Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Uwch Weithredwr Monitro Portffolio

Rydym yn cyflogi rhywun ar gyfer swydd Uwch Weithredwr Monitro Portffolio yng Nghaerdydd/Llanelli

Pwrpas y swydd

Ceisio datblygu cyfleoedd buddsoddi a lleihau’r risg o golled ariannol i’r Banc Datblygu drwy fonitro buddsoddiadau dyledion portffolio yn rhagweithiol, a bod yn rheolwr llinell i weithredwyr portffolio.

Ar ben hynny, bydd yr Uwch Weithredwr Portffolio yn darparu cymorth rheoli tîm i’r Rheolwr Portffolio, ac yn rheoli buddsoddiadau portffolio mwy a mwy cymhleth Banc Datblygu Cymru.

Bydd angen i ddeiliad y swydd feithrin perthnasoedd gwaith agos yn fewnol, gyda chyflwynwyr busnes allanol a darparwyr gwasanaethau i gynyddu eu gwybodaeth am y farchnad a’u gallu i ddarparu gwerth ychwanegol i gleientiaid portffolio. Bydd dealltwriaeth gynhwysfawr o bortffolio deiliad y swydd ac adroddiadau uniongyrchol yn cael ei chynnal drwy fonitro a chyswllt rheolaidd. Lle nodwyd bod buddsoddiadau naill ai mewn perygl neu fod ganddynt botensial twf sylweddol, croesgyfeirio’n briodol at y tîm portffolio mwyaf priodol.

Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am werthuso, asesu a chymeradwyo ceisiadau ar gyfer buddsoddiadau dilynol, boed hynny drwy ecwiti, dyled neu gymorth mesanîn neu unrhyw gyfuniad o’r rhain.

Efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddirprwyo ar ran y Rheolwr Portffolio o bryd i’w gilydd.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Rheoli portffolio o fuddsoddiadau dyled mwy a mwy cymhleth. Datblygu cynlluniau gweithredu priodol yn annibynnol i sicrhau’r elw mwyaf posibl i’r Grŵp Banc Datblygu
  • Arwain, rheoli a chymell tîm o weithredwyr portffolio, gan ddarparu arweiniad rheoli llinell a buddsoddi/rheoli risg lle bo angen.
  • Cynnal cyswllt parhaus â busnesau cleientiaid i sicrhau dealltwriaeth gyfredol o fusnesau a meithrin perthnasoedd cryf â’u rheolwyr. Bydd cyswllt o’r fath yn cael ei deilwra i ddiwallu anghenion pob cleient a gall gynnwys mynychu cyfarfodydd bwrdd.
  • Asesu a monitro gwybodaeth berthnasol gan gynnwys gwybodaeth ariannol i baratoi adroddiadau angenrheidiol ar berfformiad cwmnïau portffolio. 
  • Chwilio am gyfleoedd i ddarparu ceisiadau dilynol a gwerthuso’r ceisiadau. Paratoi adroddiadau lle bo hynny’n briodol, gan argymell buddsoddiadau i’r Rheolwr Portffolio, y Cyfarwyddwr Portffolio a’r pwyllgor Buddsoddi.
  • Cymeradwyo argymhellion buddsoddi dilynol ac ailstrwythuro benthyciadau o fewn lefel awdurdod dirprwyedig.
  • Adeiladu, datblygu a chynnal rhwydwaith o gysylltiadau i alluogi arweiniad ychwanegu gwerth i gwsmeriaid portffolio
  • Datblygu a gwella enw da Banc Datblygu Cymru fel darparwr buddsoddiadau proffesiynol.
  • Sicrhau bod unrhyw ryngweithio â chyrff ac aelodau mewnol ac allanol yn cyd-fynd â’r safonau uchaf o ran gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn sicrhau adborth amserol i bartïon priodol.
  • Unrhyw dasg arall y gallai’r Rheolwr Portffolio ei dyrannu i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran, gan sicrhau y cynhelir ymddiriedaeth a hyder buddsoddwyr y Cwmni bob amser.

Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad

Hanfodol 

  • Gallu cymell eich hun, gweithredu’n rhagweithiol a gweithio’n effeithiol heb oruchwyliaeth. Yn gyfforddus yn delio â gwaith sensitif i gleientiaid lle mae amser yn hollbwysig.
  • Lle bo’n berthnasol, bod yn barod i deithio ledled Cymru i gyflawni dyletswyddau rheoli llinell.
  • Canolbwyntio ar ganlyniadau
  • Gallu blaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau a chwrdd ag amserlenni.
  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a dylanwadu da Sgiliau cadarn o ran datrys problemau.
  • Dealltwriaeth fanwl o fuddsoddiadau benthyciadau mwy cymhleth
  • Dealltwriaeth o gyfraith cwmnïau a gweithdrefnau bwrdd
  • Gallu asesu cynigion buddsoddi a llunio cynigion buddsoddi cytbwys
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd ariannol neu amgylchedd rhifog tebyg ac, yn benodol, ymwybyddiaeth neu brofiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol
  • Yn hyddysg ym maes TG/cyfrifiaduron ac yn gallu defnyddio Pecynnau Microsoft Office
  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol neu o leiaf bum mlynedd o brofiad perthnasol yn y diwydiant
  • Trwydded Yrru

Dymunol 

  • Siaradwr Cymraeg
  • Ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â busnesau bach a chanolig yng Nghymru

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru

Dyddiad cau: 14 Ebrill