Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Chris Griffiths

Fel arbenigwr cyfalaf datblygu ac olyniaeth, rwy'n strwythuro cytundebau mwy o faint a’r rhai mwy cymhleth ar gyfer y sefydliad.

Gan dynnu ar fwy na 20 mlynedd o brofiad buddsoddi a chynghori, rwyf wedi arwain ar rai o drafodion mwyaf llwyddiannus y cwmni, gan gynnwys: Wales Environmental, Vista Retail Support Services (ymadawiad Westbridge Capital) a Wholebake (ymadawiad Bridges Capital).

Ymunais â'r cwmni fel rheolwr portffolio yn 2003 cyn canolbwyntio ar fuddsoddiadau newydd yn 2007. Mae ein tîm wedi buddsoddi dros £115m mewn dros 275 o fusnesau yng Nghymru.

Rydym yn buddsoddi ecwiti ac yn darparu benthyciadau i fusnesau Cymreig ar bob cam o’u datblygiad, ac mae deall anghenion ein cwsmeriaid yn hollbwysig. Rwy'n annog y tîm i dreulio amser gyda rheolwyr a pherchnogion. Dyma sut yr ydym yn strwythuro'r datrysiadau ariannol gorau ar gyfer ein cwsmeriaid.

Rwy'n Gymrawd o'r Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr.