Uwch Swyddog Buddsoddi

Rydym yn recriwtio Uwch Swyddog Buddsoddi i weithio yng Nghymru.

Pwrpas y swydd

Mae’r uwch swyddog buddsoddi yn gyfrifol am gasglu a gwerthuso ceisiadau am fenthyciadau ar gyfer buddsoddiadau i gronfeydd y Banc Datblygu – hyd at £50,000. Gwneir buddsoddiadau o dan delerau masnachol ac yn unol â’r meini prawf buddsoddi a bennir gan y Banc Datblygu.

Yn ogystal â hyn, bydd yr Uwch Swyddog Buddsoddi yn:

  • Ymgymryd â’r gwaith o fod yn rheolwr llinell ar 1-3 o Swyddogion Gweithredol Buddsoddi/Swyddogion Gweithredol Buddsoddi Cynorthwyol ar draws y tîm Micro
  • Cefnogi’r gwaith o ganiatáu Buddsoddiadau a Micro Fenthyciadau, pan fo angen
  • Cynorthwyo Rheolwr y Gronfa gyda thasgau gweinyddol mewn perthynas â phartneriaid Mentrau Cymdeithasol

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Canfod a gwerthuso cynigion buddsoddi. Fel arfer, ni fydd buddsoddiadau’n cael eu sicrhau felly mae’r gallu i ddeall tybiaethau llif arian sylfaenol ac i asesu’r rhain yn briodol yn hollbwysig.
  • Cyflawni yn erbyn targedau buddsoddi a chynhyrchu
  • Cynnal diwydrwydd dyladwy trylwyr a chadarn o ran gwaith rheoli, ariannol a masnachol wrth ystyried cyfleoedd buddsoddi ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â phob buddsoddiad
  • Ymgymryd â’r gwaith o ysgogi a bod yn Rheolwr Llinell ar 1-3 o aelodau’r tîm, yn ogystal â darparu hyfforddiant/arweiniad ar fuddsoddi lle bo angen.
  • Paratoi adroddiadau buddsoddi ar gyfer caniatáu credyd.
  • Cyfrannu at weithredu’r Banc Datblygu fel cwmni rheoli cronfeydd proffesiynol a darparwr cyfalaf risg i fusnesau newydd a busnesau sy’n bodoli eisoes, yn unol â thelerau cymeradwyo cyrff y Sector Cyhoeddus a Chronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF)
  • Cymryd lle rheolwr y gronfa micro fenthyciadau/Dirprwy Reolwr y Gronfa mewn cyfarfodydd mewnol, digwyddiadau rhwydweithio a busnes allanol, yn ogystal â chaniatáu buddsoddiadau fel y bo’n briodol.
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth dechnegol sy’n benodol i’r diwydiant er mwyn sicrhau arferion gorau a chydymffurfiad mewn gweithgareddau buddsoddi
  • Lledaenu enghreifftiau o arfer gorau ar gyfer gwneud cais i’r gronfa i gyflwynwyr busnes allweddol a sicrhau bod y broses ymgeisio’n cael ei mireinio a’i gwella’n barhaus er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i gleientiaid
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau a rhwydweithiau gyda chyflwynwyr busnes allweddol a chyfryngwyr i ddod o hyd i gyfleoedd buddsoddi addas
  • Cymryd rhan a chynrychioli’r Banc Datblygu, lle bo hynny’n briodol, mewn cyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau a gweithgareddau grŵp ar y cyd
  • Gweithredu o dan gyfyngiadau awdurdod dirprwyedig a Chanllawiau Gweithredol Buddsoddi.
  • Cyfrannu at y gwaith o farchnata/hyrwyddo’r Banc Datblygu.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan reolwr y gronfa i fodloni anghenion gweithredol yr adran

Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad

Hanfodol

  • Profiad sylweddol o fuddsoddi neu roi benthyg i fusnesau bach a chanolig
  • Profiad blaenorol o baratoi adroddiadau credyd
  • Dealltwriaeth o brosesau a gweithdrefnau asesu risg a buddsoddi
  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a dylanwadu cadarn
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm
  • Hyderus yn ei sgiliau gwneud penderfyniadau ei hun
  • Gallu blaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau
  • Rhoi sylw i fanylder
  • Profiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol
  • Rhwydwaith o gyflwynwyr yng nghyswllt busnesau bach a chanolig Cymru

Dymunol

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl y sector cyhoeddus o ran cyllid ar gyfer busnesau bach a chanolig.
  • Dealltwriaeth o’r amgylchedd busnes rhanbarthol.
  • Siarad Cymraeg (ar gyfer swyddi yng Nghymru)
  • Trwydded yrru
  • Sgiliau TG gan gynnwys y gallu i ddefnyddio Microsoft Word, Excel, PowerPoint, Dynamics a Sharepoint.

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.

Dyddiad cau: Awst 30