Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Annie Wood

Rwy'n frwd dros sbarduno newid er mwyn gwella effeithlonrwydd timau a gwella profiad defnyddwyr, gyda'r nod o ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl bob amser.

A minnau eisoes wedi bod yn Rheolwr Tîm ac yn Ddirprwy Reolwr Cronfa gyda Cymorth i Brynu – Cymru, ymunais â'r Tîm Gwasanaethau Eiddo ehangach fel Rheolwr Prosiect yn 2023.

Yn fy swydd bresennol, rwy'n goruchwylio'r gwaith o gyflawni holl brosiectau'r Gronfa Gwasanaethau Eiddo yn llwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys gweithredu a gwella prosesau rheoli achosion, gweinyddu benthyciadau a systemau teleffoni ar draws Cymorth i Brynu – Cymru, Cartrefi Gwyrdd Cymru, a Cymorth i Aros.

Graddiais yn 2013 gyda BSc Econ mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth ac ers hynny rwyf wedi dilyn cymwysterau pellach mewn arweinyddiaeth a rheoli prosiectau. Yn fwyaf diweddar, enillais ardystiad PRINCE2 Agile yn 2024.