Busnes cyfrifol

Banc Datblygu Cymru: adnodd newydd cyfrifol ar gyfer ein heconomi leol.

Ein cenhadaeth yw datgloi’r potensial yn economi Cymru a chynyddu'r ddarpariaeth o gyllid cynaliadwy, effeithiol.

Fel buddsoddwr o blaid cael effaith gadarnhaol ar yr agenda Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ACLl), ein nod yw hyrwyddo:

  • effeithiolrwydd gweithredol
  • twf cynaliadwy
  • gwerth brand
  • ymgysylltu â gweithwyr 
  • meddu ar ddealltwriaeth o amlygiad hirdymor i risgiau systematig

Mae ein strategaeth yn seiliedig ar chwe’ prif biler:

Y chwe’ piler

Mae gweithlu cyfartal ac amrywiol yn allweddol i'n llwyddiant. Mewn gwirionedd, mae 55% o'n gweithwyr yn ferched; gan gynnwys 45% o'n uwch dîm rheoli.

Rydym yn parhau i ddenu a chadw pobl wych trwy gynnig y cydbwysedd cywir o waith ymglymol, cyfleoedd datblygu a thâl cystadleuol.

Rydym yn cysylltu perfformiad a datblygiad gweithwyr i'n nodau gweithredol a strategol. Fe wnaethom ddarparu 290 diwrnod busnes o hyfforddiant a datblygiad eleni yn unig.

Rydym hefyd yn cynnig mynediad i weithwyr a'u teuluoedd at y cynllun CareFirst, ac rydym yn cynorthwyo gyda gofal iechyd trwy gyfrwng ein cynlluniau BUPA a Cashplan dethol.
 

Rydym yn ddiwyd a chyfrifol wrth ddewis cyflenwyr, ac rydym yn anelu at feithrin perthynas dda â nhw. Rydym yn defnyddio porth caffael Llywodraeth Cymru, GwerthwchiGymru, a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

Rydym yn gweithio'n rhagweithiol gyda'r rhai yr ydym yn buddsoddi ynddynt i wella eu cynaliadwyedd hirdymor, gan eu hannog i dyfu ac arloesi. Mae rhai o'n cwmnïau portffolio wedi ennill cydnabyddiaeth eang am eu llwyddiannau.

Rydym yn cyfrannu'n uniongyrchol at ddatblygiad economaidd yn y rhanbarthau lle'r  ydym yn gweithredu ynddynt. Mae ein buddsoddiadau yn creu swyddi a chyfleoedd i gyflenwyr lleol.

Rydym yn sefydlu partneriaethau sy'n caniatáu i'n staff gefnogi'r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt ac rydym yn aelodau o Fusnes yn y Gymuned (ByyG).

Mae ein gweithwyr yn trefnu ac yn cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau elusennol a chodi arian megis y ddawns flynyddol, nosweithiau cwis, pobi cacennau, a nifer o wahanol heriau chwaraeon.

Yn ogystal â buddsoddi mewn cwmnïau eco-gyfeillgar rydym yn ymroddedig i leihau ein heffaith amgylcheddol. Mae mesurau effeithlonrwydd ynni yn cael eu gweithredu ar draws ein swyddfeydd, fel bod y defnydd cyffredinol yn cael ei leihau.

Mae cynnal a chryfhau perthynas â rhanddeiliaid yn hanfodol i ni, ac rydym yn parhau i gefnogi cydweithio agos.

Mae ein prif randdeiliaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Banc Buddsoddi Ewrop, Barclays, Ffederasiwn y Busnesau Bach a Sefydliad y Cyfarwyddwyr.
 

Elusen y flwyddyn

Bob blwyddyn, mae ein staff yn enwebu ac yn dewis elusen y flwyddyn. Ar gyfer 2023/24 rydym wedi dewis Pancreatic Cancer UK. Mae’n annerbyniol bod mwy na hanner y bobl sy’n cael diagnosis o ganser y pancreas yn marw o fewn tri mis. Mae cyfraddau goroesi wedi gwella’n aruthrol ar gyfer y rhan fwyaf o ganserau, ac eto ar gyfer canser y pancreas, nid yw hyn yn wir. Mae Pancreatic Cancer UK yn ymroddedig i ysgwyddo'r anghyfiawnder hwn - maen nhw'n cefnogi pobl â chanser y pancreas nawr, yn ymgyrchu, ac yn ariannu ymchwil hanfodol i drawsnewid y dyfodol. Helpwch nhw i wneud y datblygiadau arloesol y mae eu dirfawr angen ar bobl â chanser y pancreas. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen codi arian.

PCUK

Am fwy o wybodaeth, ewch i weld ein hapêl codi arian sy'n parhau gydol y flwyddyn.