Womenspire 2019

Fel eiriolwr ar gyfer cydraddoldeb rhywiol, mae Banc Datblygu Cymru yn falch o fod yn cefnogi'r Gwobrau Womenspire eto yn 2019. Eleni, rydym ni'n noddwyr y categori gwobrau Entrepreneur sy'n dathlu llwyddiannau menywod ar hyd a lled Cymru sydd wedi dangos doniau a menter entrepreneuraidd gwych ac wedi sefydlu busnesau sydd â photensial twf go iawn.

Wedi'i drefnu gan brif elusen cydraddoldeb rhywiol Chwarae Teg, mae Womenspire yn dathlu cyflawniadau menywod o bob cefndir a chyfnodau mewn bywyd neu waith ar hyd a lled Cymru.

Mae'r wobr Entrepreneur yn cydnabod menywod sydd wedi sefydlu busnesau llwyddiannus sydd â photensial twf go iawn.

Cewch wybod mwy am y digwyddiad yn fan hyn.

Pwy sy'n dod