Felly, mae gennych chi fusnes llwyddiannus, rydych yn cyrraedd cyfran dda o'r farchnad ac mae gennych dîm rheoli cryf. Mae gennych strategaeth bum mlynedd gadarn, ac mae eich busnes yn tyfu. Ond ydych chi wedi meddwl am be fydd yn digwydd pan fyddwch chi eisiau gwerthu neu ymddeol?
Efallai ei fod yn ymddangos fel oes i ffwrdd ond dydi hi byth yn rhy gynnar i ddechrau cynllunio ar gyfer olyniaeth. Mae Steve Galvin, yn Uwch Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru. Aiff ati i egluro: "Mewn byd perffaith, fe ddylech chi gynllunio eich strategaeth ymadael mor gynnar â phosib, ond y broblem yw nad oes llawer o berchnogion busnes yn meddwl am hyn, maen nhw'n brysur yn meddwl am redeg y busnes ac am adeiladu gwerth yn y cwmni. Mae cynllunio olyniaeth yn aml yn cael ei 'wthio i gefn y ciw' fe petai."
"Yma yng Nghymru busnesau bach a chanolig sy'n ‘frenin’. Mae ein heconomi yn cael ei gyrru gan berchenogion rheolwyr ymroddedig. Mae dros hanner y perchnogion busnes yng Nghymru dros 50, gyda nifer sylweddol eisoes dros yr hyn a ystyriwyd yn hanesyddol fel 'oed ymddeol'. Mae hynny'n golygu ei bod hi'n bosib y bydd llawer o fusnesau yng Nghymru yn gobeithio newid dwylo yn ystod y blynyddoedd nesaf - gyda pherchnogion yn bwriadu trosglwyddo'r awenau i'r genhedlaeth nesaf. Ond os nad oes ganddynt gynllun olyniaeth, efallai y bydd yn anoddach na'r disgwyl."
I lawer o berchnogion yng Nghymru mae hynny'n golygu bod angen iddynt weithredu'n fuan. Mae yna nifer o opsiynau sydd angen eu hystyried. Ydych chi'n trosglwyddo'ch busnes i aelod o'r teulu, yn gwerthu i brynwr allanol, neu'n ei gadw'n lleol ac am ei werthu i'ch tîm rheoli presennol?
"Rydyn ni wedi gweithio gydag ystod o gwmnïau – yn amrywio o rai micro i ganolig - i'w helpu nhw gyda'r gwaith o gynllunio olyniaeth. Mae'r awydd ymysg rheolwyr i brynu'r busnes ar gynnydd (RhPC) ac felly hefyd am bryniant o'r cwmni wedi'i ei ysgogi gan y gwerthwr (PCYG)," ychwanegodd Steve.
"Mae cytundebau lle mae'r Rheolwyr yn Prynu'r Cwmni yn gynyddol boblogaidd ymysg perchnogion-reolwyr a chyllidwyr. Rydym yn argymell bod y perchennog sy'n ymadael yn parhau yn ei le am o leiaf chwe mis fel rhan o'r trosglwyddiad fesul cam, oherwydd mae'n helpu'r broses i fynd yn fwy esmwyth.
"O safbwynt y gwerthwr, dylai fod yn haws cael gwared ar y busnes i dîm lle mae’r Rheolwyr yn Prynu’r Cwmni. Bydd y gwerthwr yn gwerthu i dîm rheoli dibynadwy, y byddant wedi eu hadnabod ers blynyddoedd. Dylai hwn fod yn drafodiad cyfeillgar rhwng gwerthwr a phrynwr parod."
Mae pum cam allweddol i greu cynllun olyniaeth lwyddiannus.
Cam 1: Gosod nod personol
- Pa werth rydych chi ei eisiau ar gyfer y cwmni? Byddwch yn realistig wrth bennu'r targed hwn.
- Beth yw'r amserlen ar gyfer trosglwyddo perchenogaeth? A fydd yn cael ei gyflwyno fesul cam?
- Ydych chi am gynnal perchnogaeth deuluol neu leol?
Cam 2: Gwnewch y gorau o'r gwerth
- Diogelwch unrhyw eiddo deallusol sydd gennych. Tynnwch sylw at unrhyw werth ehangach y gallai fod yn rhan ohono e.e. ceisiadau patent amgen.
- Sicrhewch bod gennych sylfaen amrywiol o gwsmeriaid.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnal ac yn moderneiddio offer a chyfleusterau.
Cam 3: Grymuswch eich tîm team
- Dysgwch i gamu i ffwrdd oddi wrth y gwaith o redeg y busnes o ddydd i ddydd
- Dywedwch wrth eich gweithwyr / cyflogeion a'ch tîm rheoli am y cynllun.
- Nodwch pwy yw eich tîm craidd ac unrhyw olynwyr posibl.
- Cyflwynwch eich tîm rheoli i gyflenwyr a chwsmeriaid allweddol.
Cam 4: Paratowch y busnes i gael ei werthu
- Nodwch unrhyw faterion, a allai effeithio ar werthiant yn gynt yn hytrach na hwyrach.
- Sicrhewch fod gennych ddull effeithiol o adrodd am wybodaeth reoli dda.
- Datblygwch gofnod ar gyfer cyllidebu realistig.
Cam 5: Cynlluniwch y trosglwyddiad / pontio
- Gwnewch yn siŵr fod gennych amserlen ar gyfer y trosglwyddiad.
- Cofiwch gynnwys amser ar gyfer cynllunio treth.
- Chwiliwch am gyngor gan weithwyr proffesiynol, siaradwch â chyfrifwyr corfforaethol a chyfreithwyr.