Pwysigrwydd cyfrifon rheoli

Portrait of Sophie Perry
Swyddog Ymgyrchoedd
Newidwyd:
Cyllid a chyfrifo
management accounts

Fel cwmni cyfyngedig, mae'n rhaid i chi baratoi set o gyfrifon ariannol bob blwyddyn i'w cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau a HMRC. Ar wahân i fodloni gofyniad cyfreithiol, mae hwn yn gyfle da i adolygu sefyllfa ariannol eich busnes. Ond i gadw ar ben pethau o ddifri a chael darlun clir o'ch busnes, bydd angen i chi baratoi cyfrifon rheoli o bryd i'w gilydd hefyd. Mae'r rhain yn darparu gwybodaeth ariannol ac ystadegol allweddol ar gyfer cwmnïau cyfyngedig a masnachwyr unigol, gan roi gwell gwelediad i chi o sut mae'ch busnes yn perfformio ac mae’n eich galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ac amserol trwy gydol y flwyddyn.

Beth yw cyfrifon rheoli?

Cyfrifon rheoli yw set o ddata cyfrifo cryno sy'n cael eu paratoi a'u cyflwyno yn gyfnodol (e.e. yn wythnosol, yn fisol neu'n chwarterol). O ran y wybodaeth maen nhw'n ei gynnwys, nid oes dull gweithredu 'un-maint-addas i bawb'. I fod yn fwyaf effeithiol, dylai'r wybodaeth gael ei theilwra i'ch busnes chi, felly bydd angen i chi gyfrifo pa ddata hanfodol y mae angen i'r tîm rheoli neu'r perchennog unigol ei weld er mwyn gwneud penderfyniadau ariannol cadarn. Dyma rai o'r mathau o wybodaeth y mae cyfrifon rheoli yn eu cynnwys fel rheol:

  • Crynodeb gweithredol
  • Mantolen
  • Datganiad llif arian
  • Datganiad Incwm
  • Trosiant gwirioneddol, meintiau'r ymylon gros, gorbenion ac elw gweithredol
  • Dangosyddion perfformiad allweddol
  • Gwariant cyfalaf
  • Niferoedd pobl
  • Camau ar gyfer gweithredu cywiriadau a chynlluniau wrth gefn

 

Beth yw'r manteision?

Er nad oes eu hangen yn ôl y gyfraith, mae cyfrifon rheoli yn arf pwerus i redeg eich busnes yn fwy effeithiol a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Dyma rai ffyrdd y gallant helpu:

  • Nid yn unig eu bod yn cael eu cynhyrchu ar sail fwy aml, mae cyfrifon rheoli yn aml yn cynnwys manylion na fyddai, o reidrwydd, yn cael eu cynnwys yn eich cyfrifon blynyddol. Er enghraifft, fe allech chi ostwng cost fesul ardal fusnes, neu refeniw yn ôl llinellau cynnyrch neu wasanaeth. Mae hyn yn rhoi mwy o syniad i chi ynghylch be' sy'n gweithio'n dda yn eich busnes a pha feysydd y mae angen mynd i'r afael â hwy, gan eich galluogi i wneud penderfyniadau a chymryd camau cywiro'n brydlon.
  • Trwy fonitro eich rhifau a datrys ymholiadau yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn, byddwch hefyd mewn sefyllfa llawer gwell ar ddiwedd y flwyddyn ac ni ddylai fod yna unrhyw ddigwyddiadau mawr annisgwyl.
  • Maent yn eich helpu i gadw llygad ar yr arian sy'n dod i mewn ac yn mynd allan o'ch busnes, gan eich galluogi i adnabod problemau yn gyflym. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i chi atal diffyg llif arian, er enghraifft trwy gynllunio gwariant neu chwilio am gyllid allanol.
  • Os ydych chi'n bwriadu codi arian, yna bydd benthycwyr a buddsoddwyr am weld gwybodaeth reoli gyfoes. Drwy gynhyrchu cyfrifon yn rheolaidd, byddwch yn gallu bodloni'r gofyniad hwn a dangos bod gennych afael gadarn ar eich busnes, gan gynyddu'ch siawns o sicrhau'r arian sydd ei angen arnoch.

 

Dim ond ychydig o'r manteision y gall cyfrifon rheoli eu cynnig yw'r rhain. Hebddynt, mae'n debygol na fyddwch chi'n cael digon o olwg fewnol ar eich busnes i'w adeiladu'n llwyddiannus. Os wnewch chi gymryd yr amser i baratoi ac adolygu cyfrifon rheoli yn rheolaidd, gan gwmpasu'r wybodaeth sydd bwysicaf i chi, byddwch mewn sefyllfa gref i symud eich busnes ymlaen.