Fy rôl i yw helpu ein cwsmeriaid i dyfu a chyflawni eu huchelgeisiau busnes. Rwy'n gweithio gyda phortffolio o fusnesau gogledd Cymru.

Rwyf wedi gweithio ar draws y sectorau bancio busnes a masnachol cyffredinol ers dros 14 mlynedd, gan helpu ystod o gwsmeriaid gyda'u huchelgeisiau i dyfu a datblygu eu busnesau. Ymunais â Banc Datblygu Cymru ym mis Ebrill 2020.
Rwy'n gweithio yn ein pencadlys yn Wrecsam ac yn gweithio gyda chwmnïau ar draws Gogledd Cymru. Rwy'n mwynhau gweithio un i un gyda'n cwsmeriaid, gan ddod â gwerth ychwanegol i'm rôl trwy eu cysylltu â grwpiau cymorth busnes - boed hynny am gymorth ariannol pellach, neu i'w cyflwyno i grwpiau rhwydweithio newydd.
Rwy'n aelod gweithredol o'r Sefydliad Bancwyr Siartredig ac mae gen i gymwysterau ac achrediadau amrywiol o'r Dystysgrif mewn Bancio Busnes i achrediad ar gyfer cefnogi merched mewn busnes.