Alwyn Thomas

Mae gen i brofiad helaeth ym maes eiddo yn Ne-orllewin Cymru, gan weithio mewn llywodraeth leol, darparu cyllid ar gyfer cynlluniau eiddo masnachol a chyflawni prosiectau adfywio ehangach.

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, roeddwn yn rheolwr masnachol ar gyfer cwmni cynhyrchu bwyd cynhenid mawr. Wedi gweithio yn y sector cyhoeddus ac mewn diwydiant, mae gennyf ddealltwriaeth o'r heriau y mae cwmnïau Cymru yn eu hwynebu.

Rwy'n mwynhau meithrin perthynas â datblygwyr i hwyluso pob math o gynlluniau datblygu. Rwy'n cael boddhad mawr wrth weld cynlluniau yn symud ymlaen i gartrefi a gweithleoedd o safon uchel.

Rwy'n seiliedig yn ein swyddfa yng ngorllewin Cymru yn Llanelli, gan weithio gyda datblygwyr a chontractwyr ar draws gorllewin Cymru.