Pwyllwch cyn rhannu ecwiti ‘cychwynnol’ – sut y gall busnesau newydd osgoi camgymeriadau costus

Newidwyd:
Busnesau newydd technoleg
sweat equity

Mae dechrau busnes newydd yn gyfnod cyffrous a bydd llawer o gwestiynau i’w hateb a phenderfyniadau i’w gwneud.

Os ydych yn un o’r sylfaenwyr, byddwch fwy na thebyg yn gweithio am ddim, ochr yn ochr â swydd arall o bosibl, nes y gallwch fentro a gweithio’n llawn amser pan fydd y busnes yn dechrau gwneud arian, boed hynny drwy fuddsoddiad, cyllid i ariannu dyledion neu werthiannau cynnar.

Fodd bynnag, yn ogystal â’r sylfaenwyr, bydd llawer o fusnesau (yn arbennig y sector technoleg) angen doniau a sgiliau eraill er mwyn datblygu’r busnes.

Ni fydd llawer o arian ar gael, os o gwbl, ar gyfer cyflogau yn ystod y cyfnod cynnar; felly bydd angen i chi ystyried sut y gallwch gael gafael ar y bobl gywir heb orfod talu iddyn nhw.  Dyma pam, yn arbennig yn ystod y dyddiau cynnar, y bydd llawer o’r rhai sy’n dechrau busnes yn rhoi “ecwiti cychwynnol” ar ffurf cyfranddaliadau yn y cwmni yn hytrach na thalu cyflog, neu’n sefydlu cynllun opsiynau cyfranddaliadau i weithwyr sy’n fwy ffurfiol a threth effeithlon.  Fodd bynnag, fel arfer gwneir hyn, yn arbennig y trefniadau mwy anffurfiol, heb feddwl gormod am y cynlluniau ar gyfer y dyfodol, yn arbennig buddsoddiad.

Risgiau sy’n gysylltiedig â rhannu ecwiti yn gynnar

Wrth i gwmni dyfu, gall y penderfyniadau cynnar hynny i roi cyfranddaliadau ecwiti cychwynnol, heb ystyried strategaethau a chynlluniau twf y dyfodol yn iawn, arwain at oblygiadau difrifol wrth geisio cael buddsoddiad ecwiti go iawn.

Ceir risg hefyd na fydd pob gweithiwr yn aros yn yr hirdymor.  Os ydych wedi rhoi cyfran o’ch cwmni i weithiwr ac nid oes gennych unrhyw ffordd o’i gael yn ôl yn hawdd gallai hynny achosi problem fawr i chi.

Mae’n werth ystyried hefyd y gallech fod mewn sefyllfa wannach wrth negodi â buddsoddwyr os byddwch wedi rhoi llawer o ecwiti i weithwyr yn ystod y cyfnod cynnar ond am i fuddsoddwyr dalu pris uchel am gyfran fechan.  Gall hefyd adlewyrchu’n wael ar eich crebwyll masnachol os gwnaethoch roi swm sylweddol o gyfranddaliadau i weithiwr ac yntau heb wneud cyfraniad cymesur.

Bydd buddsoddwyr sydd â diddordeb fel arfer yn gofyn i’r rhanddeiliaid presennol lofnodi cytundeb buddsoddi neu gytundeb cyfranddalwyr manwl. Os na allwch gael pob un o’ch cyfranddalwyr i ymuno neu os oes gennych gyfran fechan o gyfranddalwyr trafferthus, gall hyn fod yn ergyd ddifrifol i’ch cynlluniau datblygu yn y dyfodol, a gall hyd yn oed chwalu eich holl gynllun ar gyfer dyfodol y cwmni.

Y Newyddion Da!

Y newyddion da yw bod ffyrdd o reoli’r risgiau uchod ond bydd angen buddsoddi rhywfaint o amser ac arian i gael y cyngor cywir yn ystod cyfnod cynnar eich busnes. Dyma’r math o bethau y gallwch eu gwneud i atal problemau:

  • Cadw golwg ar eich strategaeth a’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol
  • Sicrhau bod y person y byddwch yn rhoi ecwiti cychwynnol iddo wedi gweithio amdano - peidiwch â rhoi ecwiti yn rhy gynnar
  • Peidiwch â rhoi gormod o ecwiti – gall yr hyn sy’n ymddangos fel canran gymharol fechan i ddechrau fod yn ganran llawer mwy gwerthfawr yn y dyfodol a gall hynny leihau’r swm sydd gennych i’w gynnig i fuddsoddwyr y dyfodol yn sylweddol
  • Dylid rhoi cyfnod breinio ynghlwm wrth ecwiti bob tro.  Mae’n eithaf cyffredin i ecwiti freinio dros 3 i 5 mlynedd.  Bydd rhai sylfaenwyr ond yn caniatáu i ecwiti freinio os bydd y cwmni yn llwyddo er mwyn atal gweithwyr nad ydynt yn ymrwymedig mwyach rhag gadael gydag ecwiti sydd wedi cynyddu o ran ei werth.
  • Sicrhau eich bod wedi sefydlu cytundeb i gyfranddalwyr sydd wedi’i ddrafftio’n broffesiynol.  Gallwch gynnwys amod i gael ecwiti cychwynnol yn ôl os bydd pobl yn gadael y cwmni, yn arbennig os bydd rhywun yn gadael ar delerau gwael.

 

Drwy gymryd camau doeth a rhesymol yn ystod y cyfnod cynnar, gallwch osgoi gwneud y camgymeriadau costus y mae rhai o’r bobl sy’n dechrau busnes yn eu gwneud yn y cyfnod cynnar.

 

Cyfranwyr:

Stephen Thompson, Partner Rheoli, Darwin Gray

Alexander Leigh, Swyddog Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru