Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Uwch Swyddog Sicrhau Ansawdd

Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Sicrhau Ansawdd sydd wedi’i leoli Nghaerdydd.

Pwrpas y swydd

Mae'r tîm Sicrhau Ansawdd yn chwarae rhan allweddol yn fframwaith rheoli risg Banc Datblygu Cymru, gan gyfrannu at hygrededd ac enw da'r Grŵp fel rheolwr cronfeydd effeithiol a phroffesiynol. 

Mae'r rôl yn cynnwys cynllunio a dylunio gwaith monitro cydymffurfiaeth, gan amlygu meysydd o anghydffurfiaeth, gwendid neu fregusrwydd a chymryd rhan yn y broses o ddylunio a gweithredu newid a rheolaethau gweithdrefnol i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd wrth weithredu o fewn goddefiannau risg y Grŵp mewn perthynas â: 

  • Samplu ffeiliau Rheoli Buddsoddiadau, Portffolio a Gwasanaethau Eiddo
  • Dylunio adolygiadau thematig a gweithgaredd ymchwilio'n fanwl
  • Cydlynu gweithdrefnau buddsoddi a thempledi dogfennau
  • Cymorth a chyngor ar gyfer materion sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth
  • Rheoli dilysu ac adrodd data effaith
  • Rheolaeth ganolog o Hyfforddiant Cydymffurfiaeth Grŵp
  • Cymorth ar gyfer paratoi adroddiadau ar gyfer Uwch Reolwyr, y Pwyllgor Archwilio a Risg (ARC) a'r Bwrdd
  • Cymorth gyda chymodiadau a chyflwyniadau rheoleiddiol i sicrhau Cydymffurfiaeth Asedau Cleientiaid (CAC) yn unol â gofynion yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.  

Mae'r rôl yn cefnogi'r Rheolwr Cydymffurfiaeth i ddylunio a rheoli'r ddarpariaeth amserol a chywir o weithgarwch monitro a chyflwyno adroddiadau cydymffurfiaeth ar draws y Grŵp.  

Mae'r rôl yn cynnwys rheoli perfformiad, datblygu, goruchwylio ac arwain adroddiadau uniongyrchol, ac fel ceidwad arfer gorau o ran gweithdrefnau buddsoddi bydd angen gweithio traws-dîm yn rheolaidd gan gynnwys cymryd rhan weithredol mewn prosiectau i wella effeithlonrwydd gweithredol. 

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o gynllunio a chyflwyno hyfforddiant a chanllawiau cydymffurfio priodol i gydweithwyr ar bob lefel ar draws y busnes, gan hyrwyddo trosglwyddo gwybodaeth effeithiol. 

 

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Dylunio a gweithredu adolygiadau ansoddol cyn ac ar ôl buddsoddi effeithiol o ffeiliau buddsoddi'r Grŵp er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Chanllawiau Gweithredu Mewnol (CGM), gweithdrefnau buddsoddi a Pholisi'r Grŵp a chynnal cofnodion cywir o weithgarwch samplu ffeiliau.
  • Dylunio a chynnal adolygiadau thematig a samplu manwl ar sail risg.
  • Lle nodir bylchau cylchol, cynnal dadansoddiad o achosion sylfaenol a chefnogi'r timau gweithredol i ddylunio a gweithredu rheolaethau effeithiol.
  • Rhoi adborth rheolaidd ar ganlyniadau samplu ffeiliau a chanfyddiadau allweddol i Reolwyr Cronfeydd.
  • Er mwyn sicrhau bod gweithgaredd samplu ffeiliau yn amserol ac yn gyson â data cryno rheolaidd a ddarperir i'r Rheolwr Cydymffurfiaeth i gefnogi adrodd yr Uwch Reolwyr a'r Bwrdd.
  • Rheoli'r dilysu misol o'r holl ddata effaith sy'n ymwneud â gweithgaredd buddsoddi, sicrhau adrodd cywir a rhoi adborth i dimau buddsoddi.
  • I gefnogi gyda chymodi ffisegol dogfennau diogelwch, cymodiadau CGM rheolaidd a chynnal dogfennaeth berthnasol i gefnogi'r Rheolwr Cydymffurfio i fodloni cydymffurfiaeth CGM.
  • Darparu gwasanaethau cymorth a chynghori i dimau gweithredol mewn perthynas â Pholisi, gweithdrefn a chanllawiau'r Grŵp, gan gynnwys; Gwrth-wyngalchu arian, Diwydrwydd Dyladwy Cwsmeriaid, Egwyddor Dyletswydd Defnyddwyr ac ymdrin â chwsmeriaid agored i niwed, y Broses Gwyno, data effaith a phrosesau gweithredol y Grŵp.
  • Er mwyn sicrhau Rheolaeth ganolog effeithiol a chyfathrebu newidiadau i dempledi buddsoddi, canllawiau a gweithdrefnau gweithredu.
  • Gweithio gyda'r Rheolwr Cydymffurfio i ystyried goblygiadau rheoliadau neu ddeddfwriaeth cydymffurfio newydd a gweithio gyda'r timau gweithredol i sicrhau bod newidiadau'n cael eu hintegreiddio i bolisi a gweithdrefnau gweithredol.
  • I gefnogi datblygiad a chyflwyniad fframwaith hyfforddiant cydymffurfio.
  • Bod yn rheolwr llinell ar gyfer Gweithredwyr Sicrwydd Ansawdd gan ddarparu cymhelliant, arweiniad a chefnogaeth a sicrhau digon o adnoddau ar gyfer gweithgaredd samplu ffeiliau.
  • Dirprwyo ar ran y Rheolwr Cydymffurfiaeth yn ôl yr angen.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Rheolwr Cydymffurfiaeth i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran. 

 

Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad


Hanfodol 

  • Hunan-gymhellol, gyda'r gallu i fabwysiadu dull rhagweithiol a gweithio'n effeithiol heb oruchwyliaeth.
  • Sgiliau rhyngbersonol cryf a'r gallu i gyfathrebu a dylanwadu'n effeithiol, gan herio am ragor o wybodaeth lle bo angen, ar draws pob lefel o Grŵp Banc Datblygu Cymru.
  • Y gallu i arwain ac ysgogi eraill.
  • Yn gallu i reoli a threfnu gwaith o dan bwysau a chwrdd â therfynau amser.
  • Llawn cymhelliant ac agwedd benderfynol tuag at gwblhau gwaith yn gywir, yn gyson ac i safon uchel.
  • Gwybodaeth gynhwysfawr a manwl am y gwahanol gronfeydd a reolir gan y Grŵp, a'r gweithdrefnau buddsoddi a monitro priodol sy'n gysylltiedig ag ystod lawn o strwythurau buddsoddi'r Grŵp.
  • Meddwl rhesymegol ac chwilfrydig a llygad am fanylion. Y gallu i feddwl “y tu allan i’r bocs” ac i gyflwyno atebion arloesol i broblemau a nodwyd.
  • Y gallu i gadw gwybodaeth fanwl a dangos ehangder safbwynt, er mwyn deall goblygiadau newid gweithdrefnol ar draws y busnes.
  • Arfer barn gadarn yn gyson, er enghraifft wrth gymhwyso dull y Grŵp o Ddiwydrwydd Dyladwy Cwsmeriaid sy'n seiliedig ar risg yn ymarferol.
  • Bod â dealltwriaeth o weithdrefnau ac arferion rheoli risg a gallu eu cymhwyso i Grŵp Banc Datblygu Cymru.
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd ariannol/rhifol neu archwilio/rheoleiddiedig.
  • Llythrennog mewn TG/PC ac yn gallu defnyddio Pecynnau Microsoft Office 

Dymunol 

  • Dealltwriaeth o'r rhwymedigaethau ar fusnesau gwasanaethau ariannol wrth frwydro yn erbyn troseddau ariannol.
  • Dealltwriaeth o'r rhwymedigaeth ar fusnesau gwasanaethau ariannol i fodloni Dyletswydd Defnyddwyr yr AYA.
  • Cyfarwydd â Grwpiau Buddsoddi a Gweithdrefnau Buddsoddi Grŵp a dealltwriaeth eang o fuddsoddiadau dyled, mesanîn ac ecwiti.
  • Siaradwr Cymraeg.

 

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i ein tudalen recriwtio