Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Andy Morris

Rwyf wedi bod yn cefnogi busnesau twf ers bron i 20 mlynedd - fel buddsoddwr cronfeydd cyfalaf menter, a fel ymgynghorydd cyllid corfforaethol.

Roedd y ddwy rôl yn cynnwys gweithio gyda thimau rheoli yn ceisio caffaeliadau, yn chwilio am wariant cyfalaf neu gyfalaf gweithio, ond hefyd yn gweithio gyda pherchnogion yn ystyried eu hopsiynau - olyniaeth p'un ai trwy waredu neu allbrynu a mewnbrynu.

Megis dechrau'r siwrnai yw sicrhau cyllid ac rydw i'n canolbwyntio ar sicrhau bod cleientiaid yn dilyn cynllun strategol, yn cael cyngor da ac yn cael gafael ar gyllid pellach fel y gallant gyflawni eu nodau a chyrraedd eu llawn botensial.

Dechreuais fy ngyrfa yn y diwydiant dur, gan gymhwyso fel cyfrifydd rheoli a sicrhau MBA - tra'r oeddwn yn rhan o'r timau rheoli mewn gwahanol safleoedd ar draws de Cymru.