Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Ashley Jones

Rwy'n seiliedig yn ein swyddfeydd yn Llanelli, lle rwy'n gweithio gyda busnesau ar draws de-orllewin Cymru.

Ymunais â Banc Datblygu Cymru ar ôl pum mlynedd ym maes bancio. Roedd fy swydd fwyaf diweddar gyda Santander Corporate and Commercial fel rheolwr perthynas.

Rwy'n mwynhau gweithio gyda busnesau lleol, a'u helpu trwy deilwra pecynnau cyllid i'w galluogi i wireddu eu hamcanion. Mae'n deimlad gwerth chweil gweld busnesau yng Nghymru yn tyfu ac yn ffynnu.