Beth yw cyllid ecwiti a sut mae'n gweithio?

Portrait of Sophie Vellam
Swyddog Ymgyrchoedd
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
business owner working

Os na allwch chi hunan-ariannu'ch busnes neu os ydych chi am dyfu'n gyflymach, yna bydd angen i chi godi cyllid allanol. Mae cyllid ecwiti yn un ffordd gyffredin i fusnesau gael yr arian sydd ei angen arnynt.

Daliwch ati i ddarllen er mwyn dysgu mwy am beth yw cyllid ecwiti, sut mae'n gweithio, ac a yw'n opsiwn cyllido addas i'ch busnes.

Beth yw cyllid ecwiti?

Mae cyllido ecwiti yn golygu gwerthu cyfran yn eich busnes yn gyfnewid am fuddsoddiad arian parod.

Yn wahanol i fenthyciad, nid oes rhwymedigaeth ad-dalu ar gyllid ecwiti. Yn lle, mae buddsoddwyr yn prynu cyfranddaliadau yn y cwmni er mwyn gwneud arian trwy ddifidendau (cyfran o'r elw) neu trwy werthu eu cyfranddaliadau yn y pen draw.

Dim ond os yw'r cwmni'n llwyddiannus y byddant yn cael enillion ar eu buddsoddiad. Mae hyn yn golygu ei bod o fudd iddynt helpu a chefnogi'r tîm rheoli i dyfu'r busnes a’i ddatblygu i'w lawn botensial.

 

Beth yw manteision cyllid ecwiti?

Efallai y gallwch ddechrau a thyfu eich busnes gan ddefnyddio'ch cynilion personol a'r llif arian a gynhyrchir o werthiannau. Ond yn aml gall hyn gymryd amser hir. Gyda chyllid ecwiti, fe allech chi gynyddu eich graddfa yn llawer cyflymach, sydd yn ei dro yn eich galluogi i ennill mantais gystadleuol mewn marchnadoedd sy'n symud yn gyflym.

Dyma rai o brif fanteision y math hwn o gyllid:

  • Rhyddid rhag dyled - Gallwch ganolbwyntio ar eich cynlluniau twf heb faich ad-daliadau benthyciad rheolaidd.
  • Mwy o gyfalaf - Yn gyffredinol, gallwch godi symiau mwy o arian gyda chyllid ecwiti nag y gallwch chi gyda chyllid dyled.
  • Profiad busnes, sgiliau a chysylltiadau - Bydd rhai buddsoddwyr yn cynnig llawer mwy na dim ond arian. Byddant yn darparu gwerth ychwanegol ar ffurf arbenigedd, gwybodaeth a chysylltiadau, a all helpu i sbarduno twf eich busnes.
  • Cyllid dilynol - Mae buddsoddwyr yn aml yn barod i ddarparu cyllid ychwanegol wrth i'ch cwmni dyfu.

 

Pryd ddylech chi ddefnyddio cyllid ecwiti?

Nid yw cyllid ecwiti yn iawn i bob busnes ac mae wastad yn syniad da gwneud eich ymchwil ar yr holl opsiynau cyllido sydd ar gael. Dyma ychydig o senarios lle gallai fod yn ddull hyfyw:

  • Pan rydych chi'n gwmni cam cynnar heb hanes ariannol na sicrwydd cyfochrog i sicrhau benthyciad banc. Mae hyn yn aml yn wir gyda busnesau technoleg newydd a allai fod ag asedau deallusol sylweddol ond ychydig o asedau diriaethol. Efallai eich bod yn y cam cyn-refeniw a bod gennych gostau i'w talu fel costau ymchwil a datblygu. Os oes angen i chi godi swm mawr o arian i roi hwb cychwynnol, yna efallai mai buddsoddiad ecwiti fydd eich dewis gorau neu'ch unig opsiwn.
  • Rydych chi'n gwmni sefydledig ac mae gennych chi gynlluniau ar gyfer twf sy'n gofyn am lawer iawn o gyfalaf. Efallai eich bod am ehangu gweithrediadau, symud i farchnadoedd newydd, neu arallgyfeirio cynhyrchion. Gallai gwneud ad-daliadau ar fenthyciad rwystro'ch gallu i dyfu mor gyflym ag yr hoffech chi.
  • Rydych eisiau caffael busnes arall neu rydych chi'n rhan o dîm rheoli sy'n bwriadu all-brynu'r perchennog. Mae allbryniant rheolwyr fel arfer yn dibynnu ar gronfeydd yn cael eu cyfuno gyda'i gilydd o sawl ffynhonnell, sydd fel arfer yn cynnwys cyllid ecwiti. 
  • Rydych chi am werthu eich busnes. Yn ddelfrydol, bydd eich busnes ar gam ehangu pan fyddwch yn ei roi ar werth. Gallai mynd ati i godi cyllid ecwiti eich helpu i gyflymu twf eich cwmni fel ei fod mor ddeniadol â phosibl i ddarpar brynwyr.

 

Sut mae cyllid ecwiti yn gweithio?

Fel y soniwyd uchod, gellir defnyddio cyllid ecwiti ar wahanol gamau o'r siwrnai fusnes, p'un a ydych chi newydd gychwyn neu pan rydych chi'n gwmni sefydledig sy'n bwriadu ehangu (gan gynnwys caffael). Bydd rhai busnesau yn codi sawl rownd o gyllid ecwiti gan wahanol fathau o fuddsoddwyr wrth iddynt symud ymlaen o fod yn gwmni sydd newydd ddechrau i fod yn gwmni llwyddiannus.

Pan fyddwch chi'n codi cyllid ecwiti bydd y buddsoddwr yn berchen ar ran o'ch cwmni. Ond trwy gymryd buddsoddiad dylech allu creu busnes o faint mwy, sy'n fwy proffidiol. Gyda'r buddsoddwr cywir, byddwch nid yn unig yn cael chwistrelliad arian parod ond hefyd yr arbenigedd a'r cysylltiadau i yrru'ch busnes yn ei flaen. A fyddai’n well gennych fod yn berchen ar 100% o gwmni £100k neu 70% o gwmni £1 miliwn?

Mae ymchwil gan Beauhurst ar funsesau yn cynyddu eu graddfa yn 2019 yn dangos bod cwmnïau â thwf trosiant uwch yn fwy tebygol o fod wedi sicrhau buddsoddiad ecwiti. Roedd 56% o'r rhai a dyfodd drosiant o fwy na 100% yn defnyddio cyllid ecwiti.

Gall cyllid ecwiti ddod o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys:

Equity options

Yn gyffredinol, mae buddsoddwyr angel yn unigolion gwerth net uchel sy'n defnyddio eu harian eu hunain i fuddsoddi, yn aml mewn busnesau cam cynnar. Gallant fuddsoddi ar eu pennau eu hunain neu fel rhan o grŵp o angylion, a elwir yn syndicet. Gallwch ddarganfod mwy yn ein blog, Beth yw buddsoddi angel

Mae cronfeydd cyfalaf menter (CM) yn buddsoddi mewn cwmnïau sydd â photensial twf uchel yn gyfnewid am gyfran leiafrifol ac yn helpu i gyflymu eu twf. Mae cwmnïau CM yn rheoli buddsoddiadau cyfun yn bennaf gan fuddsoddwyr sefydliadol fel cronfeydd pensiwn a chwmnïau yswiriant.

Fel cwmnïau cyfalaf menter, mae cwmnïau ecwiti preifat (EP) yn codi cronfeydd o gyfalaf i fuddsoddi mewn cwmnïau preifat ac yn ceisio cynhyrchu enillion cadarnhaol ar fuddsoddiad trwy ddigwyddiad ymadael. Fodd bynnag, mae cwmnïau EP fel arfer yn buddsoddi mewn busnesau mwy aeddfed ac yn aml yn cymryd cyfran fawr neu fwyafrifol.

Mae yna nifer o gronfeydd y llywodraeth sy'n darparu cyllid ecwiti i fusnesau, gan gynnwys y rhai a reolir gan Fanc Datblygu Cymru.

 Rhwydwaith personol sylfaenydd yw un o'r ffynonellau cyllid cynnar mwyaf cyffredin, gan helpu busnesau newyd

Gall codi cyllid ecwiti fod yn broses eithaf hir a chymhleth. Bydd angen i chi dreulio amser yn dod o hyd i'r buddsoddwr cywir ar gyfer eich cwmni, yn trafod telerau'r fargen, yn hwyluso'r broses diwydrwydd dyladwy, ac yn cwblhau'r dogfennau cyfreithiol terfynol, a hyn oll tra’n rhedeg eich busnes.

Ond trwy fod yn barod ac wedi paratoi'n dda, ac mae hynny’n cynnwys meddu ar gynllun busnes cryf, fe allwch chi helpu i sicrhau bod y broses yn mynd yn fwy llyfn a chynyddu eich siawns o sicrhau buddsoddiad.

Ariannu torfol ecwiti

Mae ariannu torfol ecwiti yn galluogi busnesau preifat i godi arian gan y cyhoedd. Mae'n gweithio mewn ffordd debyg i fathau eraill o gyllid ecwiti - rydych chi'n cyfnewid cyfranddaliadau yn eich cwmni am arian parod. Yr hyn sy'n gwneud ariannu torfol yn wahanol, fodd bynnag, yw eich bod yn cael symiau llai o arian gan nifer fawr o bobl (y 'dorf'). Maent wedyn yn berchen ar gyfran gymesur o ecwiti yn eich busnes.

Mae'r math hwn o ariannu yn digwydd ar-lein ar blatfformau ariannu torfol ecwiti. Mae'r platfformau hyn yn amrywio o ran sut y maent yn gweithredu - er enghraifft, gallant godi ffioedd gwahanol, bod â phrosesau fetio (edrych ar hanes ymgeiswyr) gwahanol, ac arbenigo mewn diwydiannau penodol. Felly mae'n bwysig eu cymharu â gweld pa un sy'n iawn i chi.

Mae'r rhan fwyaf yn ei gwneud yn ofynnol i chi osod targed ariannu ar gyfer eich ymgyrch ac amserlen ar gyfer cyrraedd y targed hwn. Os byddwch chi'n llwyddiannus, yna byddwch chi'n derbyn yr arian ar ddiwedd yr ymgyrch minws unrhyw ffioedd y mae'r platfform yn eu codi. Os na fyddwch chi'n cyrraedd eich targed, bydd y rhan fwyaf o wefannau cyllido torfol yn dychwelyd yr holl arian rydych chi wedi'i godi i'r cefnogwyr, er y gallai rhai ganiatáu i chi eu cadw am ffi.

Sut mae buddsoddwr yn gwneud arian o fuddsoddiad ecwiti?

Mae buddsoddwyr ecwiti yn gwneud arian trwy “enillion cyfalaf”, lle maent yn gwerthu cyfranddaliadau am bris uwch nag y gwnaethant dalu amdanynt, a/neu drwy ddifidendau. Mae difidendau yn gyfran o enillion y cwmni a ddosberthir i'w gyfranddalwyr, a delir yn chwarterol fel arfer.

Nid yw pob busnes yn dewis talu difidendau. Mae rhai, yn enwedig cwmnïau ifanc, yn dewis ail-fuddsoddi elw yn nhwf y busnes. Mae cwmnïau sy'n talu difidend gan amlaf yn gwmnïau mwy, sydd wedi'u hen sefydlu.

Mae sawl ffordd y gall buddsoddwr “ymadael” busnes (gwerthu ei gyfranddaliadau), gan gynnwys:

  • Allbryniant y tîm rheoli - mae buddsoddwyr yn gwerthu cyfranddaliadau i dîm rheoli presennol y cwmni buddsoddi
  • Gwerthiant masnach - mae'r cwmni buddsoddi yn cael ei werthu i brynwr masnach, fel arfer cwmni arall sy'n gweithredu yn yr un diwydiant
  • Gwerthiant eilaidd – mae buddsoddwyr yn gwerthu cyfranddaliadau i brynwr trydydd parti, fel cyfalafwr menter neu gwmni ecwiti preifat
  • Cynnig cyhoeddus cychwynnol (CCC) - pan fydd cwmni preifat yn rhestru ei gyfranddaliadau ar y gyfnewidfa stoc

Darllenwch ein canllaw olyniaeth busnes i ddarganfod mwy am wahanol fathau o ddigwyddiadau ymadael.

Dod o hyd i'r buddsoddwr ecwiti iawn

Pan fyddwch chi'n sicrhau cyllid ecwiti rydych chi'n ymrwymo i berthynas hirdymor â'ch buddsoddwr, felly mae'n holl bwysig dewis yr un iawn. Mae hyn yn golygu edrych y tu hwnt i'r arian ac ystyried beth arall y gallant ei ychwanegu ac a allwch chi weithio'n dda gyda nhw. Gallai gofyn y cwestiynau hyn i chi eich hun fod o gymorth:

  • Faint o ran ydych chi am iddyn nhw ei chwarae?
  • Pa adnoddau maen nhw'n eu darparu? A allan nhw gynnig gwybodaeth, profiad a chysylltiadau?
  • A ydyn nhw'n aml yn gwneud buddsoddiadau dilynol mewn cwmnïau?
  • A ydyn nhw'n gweddu'n dda i'ch brand a'ch diwylliant?
  • Beth yw eu gweledigaeth ar gyfer y cwmni ac a yw'n cyd-fynd â'ch un chi?

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni
*Based on a Beauhurst report, The Deal: Equity investment in the UK in 2020