Cyn i chi wneud cais am fenthyciad busnes, mae'n hanfodol gwneud rhywfaint o waith ymchwil a pharatoi. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn chwilio am y cyllid cywir ar gyfer eich busnes a bydd yn helpu i wneud y broses ymgeisio yn llawer llyfnach a haws.
Yn yr erthygl hon, rydym yn amlinellu rhai o'r camau y dylech eu cymryd cyn gwneud cais. Nid oes unrhyw sicrwydd o gael benthyciad busnes bach, ond dylai'r awgrymiadau hyn eich helpu i ddechrau adeiladu cais cryf.
1. Creu neu ddiweddaru eich cynllun busnes
Mae cynllun busnes yn arf gwerthfawr i unrhyw fusnes, hyd yn oed os mai dim ond at ddefnydd mewnol y mae. Mae’n eich galluogi i osod eich amcanion, nodi unrhyw broblemau posibl, a mesur cynnydd – pob un ohonynt yn allweddol i redeg busnes llwyddiannus. Os ydych chi yn gwneud cais am fenthyciad busnes, yna mae'n dod yn bwysicach fyth.
Mae'n cymryd amser i greu cynllun busnes cadarn, ond mae'n gyfle gwych i arddangos potensial eich busnes. Mae yna hefyd gyfoeth o wybodaeth ac arweiniad ar gael i'ch helpu i roi un at ei gilydd. Darllenwch ein post blog, Sut i ysgrifennu cynllun busnes, am awgrymiadau cyffredinol a throsolwg o rai o gydrannau nodweddiadol cynllun busnes.
Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllawiau pellach, gan gynnwys templed y gellir ei lawrlwytho a rhestr wirio cynllun busnes, ar wefan Busnes Cymru.
2. Ystyriwch yr holl opsiynau
Mae yna amrywiaeth eang o opsiynau cyllid, a bydd rhai yn fwy addas i'ch sefyllfa chi nag eraill. Mae'n bwysig deall yn union pam mae angen y cyllid arnoch a gwneud rhywfaint o ymchwil i'r gwahanol fathau o gyllid er mwyn penderfynu pa un sydd orau i'ch busnes.
Nid benthyciad busnes yw'r unig ffordd y gallwch chi fenthyca arian. Dylech hefyd wneud rhywfaint o waith ymchwil i ddulliau ariannu eraill megis gorddrafftiau, a allai fod yn ddefnyddiol os oes angen cyllid tymor byr arnoch i reoli diffyg llif arian dros dro. Neu efallai eich bod angen mynediad at arian parod tra'ch bod yn aros i gwsmeriaid dalu anfonebau, ac os felly gallai ariannu anfonebau fod yn un opsiwn i'w archwilio.
Yn y pen draw, mae'n hanfodol canolbwyntio ar eich anghenion a'ch amgylchiadau unigol wrth chwilio am gyllid.
I gael crynodeb o rai o’r opsiynau ariannu sydd ar gael, darllenwch ein herthygl, Sut i ariannu eich busnes: canllaw i’r opsiynau ariannu.
3. Gwybod faint allwch chi ei fforddio
Unwaith y byddwch wedi penderfynu pa fath o gyllid cyffredinol sydd orau ar gyfer eich anghenion, yna mae sawl peth ychwanegol i'w hystyried cyn gwneud cais. Un ffactor holl bwysig yw faint allwch chi fforddio ei ad-dalu bob mis.
Wrth gymharu benthyciadau, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r holl nodweddion, gan gynnwys cyfraddau llog, APR, a ffioedd. Gall cyfrifianellau benthyciad ar-lein eich helpu i gael syniad o faint fyddai eich taliadau misol a faint o log y byddech chi'n ei dalu'n gyffredinol.
Cofiwch bob amser wirio print mân unrhyw fenthyciad neu gytundeb ariannol, fel eich bod yn gwbl ymwybodol o'r holl gostau.
4. Paratowch y dogfennau ariannol
Yn ogystal â chynllun busnes, bydd y rhan fwyaf o fanciau a benthycwyr traddodiadol yn gofyn am ddogfennau ariannol eraill, megis rhagolygon llif arian. Mae hwn yn gynllun sy'n amcangyfrif faint o arian fydd yn symud i mewn ac allan o'ch busnes dros gyfnod penodol.
Mae Busnes Cymru yn darparu cymorth i fusnesau sydd angen cymorth i reoli eu harian, ac mae gwybodaeth ddefnyddiol ar eu gwefan ar greu rhagolygon llif arian.
5. Gofynnwch am help
Fel yr ydym wedi cyfeirio ato trwy gydol yr erthygl hon, mae cymorth ar gael i'ch helpu i baratoi ar gyfer gwneud cais am fenthyciad. Peidiwch ag ofni ceisio cyngor proffesiynol os oes angen. Gallai siarad â chyfrifydd, cynghorydd ariannol, neu Busnes Cymru, fod yn amhrisiadwy i’ch helpu i ddeall pa opsiwn ariannu sydd orau i’ch busnes a sut y gallwch wneud eich cais y gorau y gall fod.