Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Dave Perez

Fel uwch arbenigwr portffolio, rwy'n credu bod tîm rheoli cryf yn cael effaith wirioneddol ar lwyddiant busnes.

A minnau'n brofiadol wrth strwythuro buddsoddiadau dyled a mesanîn newydd yn ogystal â buddsoddiadau dilynol, rwyf wedi bod yn allweddol mewn rhai o'n buddsoddiadau hirdymor mwyaf llwyddiannus.

Rwyf wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau portffolio ar ystod eang o ofynion cyllid twf, a rwy'n awyddus i annog cwmnïau portffolio i wneud y gorau o'r cyfleoedd buddsoddi twf.

Rwyf yn meddu ar gymhwyster fel Cydymaith o'r Sefydliad Bancwyr Siartredig. Rwy'n gyfrifydd siartredig a ddechreuodd ngyrfa ym maes bancio cyn ymuno â'r cwmni yn 2003.