fel Mesurau Cymwys, y gofynion cymhwystra sy’n berthnasol i berchnogion eiddo sy’n dymuno gwneud cais am Lythyr grant gosod a'r gofynion cymhwystra sy’n berthnasol i osodwyr sy’n cymryd rhan yn y Cynllun;

d. gellir gosod cyfyngiadau ar nifer y Llythyrau grant gosod y gellir ymgeisio amdanynt mewn perthynas â’r Mesurau Cymwys sydd i’w gosod gan unrhyw un gosodwr penodol. Os cyrhaeddir terfyn o’r math hwn ar gyfer unrhyw osodwr yr oeddech yn bwriadu ei ddefnyddio, gallai hyn olygu bod eich cais am Lythyr grant gosod yn cael ei wrthod.

7. Yng ngoleuni’r materion a ddisgrifir yn Amod 6 uchod, dylech sicrhau nad ydych yn ymrwymo i fwrw ymlaen â’r gwaith o osod unrhyw Fesur Cymwys nes eich bod wedi llwyddo i gael Llythyr grant gosod sy’n cynnwys y Mesur Cymwys hwnnw a’ch bod wedi cadarnhau bod swm y Grant Gosod a gynigir dan y Llythyr grant gosod hwnnw yn gydnaws â'ch disgwyliadau.

8. Drwy lofnodi’r Llythyr grant gosod, byddwch yn cadarnhau eich bod yn cytuno â’r Telerau ac Amodau hyn sy’n berthnasol i’r trefniadau rhyngoch chi, Gweinidogion Cymru a Banc Datblygu Cymru o safbwynt y Llythyr grant gosod yr ydych yn gwneud cais amdano a’ch cyfranogiad yn y Cynllun. Cyn cyhoeddi Llythyr grant gosod, gall Banc Datblygu Cymru wneud newidiadau i’r fersiwn o’r Telerau ac Amodau y gwnaethoch gytuno iddynt yn wreiddiol wrth wneud eich cais. Pan fydd Banc Datblygu Cymru yn gwneud hynny, bydd yn rhoi gwybod ichi am y newidiadau hyn.

9. Os, ar yr adeg y gwneir y newidiadau, nad ydych wedi cael y Llythyr grant gosod y gwnaethoch gais amdano eto, bydd Banc Datblygu Cymru yn rhoi’r dewis i chi barhau â’ch cais ar sail y Telerau ac Amodau newydd, neu ei ganslo. Bydd y Telerau ac Amodau yn cael eu hamrywio neu bydd eich cais yn cael ei ganslo fel sy’n briodol yn unol â’r dewis a wnewch chi.

Gofynion cymhwystra 

10. Ni fydd Llythyr grant gosod ddim ond yn ddilys, ac ni ellir ond ei ddefnyddio i hawlio Grant Gosod, os yw'r holl ofynion cymhwystra canlynol yn cael eu bodloni:-

a. rhaid ichi roi cyfarwyddyd i’r Cydlynydd ôl-osod a enwir yn eich Llythyr grant gosod, a fydd yn darparu cymorth o ddechrau’r Cynllun i’w ddiwedd ac y mae’n rhaid iddo gael ei gofrestru dan Gynllun TrustMark Llywodraeth y DU (“TrustMark”);   

b. rhaid i chi fod yn berchen ar yr Eiddo a’i feddiannu a rhaid i’r Eiddo fod wedi’i leoli yng Nghymru ar yr adeg pan gyflwynir y Llythyr grant gosod ichi; 

c. rhaid i’ch ffurflen gais gynnwys y Ffurflen Gwybodaeth am y Prosiect a rhaid iddi gyd-fynd ag argymhellion y Cydlynydd Ôl-osod fel y nodir yn yr Adroddiadau Argymhellion.   Bydd yr adroddiadau hyn yn nodi’r mesur(au) gwella effeithlonrwydd ynni a/neu’r system wresogi carbon isel a fydd yn addas i’w gosod yn eich Eiddo (sef rhai, neu’r cyfan, o’r “Mesurau Cymwys” fel y disgrifir yn Atodiad B y Telerau ac Amodau; 

d. rhaid i chi fod wedi llwyddo i gael benthyciad swm penodol di-warant drwy Gynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru sydd i’w ddefnyddio i dalu i osodwr(wyr) am osod Mesurau Cymwys yn eich Eiddo; 

e. rhaid i chi a’r Eiddo lle gosodir y Mesurau Cymwys a gynhwysir yn y Llythyr grant gosod fodloni’r gofynion cymhwystra a ddisgrifir yn Atodiad C y Telerau ac Amodau hyn. Oni bai bod Atodiad C yn dweud fel arall, rhaid bodloni’r gofynion cymhwystra hyn ar yr adeg pan gyflwynir y Llythyr grant gosod i chi;

f. rhaid i’r gosodwr(wyr) rydych chi’n ymrwymo i gontract gyda nhw i gyflenwi a gosod y Mesurau Cymwys a gynhwysir yn y Llythyr grant gosod hwn fod yn Gofrestredig a rhaid iddynt gynnal eu Cofrestriad nes bo’r gwaith gosod wedi’i gwblhau;

g. rhaid i’r gwaith ar osod y Mesur(au) Cymwys a gynhwysir yn y Llythyr grant gosod beidio â dechrau tan ar ôl i’r Llythyr grant gosod gael ei gyhoeddi;

h. rhaid i’r Mesur(au) Cymwys a osodir yn eich Eiddo fod yn fesur neu’n system newydd sbon, a ddim yn ail-law. Ni ellir defnyddio Grantiau Gosod o dan y Cynllun i helpu i drwsio na newid rhannau o fesur neu system sy’n bodoli eisoes; ac

i. rhaid i chi a’ch gosodwr(wyr) gydymffurfio â’r cyfyngiadau a ddisgrifir yn Amod 11 ynghylch cael mathau eraill o gymorth ariannol mewn perthynas â chost cyflenwi a gosod y Mesurau Cymwys.

11. Ni fydd cymorth grant o dan y Cynllun yn daladwy am unrhyw Fesur Cymwys y derbyniwyd cymorth ariannol ar ei gyfer eisoes, neu i’r dyfodol, dan unrhyw gynllun grant cyhoeddus (gan gynnwys cynlluniau’r llywodraeth ganol ac awdurdodau lleol) heblaw am gytundeb benthyciad swm penodol fel y disgrifir yn Amod 10 (d). Rhaid ichi beidio â gwneud cais am Lythyr grant gosod os ydych chi neu unrhyw unigolyn arall wedi derbyn cymorth ariannol o’r fath mewn perthynas â’r Mesur Cymwys. Rhaid ichi hefyd beidio â derbyn na gwneud cais am unrhyw gymorth ariannol fel hwn eich hun mewn perthynas ag unrhyw Fesur Cymwys a gynhwysir mewn Llythyr grant gosod.

12. Pan fydd Llythyr grant gosod yn cael ei gyhoeddi, y terfyn uchaf ar swm y Grant Gosod a fydd yn cael ei gynnig ynddo fydd y swm lleiaf o’r uchafswm grant cymwys fel y nodir yn y Tablau Mesurau Cymwys (wedi’i gyfrifo yn erbyn Costau Cymwys fel y dangosir gan ddyfynbris(iau) priodol a ddarperir gan y gosodwr(wyr), neu swm sydd gyfwerth â'r cyllid benthyciad a gynigir gan y Cynllun Cartrefi Gwyrdd i gynorthwyo â'r gwaith i osod y Mesur(au) Cymwys. 

Cais am Lythyr grant gosod a’i gyhoeddi

13. Er mwyn gwneud cais am Lythyr grant gosod ar gyfer Mesur Cymwys, rhaid i chi ddilyn proses y Cynllun ar gyfer gwneud hyn. Drwy wneud cais o’r math hwn, byddwch yn cadarnhau’r canlynol:-

a. eich bod chi a’r Eiddo lle gosodir y Mesur Cymwys yn bodloni’r gofynion cymhwystra a ddisgrifir yn Atodiad C y Telerau ac Amodau hyn;

b. rhaid i chi fod wedi llwyddo i gael benthyciad swm penodol di-warant drwy’r Cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru sydd i’w ddefnyddio ar gyfer gosod Mesurau Cymwys yn eich Eiddo; 

c. nid yw'r gwaith i osod y Mesur Cymwys eisoes wedi dechrau;

d. mewn perthynas â’r Mesur Cymwys, nid ydych wedi cael dim o’r cymorth ariannol y cyfeirir ato yn Amod 11 uchod; ac

e. rydych wedi cael pob cydsyniad a chaniatâd angenrheidiol gan unrhyw unigolyn sydd ag unrhyw fuddiant perthnasol yn yr Eiddo a gan unrhyw awdurdodau perthnasol.

14. Fel rhan o’ch cais am Lythyr grant gosod, bydd angen i chi (neu drwy eich Cydlynydd ôl-osod) roi i Fanc Datblygu Cymru gopi o’r dyfynbris a ddarparwyd gan y gosodwr(wyr) yr ydych yn bwriadu eu defnyddio i gyflenwi a gosod y Mesur Cymwys yn eich Eiddo. Mae'r canlynol yn ofynion penodol sy’n berthnasol i’r perwyl hwn:-

a. rhaid i’r gosodwr(wyr) yr ydych yn bwriadu eu defnyddio fod yn Gofrestredig;

b. ni chaiff y gosodwr(wyr) rydych chi’n bwriadu eu defnyddio fod yn chi nac yn aelod o’ch cartref na’ch teulu agos; ac

c. rhaid i’r dyfynbris fod ar y ffurf sy’n ofynnol gan y Cynllun. 

15. Os ydych yn dymuno gosod mwy nag un Mesur Cymwys yn eich Eiddo gyda budd Grant Gosod dan y Cynllun:-

a. gall eich cais gynnwys pob un o’r gwahanol Fesurau Cymwys a bydd eich Llythyr grant gosod yn cynnwys pob dyfarniad ar gyfer pob Mesur Cymwys; 

b. ni fydd angen ichi ddefnyddio’r un gosodwr ar gyfer pob un o’r Mesurau Cymwys; ac

c. os ydych chi’n defnyddio’r un gosodwr, ni fydd angen ichi ymrwymo i gontractau gwahanol ar gyfer pob un o’r Mesurau Cymwys, ond bydd angen i’r gosodwr roi dyfynbrisiau ar wahân ar gyfer pob Mesur Cymwys.

16. Rhaid i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i Fanc Datblygu Cymru mewn cysylltiad â’ch cais am Lythyr grant gosod, ac mewn ymateb i unrhyw ymholiadau rhesymol neu geisiadau eraill am wybodaeth y gallai Banc Datblygu Cymru ofyn i chi ymateb iddynt o bryd i’w gilydd, yn wir, yn gywir ac yn gyflawn ar yr adeg pan fyddwch yn ei chyflwyno.

17. Ar ôl i Fanc Datblygu Cymru gael cais gennych chi am Lythyr grant gosod, bydd yn gwneud archwiliadau penodol ac, ar ôl cael unrhyw eglurhad angenrheidiol gennych chi, bydd yn cadarnhau a yw eich cais yn gymwys. Os yw eich cais yn gymwys, bydd Banc Datblygu Cymru yn cyflwyno Llythyr grant gosod ichi. 

18. Rhaid i chi wneud cais am Lythyr grant gosod, a’i dderbyn, cyn i unrhyw waith i osod y Mesur Cymwys a gynhwysir yn y Llythyr grant gosod ddechrau.

19. Ar unrhyw adeg ar ôl i chi wneud eich cais am Lythyr grant gosod, gall Banc Datblygu Cymru neu Weinidogion Cymru archwilio’r wybodaeth a gyflwynoch, neu ofyn am ragor o wybodaeth gennych chi, os yw Banc Datblygu Cymru neu Weinidogion Cymru (fel y bo’n briodol) yn ystyried yn rhesymol fod hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau y cydymffurfir â gofynion perthnasol y Cynllun. Rhaid ichi gydweithredu ag unrhyw archwiliad fel hwn, a chyflwyno unrhyw wybodaeth bellach y gofynnir amdani, o fewn unrhyw amserlen a bennir yn rhesymol gan Fanc Datblygu Cymru neu Weinidogion Cymru (fel y bo’n berthnasol).

20. Mae’r Llythyr Grant Gosod:

a. yn ddilys dim ond am y cyfnod penodol a ddisgrifir yn y Llythyr grant gosod. Mae hyn yn golygu, ac eithrio pan roddir estyniad o dan yr amgylchiadau eithriadol a ddisgrifir yn amod 34 isod, y bydd angen i’r Llythyr grant gosod fod wedi cael ei “ddefnyddio” cyn i’w gyfnod dilysrwydd ddod i ben;

b. i gael ei ddefnyddio gennych chi ac er eich budd chi yn unig, sy’n golygu na allwch ei drosglwyddo mewn unrhyw ffordd i neb arall;

c. yn ddilys dim ond mewn perthynas â’r Mesur(au) Cymwys penodol sydd wedi’u gosod yn yr Eiddo penodol a ddisgrifir ynddo (yn unol â’r wybodaeth a gymerwyd o’ch cais am y Llythyr grant gosod);

d. yn ddilys dim ond os mai’r gosodwr(wyr) rydych chi’n mynd i gontract gyda nhw i gyflenwi a gosod y Mesur(au) Cymwys yw'r gosodwr(wyr) penodol a ddisgrifir yn y Wybodaeth Gryno am y Prosiect (yn unol â’r wybodaeth a gymerwyd o’ch cais am y Grant Gosod). Gweler Amod 32 isod am y telerau a fydd yn berthnasol os hoffech newid y gosodwr; ac

e. yn peidio â bod yn ddilys pan fydd yn cael ei ganslo gan Weinidogion Cymru neu ar ôl i’r taliad gael ei wneud i chi ar ôl ichi ddefnyddio’r Llythyr grant gosod.

21. Nid yw cyhoeddi Llythyr grant gosod yn golygu bod Banc Datblygu Cymru wedi cymeradwyo na dilysu mewn unrhyw ffordd y wybodaeth a ddarparwyd fel rhan o’ch cais. Fel y nodir yn Amod 13 ac 16 uchod, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir ac yn gyflawn a’ch bod yn gallu bodloni’r gofynion cymhwystra perthnasol. Hyd yn oed os ydych chi wedi cael Llythyr grant gosod, nid oes dim sicrwydd y bydd y broses o “ddefnyddio” eich Llythyr grant gosod (sy’n golygu hawlio Grant Gosod) yn llwyddiannus. Telir y Grant Gosod dim ond os bodlonir gofynion Amodau 22 a 25 isod.

Gosod Mesurau Cymwys

22. Un o ofynion allweddol y Cynllun yw bod y gosodwr(wyr) rydych chi’n eu defnyddio ac yn ymrwymo i gontract gyda nhw i gyflenwi a gosod y Mesur Cymwys a gynhwysir yn y Llythyr grant gosod yn Gofrestredig. Ymysg pethau eraill, bydd hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i’r gosodwr gydymffurfio â’r ardystiad PAS perthnasol, yn ogystal â safonau ardystio perthnasol eraill pan fyddant yn gwneud gwaith gosod i chi.

23. Os oes gennych unrhyw gwynion am y gwaith y mae gosodwr yn ei wneud, dylech hefyd allu cysylltu â’r sefydliad perthnasol y mae'r gosodwr yn aelod ohono i gael cymorth i ddelio â’r cwynion hyn.

24. Chi sy’n gyfrifol am dalu’r costau gosod, gan gynnwys unrhyw flaendal neu gostau rheolaidd ni waeth faint o grant a allai fod ar gael i chi o dan y Llythyr grant gosod. 

25. Ar ôl cwblhau’r gwaith o osod y Mesur(au) Cymwys a gynhwysir yn y Llythyr grant gosod a hynny i safon foddhaol, ddim hwyrach na 7 (saith) diwrnod cyn i gyfnod dilysrwydd y Llythyr grant gosod ddod i ben, rhaid i chi gael y canlynol gan eich gosodwr: 

a. anfoneb wedi’i chyfeirio atoch mewn perthynas â'r Costau Cymwys am gyflenwi a gosod y Mesur(au) Cymwys;

b. ar gyfer mathau penodol o fesurau gwella effeithlonrwydd ynni, hawliad cydymffurfio priodol ac unrhyw becyn trosglwyddo perthnasol, fel sy’n ofynnol yn unol â safonau ardystio perthnasol “PAS”;

c. os mai system wresogi carbon isel yw'r Mesur Cymwys, y dystysgrif “MCS” (Cynllun Tystysgrifau Microgynhyrchu) berthnasol, ynghyd ag unrhyw gyfarwyddiadau perthnasol gan y gweithgynhyrchwr ar gyfer rhedeg a chynnal y system honno;

d. os mai system wresogi carbon isel tanwydd biomas yw'r Mesur Cymwys, gwybodaeth am y “Rhestr Cyflenwyr Biomas”;

e. copi o’r warant y mae’n rhaid i’r gosodwr ei darparu dan unrhyw reolau perthnasol; ac

f. unrhyw wybodaeth arall y gall Banc Datblygu Cymru ofyn yn rhesymol amdani o bryd i’w gilydd. 

Defnyddio’r Llythyr Cynnig Grant

26. Yn y Telerau ac Amodau hyn, mae “defnyddio” Llythyr grant gosod yn golygu cymryd camau penodol, fel y disgrifir yn Amodau 27 a 28 isod, i hawlio’r Grant Gosod a gynhwysir yn y Llythyr grant gosod hwn cyn i Gyfnod Dilysrwydd Grant y Llythyr grant gosod ddod i ben. 

27. Bydd modd defnyddio Llythyr grant gosod dilys ar ôl i’r gwaith o osod y Mesur(au) Cymwys a gynhwysir yn y Llythyr gael ei gwblhau’n foddhaol ac mae'r gosodwr wedi cydymffurfio’n llawn â’i rwymedigaethau o safbwynt y Mesur Cymwys hwnnw cyn i Gyfnod Dilysrwydd Grant y Llythyr grant gosod ddod i ben. 

28. Mae'r camau y bydd angen i chi a/neu eich Cydlynydd Ôl-osod ar eich rhan eu cymryd, os ydych eisiau defnyddio eich Llythyr grant gosod (pan mae modd ei ddefnyddio), yw gwneud y canlynol, yn unol â phroses Banc Datblygu Cymru ar gyfer defnyddio eich Llythyr grant gosod a chyn y dyddiad y daw Cyfnod Dilysrwydd Grant y Llythyr grant gosod i ben:-

a. cadarnhau wrth Fanc Datblygu Cymru fod y gwaith i osod y Mesur(au) Cymwys perthnasol wedi’i gwblhau’n foddhaol gan y gosodwr(wyr) a enwir yn y Wybodaeth Gryno am y Prosiect;

b. cadarnhau wrth Fanc Datblygu Cymru fod y cofnodion angenrheidiol wedi cael eu cyflwyno i TrustMark; 

c. cadarnhau wrth Fanc Datblygu Cymru eich bod wedi cael yr holl ddogfennau y cyfeirir atynt yn Amod 25 uchod gan eich gosodwr(wyr) mewn perthynas â’r Mesur Cymwys;

d. cadarnhau wrth Fanc Datblygu Cymru a chyflwyno unrhyw dystiolaeth y gofynna Banc Datblygu Cymru amdani’n rhesymol fod unrhyw ofynion cymhwystra perthnasol eraill o dan y Cynllun (fel y cyfeirir atynt yn y Telerau ac Amodau hyn) wedi cael eu bodloni; ac

e. darparu i Fanc Datblygu Cymru gopi neu lun wedi’i ddyddio o’r anfoneb(au) perthnasol a gyflwynodd y gosodwr(wyr). 

29. Pan fyddwch wedi cwblhau’r broses o ddefnyddio’r Llythyr grant gosod ac:-

a. mae eich gosodwr yn parhau i fod yn gofrestredig ar gyfer y math perthnasol o Fesur Cymwys; a

b. mae Banc Datblygu Cymru yn weddol fodlon bod yr holl ofynion angenrheidiol eraill sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn wedi cael eu bodloni o safbwynt gosod y Mesur Cymwys a gynhwysir yn y Llythyr grant gosod; ac

c. mae Banc Datblygu Cymru wedi derbyn arian gan Weinidogion Cymru er mwyn gwneud y taliad,

bydd Banc Datblygu Cymru yn talu swm perthnasol y Grant Gosod i chi. 

Rhwymedigaethau ar ôl gosod

30. Ar ôl gosod y Mesurau Cymwys, rhaid ichi sicrhau, oni bai bod rheswm da dros wneud hynny:-

a. nad yw unrhyw Fesur Cymwys yn cael ei dynnu o’r man lle y’i gosodwyd; 

b. nad yw unrhyw Fesur Cymwys yn cael ei addasu mewn ffordd a allai gael effaith andwyol ar y ffordd y bwriedir iddo berfformio; ac

c. eich bod yn defnyddio’r Mesurau Cymwys yn union fel y cyfarwyddiadau a roddir gan osodwr a/neu wneuthurwr y Mesur Cymwys. 

Newidiadau yn eich amgylchiadau

31. Rhaid ichi sicrhau bod y wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i Fanc Datblygu Cymru yn gywir ac yn gyfredol. Os ceir unrhyw newid mewn unrhyw wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i Fanc Datblygu Cymru o’r blaen, rhaid ichi ddweud wrthynt am y newid hwn cyn pen 7 (saith) diwrnod ar ôl ichi ddod yn ymwybodol ohono. Fel sy’n cael ei egluro yn Amod 35 isod, gallai newidiadau i unrhyw wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi arwain at ganslo’r Llythyr.

32. Os ydych chi’n dymuno newid y gosodwr neu newid y Mesur Cymwys cyn i’r gwaith gosod ddechrau ar Fesur Cymwys penodol a gynhwysir yn y Llythyr grant gosod, rhaid i chi gysylltu â Banc Datblygu Cymru a dweud wrtho am y newid arfaethedig. Yna, bydd Banc Datblygu Cymru yn asesu, drwy ail-ddilysu rhannau perthnasol o’r broses ymgeisio wreiddiol am y Llythyr grant gosod. Nid oes sicrwydd y bydd cymeradwyaeth yn cael ei rhoi, yn benodol, pe byddai’r newid yn arwain at fod swm ychwanegol o Grant Gosod yn daladwy o dan y Llythyr grant gosod. Fodd bynnag, os rhoddir cymeradwyaeth, bydd Banc Datblygu Cymru naill ai’n canslo’r Llythyr grant gosod gwreiddiol ac yn cyflwyno ichi Lythyr grant gosod newydd ar sail eich cais yn dilyn y newid, neu’n cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i chi yn cadarnhau manylion y gosodwr a/neu’r Mesur Cymwys newydd. Bydd unrhyw rybudd yn parhau i fod yn amodol ar y Telerau ac Amodau hyn.

33. Os yw'r Costau Cymwys am gyflenwi a gosod Mesur Cymwys penodol yn codi, ar ôl ichi gael Llythyr grant gosod, ond cyn i chi ddechrau’r broses o’i “ddefnyddio”, a’ch bod yn dymuno gofyn am gynnydd yn y Grant Gosod sy’n daladwy dan y Llythyr i dalu cyfran o’r Costau Cymwys ychwanegol hyn, rhaid i chi gysylltu â Banc Datblygu Cymru i wneud y cais hwn. Bydd Banc Datblygu Cymru wedyn yn asesu’r newid arfaethedig, gan ystyried materion fel y cyfiawnhad dros y cynnydd yn y Costau Cymwys, faint o gyllid sydd ar gael dan y Cynllun ar yr adeg honno a'r cyfyngiadau ar symiau’r Grant Gosod sy’n daladwy. Nid oes dim sicrwydd y caiff y newid hwn ei gymeradwyo, ond os caiff ei gymeradwyo, bydd Banc Datblygu Cymru naill ai’n canslo’r Llythyr grant gosod gwreiddiol ac yn cyflwyno ichi Lythyr grant gosod newydd ar sail eich cais yn dilyn y newid, neu’n cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i chi yn cadarnhau manylion newydd y Grant Gosod. Bydd unrhyw rybudd yn parhau i fod yn amodol ar y Telerau ac Amodau hyn.

34. Os, oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth, eich bod o’r farn na fyddwch yn gallu defnyddio’r Llythyr grant gosod cyn diwedd Cyfnod Dilysrwydd y Grant (gan gynnwys pan fo amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth resymol wedi achosi oedi wrth osod un neu ragor o’r Mesur(au) sy’n cael eu cwblhau), cewch gysylltu â Banc Datblygu Cymru a gofyn am estyniad i Gyfnod Dilysrwydd y Grant a nodir yn y Llythyr grant gosod. Nid oes sicrwydd y bydd Banc Datblygu Cymru yn cytuno i roi’r estyniad hwn ond, os gwna, bydd yn rhoi cadarnhad ichi o’r Cyfnod Dilysrwydd Grant estynedig. 

Canslo Llythyrau Cynnig Grant Gosod ac Adennill y Grant

35. Gall Gweinidogion Cymru ganslo Llythyr grant gosod a/neu ddweud wrth Fanc Datblygu Cymru am ddal yn ôl (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) y Grant Gosod a gynhwysir mewn Llythyr grant gosod os ceir sail resymol i gredu bod unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol yn berthnasol:-

a. mae Cyfnod Dilysrwydd y Grant ar gyfer y Llythyr grant gosod wedi dod i ben (heb i’r Llythyr grant gosod gael ei ddefnyddio yn unol â’r Telerau ac Amodau hyn cyn diwedd y cyfnod hwn);

b. roedd unrhyw ofynion cymhwystra perthnasol y cyfeirir atynt yn y Telerau ac Amodau hyn heb eu bodloni ar yr adeg yr oedd angen iddynt gael eu bodloni dan y Telerau ac Amodau hyn (gan gynnwys Atodiad C);

c. rydych wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw rai o'r Telerau ac Amodau hyn;

d. nid yw eich gosodwr bellach yn Gofrestredig (fel y’i diffinnir yn Atodiad A isod) at ddibenion y Cynllun a’r math perthnasol o Fesur (neu nid oedd erioed wedi’i gofrestru felly);

e. rydych chi neu eich Cydlynydd Ôl-osod neu eich gosodwr(wyr) neu unrhyw un o’i swyddogion, gweithwyr, asiantau neu is-gontractwyr sy’n gysylltiedig â nhw wedi gwneud ryw ddatganiad ffug neu wedi cyflawni ryw dwyll mewn cysylltiad â’r Llythyr grant gosod;

f. bod cydgynllwynio amhriodol wedi digwydd rhyngoch chi a'ch Cydlynydd Ôl-osod a/neu eich gosodwr(wyr) neu unrhyw rai o’i swyddogion, gweithwyr, asiantau neu is-gontractwyr; neu

g. mae angen canslo’r Llythyr grant gosod a/neu atal y Grant Gosod (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) er mwyn cydymffurfio ag unrhyw gyfreithiau perthnasol.

36. Os yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu canslo Llythyr grant gosod a/neu atal unrhyw Grant Gosod, bydd Banc Datblygu Cymru yn dweud wrthych am y bwriad hwn. Cewch wedyn gyfle i gyflwyno sylwadau i Fanc Datblygu Cymru cyn i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad terfynol.

37. Os penderfynwch, ar ôl cael Llythyr grant gosod, na fyddwch yn bwrw ymlaen â’r gwaith o osod y Mesur(au) Cymwys a gynhwysir ynddo, rhaid ichi gysylltu â Banc Datblygu Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a dweud wrtho am eich penderfyniad. Bydd gan Weinidogion Cymru wedyn yr hawl i ganslo’r Llythyr grant gosod, er mwyn rhyddhau’r arian grant a gynhwysir yn y Llythyr grant gosod ar gyfer ymgeiswyr eraill.

38. Os talwyd unrhyw ran o’r Grant Gosod, ar ôl defnyddio’r Llythyr grant gosod, a bod sail resymol i Weinidogion Cymru benderfynu’r canlynol yn ddiweddarach:-

a. eich bod wedi gwneud unrhyw ddatganiad anwir neu wedi cyflawni, neu’n fwriadol wedi bod yn gysylltiedig ag unrhyw dwyll yn ymwneud â'r taliad hwnnw;

f. bod cydgynllwynio amhriodol wedi digwydd rhyngoch chi a'ch Cydlynydd Ôl-osod a/neu eich gosodwr(wyr) neu unrhyw rai o’i swyddogion, gweithwyr, asiantau neu is-gontractwyr;

c. nid oeddech chi a/neu eich Eiddo yn bodloni, ar yr adeg pan oedd angen eu bodloni, unrhyw rai o’r gofynion cymhwystra perthnasol sy’n berthnasol i chi a/neu i’ch Eiddo; a/neu

d. rydych wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw rai o’r Telerau ac Amodau hyn a bod y methiant hwnnw’n ddigon difrifol i gyfiawnhau hawlio’r Grant Gosod yn ôl gennych chi,

Bydd gan Weinidogion Cymru yr hawl (heb effeithio ar unrhyw hawl arall sydd ganddynt) i gysylltu â chi drwy Fanc Datblygu Cymru er mwyn rhoi gwybod i chi faint o’r taliad Grant Gosod perthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried na ddylid ei dalu i’r gosodwr ac i hawlio’r swm hwnnw yn ôl gennych chi. Yn yr amgylchiadau hyn, rhaid i chi dalu’r swm dan sylw i Fanc Datblygu Cymru cyn pen 14 diwrnod ar ôl cael gwybod am y swm hwnnw a'r rheidrwydd i’w dalu. Bydd Banc Datblygu Cymru yn dal y cyfryw swm ar ymddiried i Weinidogion Cymru. Os bydd y taliad yn hwyr, bydd llog yn daladwy ar y swm sy’n ddyledus ar gyfradd o 2.5% uwchben cyfradd sylfaenol Banc Lloegr o ddiwedd y cyfnod 14 diwrnod hwn tan y dyddiad y talwch yr ad-daliad yn llawn.

Cwynion

39. Os ydych chi’n anfodlon ag unrhyw rai o’r penderfyniadau a wnaed dan y Telerau ac Amodau hyn, gan gynnwys penderfyniadau sy’n ymwneud â diwygio neu ganslo’r Llythyr grant gosod, cysylltwch â Banc Datblygu Cymru a gofyn am gopi o’r drefn gwyno. 

Cadw cofnodion

40. Rhaid i chi gadw copïau o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn Amod 25 uchod nes bydd o leiaf 6 (chwe) mlynedd wedi mynd heibio ers dyddiad defnyddio’r Llythyr grant gosod. Os gofynnir i chi wneud hynny ar unrhyw adeg, rhaid ichi ganiatáu i gynrychiolwyr awdurdodedig Banc Datblygu Cymru a/neu Weinidogion Cymru archwilio a chymryd copïau o’r dogfennau hyn.

Ymgymeriadau

41. Os gofynnir i chi, ar unrhyw adeg, rhaid ichi wneud y canlynol:

a. caniatáu i gynrychiolwyr awdurdodedig Banc Datblygu Cymru a/neu Weinidogion Cymru gael mynediad i’ch Eiddo i archwilio’r Mesur(au) Cymwys sydd wedi’u gosod yn yr Eiddo a chadarnhau y cydymffurfiwyd â’r gofynion perthnasol y cyfeirir atynt yn y Telerau ac Amodau hyn; 

b. cydweithredu â Banc Datblygu Cymru a/neu Weinidogion Cymru i ennyn cyhoeddusrwydd a/neu i gynnal astudiaethau achos; a

c. rhoi i Fanc Datblygu Cymru a/neu Weinidogion Cymru y cyfryw wybodaeth am y Mesurau Cymwys a osodwyd y gellid bod ei hangen arnynt o bryd i’w gilydd.

Cyfrifoldeb y gosodwr

42. Chi sy’n gyfrifol am ddewis gosodwr cymwys sydd ag enw da ac sy’n meddu ar y cymwysterau priodol i osod y Mesur(au) Cymwys. Mae hyn yn cynnwys unrhyw is-gontractwr y mae’r gosodwr yn dymuno’i ddefnyddio. Nid yw dyfarnu Llythyr grant gosod mewn perthynas â dyfynbris a gafwyd gan osodwr yn gyfystyr â sicrwydd gan Fanc Datblygu Cymru na Gweinidogion Cymru o addasrwydd na chymhwysedd y gosodwr (na'r is-gontractwr) i osod unrhyw Fesur(au) Cymwys nac i wneud unrhyw waith arall yn eich Eiddo.

43. Os oes gennych unrhyw gwynion am unrhyw Fesur(au) Cymwys a/neu am unrhyw beth a wnaeth (neu na wnaeth) eich gosodwr neu unrhyw un o’i swyddogion, gweithwyr, asiantau neu is-gontractwyr, dylech godi’r rhain gyda’ch gosodwr neu fel arall (fel yr esbonnir yn Amod 23 uchod) cysylltwch â'r sefydliad perthnasol lle mae eich gosodwr yn gofrestredig. 

Cyfyngiadau ein hatebolrwydd

44. Mae dyfarnu Llythyr grant gosod dan y Cynllun yn ddewisol a (heb effeithio ar eich hawl i gwyno) ni fydd gennych hawl i gael iawndal gan naill ai Fanc Datblygu Cymru na Gweinidogion Cymru am unrhyw gostau neu golledion a ddaw i’ch rhan os gwrthodir eich cais am Lythyr grant gosod nac am unrhyw oedi wrth ei brosesu.

45. Ni fydd naill ai Banc Datblygu Cymru na Gweinidogion Cymru yn atebol am unrhyw gostau neu golledion y byddwch yn eu hwynebu oherwydd:

a. unrhyw oedi cyn bo Banc Datblygu Cymru yn cyhoeddi Llythyr grant gosod;

b. unrhyw oedi neu ddiffygion yn rhediad y Mesurau Cymwys a osodwyd yn eich Eiddo gan y gosodwr neu ei is-gontractwyr;

c. unrhyw esgeulustod neu unrhyw beth arall a wnaeth (neu na wnaeth) eich gosodwr(wyr) neu unrhyw un o’u hisgontractwyr;

d. anallu neu fethiant y gosodwr neu'i is-gontractwr i dalu iawndal ichi lle bo hynny’n briodol; a/neu

e. unrhyw fethiant neu oedi gan Fanc Datblygu Cymru mewn cysylltiad â gweinyddu’r Cynllun. 

O safbwynt b uchod, mae hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r gosodwr gwblhau pob Mesur Cymwys, mewn da bryd cyn y dyddiad y daw’r Llythyr grant gosod i ben er mwyn galluogi'r Llythyr grant gosod i gael ei ddefnyddio erbyn diwedd Cyfnod Dilysrwydd y Grant i safon broffesiynol gan staff sydd â chymwysterau addas ac yn unol â’r safonau ardystio perthnasol,

ac, os na fyddant yn gwneud hynny, ni fydd Banc Datblygu Cymru na Gweinidogion Cymru yn atebol i chi am unrhyw gostau na cholledion y byddwch yn eu hwynebu o ganlyniad.

46. Ni fydd Banc Datblygu Cymru na Gweinidogion Cymru yn atebol i chi am unrhyw golledion busnes na cholledion rhent sut bynnag yr achosir hynny.

47. Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau ac Amodau hyn yn cael yr effaith o eithrio neu gyfyngu ar atebolrwydd Banc Datblygu Cymru neu Weinidogion Cymru am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan (yn ei dro) esgeulustod Banc Datblygu Cymru neu Weinidogion Cymru neu (yn ei dro) unrhyw dwyll neu gamliwio twyllodrus gan Fanc Datblygu Cymru neu Weinidogion Cymru, neu unrhyw fater arall na ellir, yn gyfreithiol, ei eithrio na’i gyfyngu.

Amrywiol

48. Diogelu Data - bydd Banc Datblygu Cymru yn casglu, prosesu a chynnal y data personol a roesoch chi yn unol â’i Bolisi Preifatrwydd, sydd i’w weld yma. Os ydych chi’n poeni bod Banc Datblygu Cymru yn storio gwybodaeth amdanoch chi sy’n anghywir, cysylltwch â Banc Datblygu Cymru gan ddefnyddio’r manylion yn ei Bolisi Preifatrwydd, a bydd yn cywiro eich manylion cyn gynted â phosibl. Rhoddwyd mesurau diogelwch ar waith i ddiogelu eich data personol rhag i bobl heb awdurdod ei weld, a rhoddwyd mesurau diogelwch ar waith i ddiogelu eich data personol pan gaiff ei drosglwyddo i drydydd partïon awdurdodedig er mwyn rhedeg y Cynllun.

Hawliau trydydd parti

49. Ac eithrio fel yr eglurir yn Amod 50 isod, ni fydd gan unigolyn nad yw’n gysylltiedig â'r Telerau ac Amodau hyn unrhyw hawliau dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 i orfodi unrhyw ddarpariaeth ynddynt.

50. Bydd gan Weinidogion Cymru yr hawl i orfodi unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau ac Amodau hyn sy’n rhoi budd penodol neu ymhlyg i Weinidogion Cymru.

51. Trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau - ni fydd gennych hawl i drosglwyddo i neb arall unrhyw rai o’ch hawliau na’ch rhwymedigaethau dan y Telerau ac Amodau hyn a/nac unrhyw Lythyr grant gosod. Bydd gan Fanc Datblygu Cymru yr hawl i drosglwyddo ei holl hawliau a’i rwymedigaethau o dan y Telerau ac Amodau hyn a/neu unrhyw Lythyr grant gosod i Weinidogion Cymru neu i unrhyw gontractwr y mae Gweinidogion Cymru neu Fanc Datblygu Cymru yn ei benodi i weinyddu’r Cynllun ac, os gofynnir i chi wneud hynny ar unrhyw adeg, rhaid i chi ymrwymo i unrhyw ddogfennau y mae Banc Datblygu Cymru neu Weinidogion Cymru yn gofyn yn rhesymol ichi ymrwymo iddynt er mwyn gweithredu’r cyfryw drosglwyddiad yn llawn.

52. Hepgoriad - os nad ydych yn cydymffurfio ag unrhyw rai o’r Telerau ac Amodau hyn, ac os nad yw Banc Datblygu Cymru yn ymateb nac yn cymryd unrhyw gamau ar unwaith ar ôl dod yn ymwybodol o’r mater, nid yw hyn yn golygu na all weithredu yn y dyfodol.

53. Dilysrwydd - os bydd llys neu awdurdod arall yn penderfynu nad yw unrhyw ran o’r Telerau ac Amodau hyn yn ddilys, ni fydd yn effeithio ar weddill y Telerau ac Amodau hyn.

54. Awdurdodaeth a'r gyfraith sy’n llywodraethu - bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr ac fe’u dehonglir yn unol â hwy, a bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan neu mewn cysylltiad â nhw yn ddarostyngedig i awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.

55. Dehongli - yn y Telerau ac Amodau hyn, ac oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, dylid darllen y geiriau “cynnwys”, “gan gynnwys” neu “yn benodol” fel pe baent yn cael eu dilyn gan y geiriau “ond heb fod yn gyfyngedig i” fel bod unrhyw bethau y cyfeirir atynt ar ôl unrhyw rai o’r geiriau hyn yn cael eu trin fel enghreifftiau yn hytrach na fel rhestr gyflawn.

 

Atodiad A - Diffiniadau

Ystyr ‘Banc Datblygu Cymru’ yw Banc Datblygu Cymru 11 Cyfyngedig a benodwyd gan Weinidogion Cymru i weinyddu’r Cynllun.

Ystyr ‘Costau Cymwys’ yw (i) cost y Mesur Cymwys; (ii) cost y gwaith o osod y Mesur Cymwys; a (iii) cost unrhyw waith cysylltiedig sy’n cael ei wneud gan osodwr sy’n ofynnol i sicrhau bod y gwaith gosod yn cydymffurfio â’r safonau ardystio perthnasol. 

Ystyr ‘Mesur Cymwys’ yw mesur gwella effeithlonrwydd ynni neu system wresogi carbon isel o’r math a nodir yn Atodiad B y Telerau ac Amodau hyn ac sy’n bodloni’r gofynion. Fel sy’n berthnasol i chi, ac oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, dylid darllen unrhyw gyfeiriad yn y Telerau ac Amodau hyn at Fesur Cymwys fel ei fod yn golygu'r Mesur Cymwys penodol a gynhwysir yn y Llythyr grant gosod y gwnaethoch gais amdano neu (fel y mae’r cyd-destun yn mynnu) a gawsoch.

Mae ‘Tablau Mesurau Cymwys’ yn golygu'r tablau sy’n rhoi manylion y Mesurau Cymwys a’u cymhwysedd cyfatebol o ran benthyciadau a grantiau, fel y disgrifir ar dudalennau 7 ac 8 o ddogfen ganllaw’r Cynllun. 

Mae ‘Cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru’ yn golygu’r cynllun “Cartrefi Gwyrdd Cymru” a sefydlodd Gweinidogion Cymru i helpu pobl i osod Mesurau Cymwys mewn eiddo preswyl yng Nghymru. 

Mae ‘Grant Gosod’ yn golygu taliad grant dan y Cynllun. Fel sy’n berthnasol i chi, ac oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, dylid darllen unrhyw gyfeiriad yn y Telerau ac Amodau at Grant Gosod fel ei fod yn golygu’r Grant Gosod penodol a gynigir i chi gan Weinidogion Cymru drwy’r Llythyr grant gosod a gyhoeddwyd ichi. 

Mae ‘Llythyr Cynnig Grant Gosod’ yn golygu’r ddogfen a rodda Banc Datblygu Cymru i berchennog eiddo cymwys drwy gynnig swm penodol o Grant Gosod ar gyfer Mesur Cymwys penodol sydd i’w osod yn Eiddo’r perchennog. Fel sy’n berthnasol i chi, ac oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, dylid darllen unrhyw gyfeiriad yn y Llythyr grant gosod fel ei fod yn golygu'r Llythyr grant gosod penodol y gwnaethoch gais amdano neu (fel y mae’r cyd-destun yn mynnu) a gawsoch.

Mae ‘PAS’ yn cyfeirio at yr achrediad (tystysgrif) perthnasol sy’n dangos bod gosodwr yn bodloni’r safon ofynnol i wneud gwaith ôl-osod sy’n sicrhau y bydd yr adeilad yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon. 

Mae ‘Ffurflen Gwybodaeth am y Prosiect’ yn golygu’r ffurflen dempled a ddarpara Banc Datblygu Cymru y gwnaethoch ei llenwi fel rhan o’ch cais, sy’n crynhoi gwybodaeth allweddol am eich prosiect; gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) fanylion y gosodwr(wyr) o’ch dewis a’r costau a ddyfynnwyd ar gyfer pob Mesur Cymwys.

Mae ‘Gwybodaeth Gryno am y Prosiect’ yn golygu dadansoddiad o’r cyllid sy’n cael ei gynnig ichi dan y Cynllun a manylion cysylltiedig y gosodwr/wyr o'ch dewis; mae copi ohono ar gael yn Atodiad D.

Mae ‘Eiddo’ yn golygu’r eiddo a ddisgrifir yn y Termau Allweddol ar ddechrau’r Llythyr grant gosod a gyflwynwyd ichi.

Mae ‘Adroddiadau Argymhellion’ yn cyfeirio ar y cyd at y Gwerthusiad o’r Opsiynau Gwella a'r Cynllun Tymor Canolig, fel y darperir gan eich Cydlynydd Ôl-osod. Ceir rhagor o wybodaeth am yr Adroddiadau Argymhellion ar dudalen 10 o ddogfen ganllaw’r Cynllun.

Mae ‘Cofrestredig’ yn cyfeirio at fod gosodwr yn gofrestredig â TrustMark a’r corff perthnasol mewn perthynas â'r math perthnasol o Fesur Cymwys y mae’n ei osod.

Mae “TrustMark” yn golygu Cynllun Ansawdd cymeradwy Llywodraeth y DU sy’n ymdrin â gwaith busnes sy’n gofrestredig â TrustMark. 

Ystyr ‘GC’ yw Gweinidogion Cymru.

 

Atodiad B - Mesurau cymwys

Rhaid gwneud cais am y Llythyr a’i ddefnyddio mewn perthynas ag o leiaf un o’r “Mesurau Cymwys” isod. Dyma'r Mesurau Cymwys y gellir eu cynnwys mewn Llythyr grant gosod:

Uwchraddio system wresogi (“sy’n barod am Bwmp Gwres”) tymheredd isel

Ychwanegu at Bwmp Gwres o’r Awyr (net y BUS)

Ychwanegu at Bwmp Gwres o’r Ddaear (net y BUS)

Gwresogyddion Stôr sy'n Cadw Lefelau Gwres Uchel

Boeler biomas

Solar Ffotofoltäig

Batri (ar gyfer Solar)

Solar Thermol

Inswleiddio Waliau Allanol

Insiwleiddio Wal Solet

Gwydrau Perfformiad Uchel (o wydrau sengl)

Inswleiddio Lloriau

Inswleiddio ystafell mewn to neu do fflat

Gwydrau Perfformiad Uchel (o wydrau dwbl)

Inswleiddio Waliau Ceudod

Inswleiddiad “newydd sbon” i atig (o 0mm)

Inswleiddiad “ychwanegol” i atig (o 125mm)

Gwaith atal drafftiau

Awyru (rheoli lleithder)

Systemau clyfar i reoli ynni’r cartref a systemau rheoli gwres

 

Atodiad C - Gofynion cymhwystra

Er mwyn gwneud cais am y Llythyr a “defnyddio’r” Grant Gosod, rhaid i’r ymgeisydd fod yn berchen ar ei gartref, a rhaid i hwnnw fod yn Eiddo Cymwys.  Mae Eiddo Cymwys yn Eiddo sydd:

Yn gartref sy’n eiddo i berchen-feddiannwr (perchnogion eiddo, sydd â buddiant rhydd-ddaliad neu les-ddaliad hir mewn llety y maent yn berchen arno’n llwyr, neu’n berchen arno gyda morgais) sydd wedi’i leoli yng Nghymru.