Cyflwyno syniadau i fuddsoddwyr – yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Rhan 2 - Y daith codi arian
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
An entrepreneur pitching

Dychmygwch hyn. Mae diwrnod eich cyflwyniad marchnata wedi cyrraedd. Rydych chi wedi gweithio'n ddiflino ar eich syniad, wedi aberthu penwythnosau a nosweithiau, ac wedi buddsoddi ffortiwn mewn chwys ecwiti. Rydych chi'n adnabod eich marchnad fel cefn eich llaw. Mae eich syniad yn arloesol, yn chwyldroadol, a gellir cynyddu ei raddfa. Nawr, ymlaen at y cam codi arian - rhan heriol o'r broses fentergarwch. 

Erbyn hyn mae'n debyg eich bod wedi gwylio oriau o raglen Dragons' Den y BBC i gael teimlad o sut beth yw cyflwyno i fuddsoddwyr cyfalaf menter. Er y gall hyn fod yn waith cartref da, mae realiti cyflwyno yn eithaf gwahanol. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw cyflwyno yn ornest ddramatig - mae'n sgwrs am gyfle busnes, gyda'ch cyflwyniad yn y canol. 

Mae pethau haws i'w gwneud na gwneud cyflwyniad marchnata eich cynnyrch i ystafell o fuddsoddwyr profiadol. Mae yna lawer iawn o wybodaeth i'w hymchwilio a'i deall - o beth mor syml ag adnabod  eich cynnyrch, i ddeall tueddiadau a manylion eich marchnad darged. 

Yn dilyn ein blog blaenorol ar sut i greu cyflwyniad marchnata, mae'r blog hwn yn rhoi awgrymiadau allweddol ar sut i roi eich cyflwyniad gyda hyder ac eglurder. 

Beth yw cyflwyniad buddsoddwr? 

Cyfle i fentergarwyr gyflwyno eu cynllun busnes, yn eu geiriau eu hunain, i fuddsoddwyr posibl yw cyflwyniad marchnata. Mae strwythur cyflwyniad marchnata yn eithaf hyblyg, ond fel arfer mae'n cynnwys tair prif adran: 

  • Y cyflwyniad  ei hun – Dyma lle mae buddsoddwyr yn dod i'ch adnabod chi a chithau hwythau. Byddwch yn chi eich hun, a chymerwch hyn fel cyfle i ymgyfarwyddo a pharatoi ar gyfer y cyflwyniad. Ni ddylid tanamcangyfrif y rhan hon, gan ei bod hi'n bwysig eich bod chi a'r buddsoddwr yn dod ymlaen yn dda. 

  • Y cyflwyniad marchnata ei hun – Y prif ddigwyddiad. Dyma pryd y byddwch chi'n cyflwyno'ch cynllun busnes; fel arfer gwneir hyn trwy sleidiau cyflwyniad ac arddangosiad o'ch cynnyrch. 

  • Cwestiynau – Gall cwestiynau fod yn frawychus, ond os ydych chi wedi ymchwilio i'ch diwydiant ac yn adnabod eich cynnyrch yna ni ddylai fod gennych le i boeni. Os gofynnir rhywbeth i chi nad ydych chi'n ei wybod, dywedwch hynny wrthyn nhw. 

Sut i baratoi ar gyfer eich cyflwyniad marchnata ar gyfer buddsoddwr 

Nawr bod gennych chi syniad o beth i'w ddisgwyl, dyma rai awgrymiadau ar sut i gyflwyno'ch hun a'ch cyfle buddsoddi. Nid yw hon yn rhestr wirio gynhwysfawr o bell ffordd ond mae'n ddefnyddiol fel canllaw i gyflwyno cyflwyniad marchnata effeithiol. 

1. Cyflwyno'ch hun yn broffesiynol 

Bydd yr adran hon yn cynnwys pethau y byddwch chi’n ôl pob tebyg wedi’u clywed o’r blaen yng nghyd-destun cyfarfodydd a chyfweliadau. Fodd bynnag, maen nhw yr un mor hanfodol wrth gyflwyno cynnig i fuddsoddwyr. Gall diffyg proffesiynoldeb danseilio hyd yn oed y cynnig busnes cryfaf. 

  • Byddwch yn brydlon – Mae argraffiadau cyntaf yn cyfrif. Mae cyrraedd yn hwyr yn arwydd o ddiffyg trefn ac mae’n dangos amharch tuag at amser buddsoddwr. Gwell cyrraedd yn gynnar, ymgartrefu a chasglu eich meddyliau. Fodd bynnag, peidiwch â bod yn rhy awyddus a chyrraedd yn rhy gynnar gan efallai na fydd buddsoddwyr yn barod a byddant yn gallu gweld eich brwdfrydedd yn fwy o annifyrrwch. Os byddwch chi'n cyrraedd ac yn cael 30 munud neu fwy i'w sbario, ewch i siop goffi gerllaw ac aros yn fanno. 

  • Gwnewch ymdrech gyda’ch ymddangosiad – Does dim angen i chi gyrraedd mewn siwt, ond mae dillad achlysurol smart yn gweithio’n dda. Gall dillad rhy ffurfiol fod yn ormodol ond ni fydd fflip-fflops a siorts bwrdd yn ysbrydoli hyder. Mae ymddangosiad proffesiynol yn gosod y naws ac yn helpu buddsoddwyr i'ch cymryd o ddifri. Mae taro'r hoelen iawn  ar lefel seicolegol i deimlo'n gyfforddus yn bwysig. 

  • Byddwch yn ddidwyll – Mae dechrau ar y droed iawn yn allweddol. Mae buddsoddwyr yn cefnogi pobl cymaint â syniadau. Bydd buddsoddwr eisiau gwybod sut berson ydych chi fel unigolyn, felly byddwch yn chi eich hun yn anad dim, ac adeiladwch ymddiriedaeth. 

  • Cofiwch ymarfer – Os oes angen nodiadau arnoch neu os na allwch chi gofio’r sleid nesaf, mae’n debyg nad ydych wedi gwneud digon o waith paratoi, felly dylech ymarfer nes ei fod yn teimlo’n naturiol i chi. Efallai y byddwch yn ei chael hi’n ddefnyddiol cael ‘cyflwyniad cryno’. Araith o ryw 60 eiliad yw hyn, sy’n hawdd ei threulio sy’n disgrifio’ch busnes cyfan yn gryno. Wrth ddelio ag unigolion lle mae eu hamser yn brin, mae’n bwysig bod yn gryno a chadw eu sylw. Dydych chi ddim eisiau cael eich torri’n fyr oherwydd cyfyngiadau amser yng nghanol cyflwyniad. 

  • Dangoswch eich balchder yn eich tîm – Efallai bod gennych neu nad oes gennych dîm cyflawn ar hyn o bryd. Os oes gennych, bydd buddsoddwyr eisiau clywed ganddynt a gweld a yw eu diddordebau'n cyd-fynd â'ch rhai chi. Mae dod ag aelod o'r tîm i gyflwyniad yn dangos gallu y tu hwnt i'r sylfaenydd. Os byddwch chi'n dod â rhywun gyda chi, gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n gallu ateb y cwestiynau anodd gyda'r un hyder â chi. 

2. Cyflwyno'r cynnyrch yn effeithiol 

Dyma'r foment i ddangos beth rydych chi wedi'i greu a pham ei fod yn bwysig. Mae'r adran cynnyrch yn ateb dau gwestiwn: beth ydych chi wedi'i adeiladu a pham ddylai unrhyw un arall falio amdano? 

  • Y boen – Gadewch i’r buddsoddwr wybod yn union pa werth mae eich cynnyrch yn ei gynnig. Nodwch un angen clir gan gwsmeriaid a sut mae eich cynnyrch yn ei ddiwallu. Ar y cam hwn dim ond un ddylai fod – dylech osgoi gwanhau eich neges. Canolbwyntiwch eich holl ymdrech ar ateb yr un pwynt o boendod hwnnw ac yna ehangwch i gyfleoedd eraill. Mae cryfhau busnes craidd cwmni newydd yn hanfodol i’w lwyddiant. Cymerwch Uber er enghraifft; fe wnaethant yn gyntaf geisio ei gwneud hi’n haws i deithwyr gael tacsis trwy dapio eu ffôn. Daeth gweddill eu stori arloesol i’r fei ar ôl hynny. 

  • Y stori – Mae naratif wedi’i lunio’n dda yn creu cysylltiad emosiynol ac yn eich gwneud chi a’ch cynnyrch yn gofiadwy. Mae buddsoddwyr yn clywed nifer dirifedi o gynigion, felly dydych chi ddim eisiau mynd ar goll yn yr annibendod. Adroddwch eich stori mewn ffordd ddiddorol. Rhannwch yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’ch syniad ac o ganlyniad byddwch yn sicrhau eich bod chi yn sefyll allan. 

3. Ymchwiliwch i'ch buddsoddwyr a'ch cynulleidfa 

Mae deall y naill a’r llall yn bwysig. Erbyn i ddiwrnod y cyflwyniad marchnata gyrraedd, bydd y buddsoddwyr wedi gwneud cryn dipyn o ymchwil amdanoch chi. Mae'n debyg y byddant yn gwybod hanes gwaith ac addysg eich tîm a byddant wedi dod i gasgliadau am eich gallu i weithredu eich syniad. 

Dylech chi wneud yr un fath amdanyn nhw. Dylech drin hyn fel paratoadau ar gyfer cael cyfweliad. Bydd cyflwyniad marchnata am ba mor effeithlon yw eich cod yn swnio'n drawiadol, ond os yw cefndir eich cynulleidfa mewn gwasanaethau defnyddwyr, ni fydd yn golygu llawer mewn gwirionedd. Po fwyaf y byddwch chi'n adnabod eich cynulleidfa, y mwyaf perswadiol y byddwch chi. Dyma rai o'r pethau y dylech chi eu gwneud: 

  • Adnabod eich cynulleidfa – Os nad ydych chi'n gydnaws a’ch gilydd, gall arbed llawer o amser ac ymdrech i ddileu buddsoddwr oddi ar eich rhestr. Mae'r broses codi arian yn hir a dydych chi ddim eisiau bod yn teithio o gwmpas y wlad yn cyflwyno syniad i fuddsoddwyr nad yw eu diddordebau o bosibl yn cyd-fynd â'ch rhai chi. Ymchwiliwch i ffactorau fel arbenigeddau'r gronfa, ei maint, ei galluoedd a'i gwerth ychwanegol, y posibiliadau ar gyfer buddsoddiad dilynol, a phortffolio'r cwmnïau maen nhw'n eu rheoli. Dylai cipolwg cyflym ar eu gwefan ddatgelu'r rhan fwyaf o'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi. 

  • Byddwch yn barod i ategu eich honiadau – Os ydych chi'n mynd i ddweud bod eich marchnad gyfan y gellir ei chyfeirio atynt yn £10 biliwn, ategwch hynny gyda ffeithiau a rhesymeg. Os ydych chi'n defnyddio technoleg fwy arloesol na chystadleuwyr, byddwch yn ymwybodol pam nad yw eich cystadleuwyr yn gwneud yr un peth. Dyma gyfle i ddangos eich ymchwil marchnad a'ch hygrededd technegol. 

  • Paratowch eich sleidiau'n ofalus – Gall pecyn sydd wedi'i wneud yn wael fod yr un mor ddiflas â phrydlondeb gwael. Rhowch yr ymdrech i'w wneud yn ddiddorol, fel ei fod yn llifo’n rhwydd, ac mor syml â phosibl. Dylai sleidiau dynnu sylw at y pwyntiau allweddol yn unig. Bydd y buddsoddwr eisiau canolbwyntio ar yr hyn sydd gennych chi i'w ddweud. 

  • Sicrhewch eich bod chi’n gwybod eich rhifau – Mae bod yn ariannol rhugl yn gwbl hanfodol. Wrth gyflwyno ac ateb cwestiynau, dylai'r metrigau ariannol allweddol fod yn ail natur i chi. Byddwch yn barod i ateb cwestiynau fel 'beth yw eich cymhareb cost caffael i werth oes'. Mae rhuglder gyda'ch materion ariannol yn ysbrydoli hyder. 

A fyddech chi'n ymddiried yn rhywun i gyflawni ei gynllun busnes pe na byddent wedi cymryd yr amser i baratoi'n iawn ar gyfer eu cyflwyniad marchnata? 

Nid yw cyflwyno i fuddsoddwyr byth yn hawdd, ond gall paratoi a dilysrwydd wneud yr holl wahaniaeth. O gyflwyno'ch hun yn broffesiynol, i adrodd stori gymhellol am eich cynnyrch a chefnogi eich honiadau gydag ymchwil gadarn, mae pob manylyn yn bwysig. Cofiwch, nid dim ond chwilio am syniad gwych mae buddsoddwyr, ond am sylfaenwyr sy'n deall eu marchnad, yn gwybod eu rhifau, ac sydd â'r cadernid i wireddu eu gweledigaeth. 

Er nad oes un fformiwla ar gyfer cyflwyno’ch syniad yn berffaith, gall defnyddio’r awgrymiadau hyn fel canllaw eich helpu i roi eich perfformiad gorau. Peidiwch â bod ofn gadael i’ch unigoliaeth ddisgleirio – gwreiddioldeb ac argyhoeddiad personol yw’r hyn sy’n aml yn gwneud i fentergarwyr llwyddiannus serennu.