Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Cara Williams

Yn fy swydd, rwy’n adolygu ceisiadau am fenthyciadau ar gyfer unig fasnachwyr, busnesau newydd neu fusnesau bach sefydledig yng Nghymru – i’w helpu i ddechrau arni neu dyfu, yn ogystal â darparu cymorth pan fydd busnesau’n cael eu prynu.

Ymunais â’r Banc Datblygu yn 2024, ac rwyf wedi fy lleoli yn y swyddfa yn Wrecsam. Mae hyn yn golygu fy mod yn gallu gweithio gyda busnesau yng ngogledd Cymru a’r canolbarth sydd am sicrhau cyllid o hyd at £50,000.

Cyn ymuno â’r Banc Datblygu, bûm yn gweithio yn y sector cyllid am 6 blynedd mewn rolau amrywiol.

Mae gennyf MSc mewn dadansoddi ystadegol, ymchwil weithredol a risg ariannol gan Brifysgol Caerdydd.