Trinydd achos

Rydym am recriwtio Gymru Cymorth i Brynu - Cymru - trinydd achos o Wrecsam / Caerdydd

Pwrpas y swydd

Er mwyn sicrhau bod y lefel uchaf o reoli achosion a chymorth gweinyddol ar gyfer pob agwedd ar weithgaredd Cymorth i Brynu – Cymru (“CiBC”) yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn broffesiynol.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Gweithio'n gymwys o fewn amgylchedd cymysg, gan gyflwyno ceisiadau newydd a phrosesu digwyddiadau ôl-gwblhau, ond gallai hefyd gynnwys datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau o fewn y tîm sy'n gwirio cofrestru tir a/neu'n adennill ôl-ddyledion o fewn CiBC.

Bydd gofyn i chi fod yn drinwr achosion ac yn fentor effeithiol, gan ddarparu cefnogaeth gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r hyn â ganlyn:

  • Fel aelod rhagweithiol o'r adran, bydd disgwyl i chi drin a rheoli nifer fawr o achosion ar yr un pryd er mwyn sicrhau bod pob Cytundeb Lefel Gwasanaeth rheoleiddiol a mewnol yn cael ei fodloni a bod cwsmeriaid yn cael eu hysbysu trwy amrywiol sianeli cyfathrebu.
  • Bod yn gyfrifol am drin achosion o ffynhonnell gymysg o geisiadau manwl iawn gan brynwyr newydd a phresennol o’r adeg pan dderbynnir y cais yn wreiddiol hyd at gwblhau'r benthyciad ecwiti a rennir yn gyfreithiol.
  • Prosesu amrywiaeth o dasgau nad ydynt yn ymwneud ag adbrynu (Er enghraifft: newid enw, Is-osod) a cheisiadau adbrynu.
  • Yn benodol, darparu lefel uchel o wasanaeth cwsmeriaid a chefnogaeth i gwsmeriaid trwy feithrin perthnasoedd gyda Chynghorwyr Ariannol Annibynnol (CAA)/Cynghorwyr Morgais, Trosglwyddwyr Eiddo a phriswyr RICS i sicrhau bod profiad y cwsmer yn ddi-dor.
  • Bod yn gyfrifol am wirio'r ddogfennaeth ofynnol i gefnogi'r cyfnewid cyfreithiol a chwblhau'r eiddo.

    Bydd yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r hyn a ganlyn:

    Gwirio cynigion morgais i sicrhau bod cynnyrch dewisol y cwsmer yn bodloni gofynion y cynllun.

    Sicrhau bod y prisiau'n adlewyrchu'r eiddo y gwnaed cais amdano a bod yr adeiladwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun yn glynu at y telerau cywir.

    Sicrhau fod prisiau adbrynu yn bodloni gofynion y cynllun. Lle mae ecwiti negyddol wedi'i nodi, fod y gwiriad priodol wedi'i ddogfennu.

    Sicrhau bod y gweithgareddau nad ydynt yn rhai adbrynu fel Is-osod, Lojio, Ailforgeisio a cheisiadau Gwella Cartref yn bodloni rheolau'r cynllun.

  • Cynnal gwiriadau ar geisiadau yn fanwl gywir, gyda llygad craff am fanylion, er mwyn gwneud asesiad ac ymateb i gleientiaid yn ffurfiol, gan ofyn am ragor o wybodaeth os oes angen. Sicrhau bod rheolau'r cynllun yn cael eu cymhwyso.
  • Deall ac asesu adroddiadau credyd wrth brosesu ceisiadau newydd ac asesu dogfennaeth sy'n ymwneud â chyflogaeth/hunangyflogaeth a slipiau cyflog yn unol â chanllawiau fforddiadwyedd CiBC.
  • Glynu bob amser wrth ymateb gyda’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) / Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) wrth brosesu dogfennaeth a dderbynnir ar gyfer eich achosion, fel y nodir ac fel y cytunir â Llywodraeth Cymru.
  • Bod yn ymwybodol o reoliad GDPR, dilyn a gweithredu'r holl ganllawiau a bod yn gyfrifol am unrhyw gwynion sy'n sensitif i GDPR hyd deuir at ddatrysiad boddhaol.
  • Cofleidio egwyddorion Dyletswydd Defnyddwyr newydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (AYA) wrth ddelio â Chwsmeriaid CiBC.
  • Bod atebol yn rhagweithiol a rheoli llwythi achosion unigol cyfredol er mwyn sicrhau bod yr holl ddogfennaeth ofynnol yn cael ei dilyn yn unol â dyddiadau cwblhau gwybodus y prynwr.
  • Chwarae rhan yn y gwaith o adolygu a datblygu prosesau cyfredol.
  • Monitro statws cyfredol eich achosion sydd yn yr arfaeth yn rhagweithiol gan gynhyrchu adroddiadau trylwyr a diweddaru cofnodion yn unol â hynny er mwyn sicrhau bod lefelau cywirdeb yn cael eu cynnal ar y system rheoli cofnodion cleientiaid (a adwaenir fel CRM) a'r system Gyllid, gan adrodd yn ôl i'r rheolwr llinell am unrhyw broblemau.
  • Cynnal proffil a delwedd gadarnhaol o fewn CiBC, gyda rhwydwaith sefydledig gyda swyddogaethau cymorth y gellir galw arnynt i gefnogi dadansoddiad o achosion sylfaenol a gwelliant parhaus i fynd i'r afael â chanlyniadau negyddol i gwsmeriaid neu fynegiadau o anfodlonrwydd.
  • Darparu gwasanaeth cywir, cwrtais, brwdfrydig a phroffesiynol i bob rhanddeiliad allanol a mewnol ac ymateb yn unol â hynny i bob ymholiad a dderbynnir drwy'r wefan, e-bost a dros y ffôn.
  • Cynnal logiau o statws ymgeiswyr ar bob system yn gyfredol fel y gall cydweithwyr godi achosion os oes angen.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan reolwr y gronfa i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad 

Hanfodol

  • Y gallu i weithio'n dda o dan bwysau i gyrraedd targedau a therfynau amser tynn
  • Profiad o ateb ac ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn
  • Cywirdeb rhagorol a llygad graff am fanylion
  • Cynnal moeseg gwaith broffesiynol bob amser
  • Rhaid i chi fod yn drefnus ac yn gallu rheoli eich llwyth gwaith eich hun yn effeithiol
  • Profiad gweinyddol blaenorol – Hanfodol
  • Wedi ymrwymo i fabwysiadu dull rhagweithiol wrth gymryd perchnogaeth dros eich hunan ddatblygiad
  • Dangos ymddygiad hyderus ar y ffôn a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ysgrifenedig a llafar cryf
  • Yn meddu ar hunan-gymhelliant â’r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • Hyderus yn eich sgiliau gwneud penderfyniadau eich hun
  • Profiadol a medrus mewn cymwysiadau TG/PC safonol gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Outlook.

Dymunol

  • Siaradwr Cymraeg
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o fenter Cymorth i Brynu – Cymru
  • Gwybodaeth/profiad o brosesu ceisiadau am forgeisi a benthyciadau ecwiti a rennir
  • Profiad blaenorol mewn swydd trin achosion
  • Profiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol gan gynnwys slipiau cyflog a chyfrifon diwedd blwyddyn.

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru